Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Amgylchedd » Planhigion ac Anifeiliaid

Ni fyddwn yn gallu goroesi heb blanhigion ac anifeiliaid, maent yn dibynnu ar ei gilydd.

Mae planhigion yn darparu ocsigen a bwyd i bobl ac i anifeiliaid. Er mwyn iddynt dyfu mae arnynt angen golau’r haul, dwr a gwastraff anifeiliaid fel maethynnau. Drwy fwyta planhigion, mae anifeiliaid yn helpu i ddosbarthu eu hadau.

Gyda chynefinoedd gwyllt dros y byd i gyd yn diflannu yn gyflym oherwydd datblygiad modern, mae llawer o blanhigion ac anifeiliaid yn wynebu diflaniad. Bydd rhyw 1 ym mhob 10 o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid wedi diflannu erbyn 2050, yn ôl ymchwil a gynhyrchwyd gan Brifysgol Lees yn 2004.

Bydd y tudalennau hyn yn eich cyflwyno i gynefinoedd naturiol y gwahanol blanhigion ac anifeiliaid yng Nghymru a sut y gallwn ofalu amdanynt a’u gwarchod fel y gallwn barhau i werthfawrogi eu harddwch am flynyddoedd lawer i ddod.

Sefydliadau

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.