Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Maetheg a Gweithgarwch Corfforol » Anhwylderau Bwyta

  • Un eglurhad o anhwylder bwyta yw patrwm bwyta a allai niweidio eich iechyd.
  • Bydd llawer o bobl ifanc yn rhoi cynnig ar wahanol ddietau neu’n penderfynu bwyta diet llysfwytäol neu feganaidd, a chyn belled â’u bod nhw’n bwyta’r holl faetholion hanfodol yn y dognau iawn ni ddylen nhw ddioddef unrhyw broblemau â’u hiechyd. Fodd bynnag, os yw’ch patrwm bwyta yn rheoli’ch bywyd, yna fe fyddai’n beth da ceisio help a chyngor.
  • Mae’n bur debyg bod yna nifer o bethau sy’n achosi anhwylderau bwyta a gall y rhain gynnwys digwyddiadau trawmatig, problemau yn yr ysgol, y coleg neu'r gwaith, eich perthynas â’ch teulu neu’ch perthnasoedd personol eraill, a diffyg hyder.
  • Gallwch chi ddod o hyd i lawer mwy o wybodaeth am anhwylderau bwyta yn www.b-eat.co.uk/Home sef gwefan sy’n rhoi llawer o fanylion am anhwylderau bwyta penodol a chyngor a chyfarwyddwyd mwy cyffredinol ar y pethau sy’n eu hachosi a lle i gael help.
  • Dyma’r tri anhwylder bwyta y gallech chi ddod yn ymwybodol ohonyn nhw:
  • Anorecsia Nerfol – mae’r anhwylder bwyta yma’n ymwneud ag emosiynau a theimladau. Bydd pobl â’r anhwylder yma’n ceisio rheoli eu bywydau drwy ganolbwyntio ar fwyd. Byddan nhw’n bwyta ychydig iawn o fwyd ac efallai y byddan nhw hefyd yn ymarfer corff er mwyn llosgi’r calorïau. Oherwydd y newidiadau cemegol mae hyn yn eu hachosi yn eu corff fe fydd yr ymennydd yn anfon negeseuon a fydd yn ei gwneud yn anodd penderfynu’n synhwyrol ynglyn â bwyd.
  • Bwlimia Nerfol – fel anorecsia, mae yna gysylltiad rhwng yr anhwylder yma ac emosiynau a theimladau. Bydd pobl â’r anhwylder yma’n bwyta llawer iawn o fwyd pan fyddan nhw â bwlch emosiynol yn eu bywydau, ond fe fyddan nhw am gael gwared o’r bwyd trwy naill ai cymryd carthyddion neu chwydu neu’r ddau.
  • Anhwylder Pyliau Gorfwyta – mae’r anhwylder yma’n debyg i bwlimia ond ar ôl bwyta llawer iawn o fwyd ni fydd pobl â’r anhwylder yma’n ceisio cael gwared ar y bwyd. Gall llawer o bobl â'r anhwylder yma ddod yn ordew. Mae yna anhwylder arall sy’n debyg, sef bwyta barus, pan fydd pobl yn bwyta ar adegau pan nad ydyn nhw’n newynog. Mae’r rhan fwyaf o’r bobl â’r anhwylder yma yn rhy drwm a gallan nhw roi’r argraff eu bod nhw’n hapus ac yn llawen, ond mae’n bosib eu bod nhw’n defnyddio’u pwysau i osgoi wynebu eu problemau.
  • Mae yna nifer o wefannau a sefydliadau sy’n gallu rhoi llawer o wybodaeth, cefnogaeth, cyngor a chyfarwyddyd ichi os oes gennych chi unrhyw broblemau â bwyta a diet, neu os ydych chi’n pryderu ynglyn â ffrind neu aelod o'r teulu rydych chi'n meddwl bod ganddyn nhw broblemau â bwyd a bwyta. Mae’n bwysig iawn gofyn am help gan y bydd yn hynod o anodd ichi ymdopi â’r problemau mae anhwylderau bwyta’n eu hachosi ar eich pen eich hun, ac mae angen ichi ddeall effeithiau tymor hir newidiadau llym i’ch diet a’ch patrymau bwyta.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.