Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Diabetes
- Bydd diabetes yn cael ei achosi pan fydd y pancreas yn methu â chynhyrchu digon o’r hormon inswlin. Gall diabetes ddigwydd hefyd os na fydd y corff yn gallu defnyddio inswlin yn iawn
- Bydd inswlin yn trawsnewid y glwcos yn eich gwaed i’r egni y mae ei angen arnoch chi. Heb inswlin, fe fyddai lefelau eich glwcos yn cronni yn eich gwaed
Mae yna ddau fath o ddiabetes:
- diabetes sy’n ddibynnol ar inswlin pan fydd angen i’r dioddefwyr chwistrellu inswlin i mewn i’w gwythiennau eu hunain i helpu i drosi’r glwcos yn egni
- diabetes nad yw’n ddibynnol ar inswlin pan fydd angen i ddioddefwyr gadw at ddiet cytbwys
Y pethau sy’n achosi diabetes
- Gorfwyta neu bod yn rhy dew
- Dim digon o ymarfer corff
- Hanes o ddiabetes yn y teulu
Symptomau diabetes
- Angen gwneud dwr yn rhy aml
- Teimlo’n sychedig
- Teimlo’n hynod o flinedig
- Colli pwysau
- Dioddef o’r llindag (thrush) yn fynych
- Yr organau cenhedlu yn ysu
- Peidio â gweld yn glir
- Os ydych chi’n amau y gallech chi fod yn ddiabetig, ewch i weld eich Meddyg Teulu cyn gynted â phosib




1 Comment – Postiwch sylw
ved12
Rhoddwyd sylw 4 mis yn ôl - 26th December 2011 - 13:00pm
Diabetics is really a serious disease as it requires a complete attention towards patients food. My uncle has diabetics from last two years and we need to pay complete attention to his eatables. He likes sweet a lot and it is strictly restricted for the diabetes patients. Article has detailed information about symptoms and causes.
http://www.areyoudiabetic.net/