Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Dwr » Dan Ddwr

  • Os ydych yn ystyried rhoi cychwyn ar unrhyw fath o chwaraeon dan ddŵr, dylech gysylltu â chlwb cofrestredig oherwydd ei bod yn hynod beryglus deifio neu snorcelio heb yr offer a’r dillad cywir
  • Dim ond os ydych yn nofwr hyderus y dylech roi cynnig ar ddeifio neu snorcelio

Deifio

  • Y ffordd fwyaf cyffredin o ddysgu deifio yw trwy ddilyn cwrs lle byddwch yn dechrau mewn pwll nofio ac yn symud i ddŵr agored wrth i chi ddod yn fwy hyderus
  • Dylech wirio a yw’ch clwb deifio lleol wedi cofrestru gydag asiantaeth ddeifio. Fel arall, ni fydd eich cymhwyster yn cael ei gydnabod y tu allan i’r clwb
  • Yr asiantaethau mwyaf poblogaidd yn y DU yw’r British Sub Aqua Club (BSAC) a’r Professional Association of Diving Instructors (PADI)
  • Er mwyn deifio ar eich pen eich hun, rhaid i chi ennill y cymhwyster perthnasol sydd wedi’i gymeradwyo gan asiantaeth ardystio gofrestredig. Cyn i chi fynd ar ddeif gydag unrhyw glwb neu ysgol, byddan nhw’n gofyn i weld eich tystysgrif i wirio a ydych yn ddeifiwr cymwysedig
  • Bydd angen i chi wisgo siwt wlyb i fynd deifio mewn dŵr agored. Dylech fedru rhentu un o’r rhain o’ch clwb deifio lleol, a’r offer anadlu cywir hefyd

Snorcelio

  • Mae snorcelio’n weddol rad ac yn hawdd ei wneud. Mae’r camau sylfaenol yn hawdd eu dysgu
  • Bydd angen masg a snorcel arnoch chi er mwyn gweld ac anadlu o dan y dŵr
  • Mae’n dod yn fwyfwy poblogaidd mynd snorcelio tra ar wyliau oherwydd bod tirwedd dan ddŵr ysblennydd mewn llawer o wledydd y tu allan i’r DU
  • Ceir clybiau y gallwch ymuno â nhw i wella’ch sgiliau ac i wneud ffrindiau fydd yn gallu mynd snorcelio gyda chi

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.