Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Diddordebau » Llenyddiaeth
Mae darllen ac ysgrifennu yn caniatáu ichi ymgolli mewn byd gwahanol a defnyddio’ch dychymyg
Does dim angen llawer arnoch chi i ddechrau ar unrhyw beth ym myd llenyddiaeth. Dim ond ychydig ddalenni o bapur, dychymyg da ar gyfer ysgrifennu, a llyfrgell ar gyfer darllen
Prynu llyfrau
- Mae sawl ffordd o brynu llyfrau erbyn hyn
Gallwch chi eu prynu o siopau llyfrau’r stryd fawr, gan gynnwys Waterstones a WHSmiths, yn ogystal â siopau llyfrau bach annibynnol - Mae hi bellach yn rhatach yn aml i brynu llyfrau dros y we, o safleoedd fel Amazon a Blackwells
- Mae llawer o archfarchnadoedd, fel Tesco, Asda a Sainsbury’s yn gwerthu llyfrau erbyn hyn hefyd
- Mae siopau elusennau a siopau llyfrau ail law yn lleoedd gwych i ddod o hyd i lyfrau yn rhad
Darllen
- Mae darllen yn ffordd wych o ymlacio, a byddwch chi hefyd yn datblygu’ch sgiliau ysgrifennu eich hun oherwydd gallwch chi ddarllen sawl math gwahanol o ysgrifennu
- Does dim rhaid ichi brynu’r holl lyfrau rydych chi am eu darllen. Bydd gan lawer o ysgolion lyfrgelloedd lle gallwch chi fenthyca llyfrau, neu gallwch chi eu benthyca o lyfrgelloedd cyhoeddus hefyd yn rhad ac am ddim
Llyfrgelloedd
- Mae gan lawer o drefi a dinasoedd lyfrgell gyhoeddus lle gallwch chi fenthyca llyfrau yn rhad ac am ddim
- Mae llyfrgelloedd yn ffordd wych o ddysgu mwy am bwnc penodol neu i ddarllen er pleser, beth bynnag fo’ch oed a’ch gallu
- Mae llyfrgelloedd y dyddiau yma’n cynnwys nid yn unig llyfrau, ond hefyd llu o adnoddau gan gynnwys cyfleusterau ar–lein ac amlgyfrwng a phapurau newydd y gallwch chi eu darllen yn rhad ac am ddim
- Mae CyMAL (Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru) yn rheoli rhaglen o’r enw ’@ Eich Llyfrgell Chi’ sydd â’r nod o wella a chynyddu cyfleusterau llyfrgell yng Nghymru. Ymhlith rhai o nodau’r rhaglen mae
- datblygu a hybu adnoddau ar–lein mewn llyfrgelloedd yn y Gymraeg a’p r Saesneg
- cynnal mynediad i’r adnoddau yn rhad ac am ddim
- datblygu gwasanaethau i ddefnyddwyr ag anghenion mynediad unigol
Ysgrifennu
- Oherwydd bod modd ichi ysgrifennu am unrhyw beth y dymunwch, mae’n caniatáu ichi fynegi’ch hun a bod yn greadigol
- Gallwch chi ysgrifennu unrhyw arddull ar lenyddiaeth – gan gynnwys barddoniaeth, straeon a dramâu
Gwyliau Llenyddol
- Os ydych chi’n hoff o lenyddiaeth, yna fe allech chi fwynhau gŵyl lenyddol
- Mae gwyliau llenyddol yn dathlu llyfrau a llenyddiaeth. Fe fydd gŵyl fel arfer yn cynnwys perfformiadau gan awduron sy’n darllen o’u nofelau, y cyfle i gyfarfod ag awduron, gweithdai, a llawer o lyfrau i’w prynu
- Mae un o’r gwyliau llenyddol mwyaf enwog yn cael ei chynnal bob blwyddyn yn Y Gelli Gandryll yng Nghymru. Mae yna rai eraill y gallwch chi fynd iddyn nhw sy’n cael eu cynnal yma a thraw ar hyd a lled y wlad




