Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Tai » Digartrefedd

Mae bod yn ddigartref yn golygu peidio â bod a chartref rheolaidd, diogel y gallwch deimlo yn ddiogel ac yn gysurus ynddo. Gall olygu peidio â bod a tho uwch eich pen a gorfod cysgu ar y stryd.

Gall hefyd olygu nad oes gennych unrhyw le i fynd a’ch bod yn aros gyda ffrindiau neu mewn llety dros dro fel gwesty gwely a brecwast. Felly, efallai fod gennych do uwch eich pen, ond rydych yn dal yn ddigartref. Gelwir pobl yn yr amgylchiadau hyn yn aml yn ‘bobl ddigartref guddiedig.’

Mae yna lawer o resymau pam fod pobl yn mynd yn ddigartref. Efallai eich bod wedi cweryla gyda’ch teulu, eich bod yn methu aros yn eich tŷ oherwydd na allwch bellach ei fforddio, efallai eich bod wedi gadael cartref oherwydd eich bod wedi dioddef camdriniaeth neu drais domestig neu eich bod wedi cael eich troi allan.

Beth bynnag fo’r rheswm, mae’n bwysig sylweddoli nad yw peidio bod â rhywle parhaol i fyw ynddo yn rhywbeth i fod â chywilydd ohono ac mewn rhai enghreifftiau efallai nad eich bai chi yw hyn o gwbl.

Mae yna nifer o sefydliadau a all eich helpu am ddim ac yn gyfrinachol i sicrhau bod gennych rywle diogel i aros ynddo cyn gynted â phosibl.

Mae’r adran hon yn rhoi gwybodaeth am beth i’w wneud os byddwch yn mynd yn ddigartref a sut i rwystro bod yn ddigartref.

Sefydliadau

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50