Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Rhywiol » Gweithgarwch rhywiol
- I osgoi mynd yn feichiog, dylech chi bob amser ddefnyddio rhyw ddull atal cenhedlu yn ystod rhyw
- Bob blwyddyn, bydd bron i 100,000 o bobl yn eu harddegau’n dod yn feichiog oherwydd eu bod nhw heb ddefnyddio unrhyw ddull atal cenhedlu
- Mae yna lawer o wahanol fathau o ddulliau atal cenhedlu a bydd gwahanol ddulliau yn addas i wahanol bobl
- Cofiwch nad oes unrhyw ddull atal cenhedlu sy’n effeithiol 100%
Condomau
- Wedi’i wneud o latecs tenau iawn, bydd condom yn cael ei osod dros y pidyn pan fydd ar ei godiad i atal sberm rhag mynd i mewn i fagina y ferch
- Mae condomau yn effeithiol 98% os byddan nhw’n cael eu defnyddio’n iawn
- Fe allan nhw amddiffyn partneriaid rhag mynd yn feichiog A’U hamddiffyn rhag heintiau a drosglwyddir trwy ryw, fel HIV. Gwelwch adran HEINTIAU A DROSGLWYDDIR TRWY RYW
- Mae condomau ar gael yn rhad ac am ddim mewn unrhyw glinig cynllunio teulu ac maen nhw’n cael eu gwerthu mewn llawer iawn o leoedd, gan gynnwys fferyllwyr, archfarchnadoedd a pheiriannau gwerthu mewn toiledau
- Mae’n rhaid defnyddio condom newydd bob tro y byddwch chi’n cael rhyw
- Yr unig gondomau y dylech chi eu defnyddio yw'r rhai â Nod Barcud BSI (BS EN 600) a Nod CE ar y pecyn
- Edrychwch am y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ cyn defnyddio condom
- Gall rhai ireidiau ddifrodi condomau yn ddifrifol, felly ni ddylech chi eu defnyddio yn agos atyn nhw. Maen nhw'n cynnwys:
- Elïau haul ac ôl-haul
- Olewau aromatherapi
- Olew bath
- Menyn
- Hufen ia
- Lipstic
- Faselin
- Unrhyw sylwedd neu hufen sydd wedi’i seilio ar olew
- Mae condomau nad ydyn nhw wedi’u gwneud o latecs hefyd ar gael yn eang
Y bilsen atal cenhedlu
- Mae’r bilsen atal cenhedlu (neu' r bilsen gyfun i roi enw arall arni) dros 99% yn effeithiol os bydd yn cael ei defnyddio yn iawn. Bydd merched yn ei chymryd bob dydd i atal dod yn feichiog
- Ni fydd y bilsen yn amddiffyn partneriaid rhag heintiau a drosglwyddir trwy ryw
- Mae’r bilsen yn gweithio trwy ddefnyddio dau hormon – estrogen a phrogestin – i atal ofyliad (pan fydd yr ofari yn rhyddhau wy)
- Gall leddfu poenau’r mislif a lleihau’r gwaedu yn ystod y mislif
- Nid yw’r bilsen yn addas ar gyfer pob merch a gall fod â sgïl-effeithiau prin ond difrifol, fel clotiau gwaed (thrombosis), canser y fron a chanser ceg y groth
- Nid yw’n addas ar gyfer smygwyr
- Os ydych chi’n fwy na 12 awr yn hwyr yn cymryd y bilsen, cofiwch ddefnyddio condom bob tro y byddwch chi’n cael rhyw yn ystod y saith diwrnod nesaf gan ei bod yn bosib nad ydych chi wedi’ch amddiffyn
- Hefyd, mae’n bosib na fydd y bilsen yn gweithio os byddwch chi’n chwydu neu’n dioddef o’r dolur rhydd, felly defnyddiwch gondom os ydych chi’n meddwl nad ydych chi wedi’ch amddiffyn
