Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Brwydr Y Bandiau // Cwestiynau Cyffredin

Beth yw e’?

Brwydr y Bandiau cenedlaethol ar-lein. Cynhelir y cylch cyntaf yn ystod mis Awst ar wefan genedlaethol CLICarlein. Byddwch chi, y cyhoedd, yn cael dweud pa fandiau sy’n mynd drwodd i’r rownd derfynol genedlaethol. A bydd ein tîm o feirniaid o’r busnes cerddoriaeth yng Nghymru yn rhoi eu sylwadau hefyd.

Pryd y bydd hyn yn digwydd?

Bydd yn digwydd o’r 1af o fis Awst tan 31 Awst (ar-lein) gyda’r 5 a fydd yn y rownd derfynol yn cael eu gwahodd i gystadlu mewn rownd derfynol fyw ar 18fed Medi 2010.

Pwy all gynnig?

Pawb – dwy amod:

  1. dim ond pobl sy’n byw yng Nghymru’n amser llawn
  2. rhai 13- 25 oed

Ble bydd hyn yn digwydd?

Bydd yn digwydd ar-lein yn www.cliconline.co.uk gyda’r rownd derfynol yng Nghaerdydd yn Stadiwm y Mileniwm ar 18fed Medi 2010.

Pam y dylai pobl ymgeisio?

I gael eich cerddoriaeth allan yna a chael cyfle i chwarae yn y rownd derfynol fyw!

Sut mae pobl yn ymgeisio?

Mae’n syml – anfonwch lun o’ch band, blyrb a thrac atom neu anfonwch eich dolen myspace. Anfonwch eich e-bost at botb@cliconline.co.uk