Gwybodaeth » Tai » Digartrefedd » Bod yn ddigartref
- Gall bod yn ddigartref fod yn brofiad brawychus ac unig. Nid yw bod yn ddigartref o reidrwydd yn golygu eich bod yn cysgu ar y stryd, mae'n golygu nad oes cartref gennych. Er enghraifft, gallwch gael eich ystyried yn ddigartref os ydych:
- Yn aros gyda ffrindiau neu aelod o'ch teulu dros dro
- Yn aros mewn gwely a brecwast dros dro
- Yn byw mewn llety anaddas neu beryglus
- Yn byw rhywle nad oes gennych hawl cyfreithiol i fyw ynddo (sgwatio)
- Os ydych yn ddigartref, rhaid i chi gysylltu â'ch awdurdod lleol i gael cymorth a chyngor cyn gynted â phosib a chysylltu â Shelter Cymru am gefnogaeth bellach
- Ceisiwch ddod o hyd i rywle diogel i aros ynddo. Mae hosteli a llochesau ar gael ar gyfer y digartref ond maent yn brysur iawn yn aml felly peidiwch â dibynnu ar y rhain. Ceisiwch ofyn i ffrindiau ac aelodau'ch teulu a fyddent yn hapus i roi llety i chi, neu arhoswch mewn gwely a brecwast os medrwch fforddio hynny. Peidiwch â gadael i falchder eich rhwystro rhag gofyn am gymorth. Am wybodaeth bellach ar ddod o hyd i rywle i aros, darllenwch ein hadran Sut i osgoi mynd yn ddigartref
- Mae cysgu ar y stryd yn beryglus iawn, a dylech ystyried hyn dim ond ar ôl ystyried pob opsiwn arall. Gwelwch yr adran Cysgu ar y stryd am gyngor ar gadw'n ddiogel os byddwch yn y sefyllfa hon