- Mae yna wahanol fathau o’r bilsen atal cenhedlu. Ewch i’r clinig cynllunio teulu neu'ch Meddyg Teulu i gael gwybod pa un sy'n iawn i chi
Pigiad atal cenhedlu
- Mae’r pigiad dros 99% yn effeithiol ac mae’n para at hyd at 12 wythnos ar y tro
- Mae’n gweithio drwy ryddhau’r hormon progestin yn araf i’r corff i atal ofyliad
- Fe all achosi cur pen ac acne, ac achosi ichi ennill pwysau
- Efallai y bydd y mislif yn afreolaidd, neu’n stopio’n gyfan gwbl pan fyddwch chi’n ei ddefnyddio
Ymhlith dulliau eraill o atal cenhedlu mae:
- Y condom i ferched (95% yn effeithiol) – yn cael ei osod yn y fagina
- Y diaffram/cap (92-96% yn effeithiol) – yn cael ei osod yn y fagina
- Pilsen progestin yn unig (99% yn effeithiol ) – yn atal ofyliad. Yn addas ar gyfer smygwyr
- Impiad (dros 99% yn effeithiol) – yn cael ei osod dan groen rhan uchaf y fraich ac yn atal ofyliad trwy ryddhau progestin i lif y gwaed
- System Fewngroth, neu IUS, (dros 99% yn effeithiol) – dyfais blastig fach sy’n cael ei gosod yn y fagina gan ryddhau hormonau i atal ofyliad
- Dyfais Fewngroth, neu IUD, (98-99% yn effeithiol) – dyfais blastig neu gopr fach sy’n eistedd yn y groth gan atal sberm rhag cyfarfod ag wy neu atal wy rhag ymsefydlu yn y groth
- Anffrwythloni benywaidd (dros 99% yn effeithiol) – yn torri’r tiwbiau ffalopaidd yn barhaol i atal sberm rhag cyrraedd wy. Mae angen llawdriniaeth ar gyfer hyn
- Anffrwythloni gwrywaidd (dros 99% yn effeithiol) - yn torri’r tiwbiau sy’n cario’r sberm fel nad oes yna unrhyw sberm yn y semen. Mae’n barhaol ac mae angen llawdriniaeth ar ei gyfer. Mae yna ffyrdd o wrthdroi'r anffrwythloni yma, ond mae'n anodd ac yn ddrud
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglyn â dewis dull atal cenhedlu, beichiogrwydd neu heintiau a drosglwyddir trwy ryw, ewch i weld eich Meddyg Teulu neu’r clinig cynllunio teulu i gael cyngor, neu gwelwch y cysylltau isod.
Dulliau atal cenhedlu brys
- Os ydych chi wedi cael rhyw heb ddefnyddio dull atal cenhedlu, neu os ydych chi’n meddwl ei bod yn bosib bod eich dull chi wedi methu, mae yna ddau gam brys y gallwch chi eu cymryd:
- Pils brys (neu’r bilsen bore wedyn)
Mae’r rhain ar gael yn rhad ac am ddim oddi wrth eich clinig cynllunio teulu lleol neu’ch Meddyg Teulu, ac mae’n rhaid eu cymryd hyd at 72 awr (tridiau) ar ôl rhyw i fod yn effeithiol. Gorau po gyntaf y byddwch chi’n eu cymryd. Gallwch chi hefyd eu prynu o’r fferyllydd os ydych chi'n 16 oed neu’n hyn, am tua £20 - IUD
Gwelwch y wybodaeth uchod. Mae modd ei gosod hyd at bum niwrnod ar ôl rhyw
Os ydych chi’n meddwl bod eich dull atal cenhedlu chi wedi methu, ewch i weld eich Meddyg Teulu neu’r clinig cynllunio teulu cyn gynted â phosib. Mae’r cysylltau isod yn nodi manylion eich clinig agosaf.




