Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Tai » Digartrefedd » Sut i osgoi mynd yn ddigartref

  • Os ydych yn meddwl ei bod hi'n bosib y byddwch yn mynd yn ddigartref, mae'n bwysig gweithredu'n syth. Ceisiwch gymorth sefydliadau fel Shelter Cymru neu'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth ar unwaith
  • Os ydych rhwng 16 a 25 oed, mae sawl peth y gallwch eu gwneud er mwyn osgoi mynd yn ddigartref
  • Dylech gysylltu â'ch awdurdod lleol yn gyntaf. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol, gall yr awdurdod lleol ddod o hyd i lety ar eich cyfer
  • Os ydych mewn 'angen blaenoriaethol', gall fod gan yr awdurdod lleol ddyletswydd gyfreithiol i gael llety ar eich rhan chi. Rydych mewn angen blaenoriaethol os ydych:
    • Yn feichiog
    • â phlant dibynnol sy'n byw gyda chi
    • Yn 16 neu 17 oed
    • Yn berson dan 21 oed a oedd wedi gwarchod, rhoi llety i, neu faethu rhywun pan roeddech rhwng 16 a 18 oed, ond nad yw'n gwneud hynny bellach
    • Yn berson dan 21 oed sy'n agored i niwed ar ôl cael eich gwarchod, eich lletya, neu'ch maethu
    • Yn ddigartref neu'n wynebu mynd yn ddigartref oherwydd argyfwng, fel llif dwr, neu dân
    • Yn agored i niwed oherwydd salwch meddwl, anabledd corfforol neu reswm arbennig arall
    • Yn berson a oedd gynt yn gweithio dros Luoedd Arfog y Goron yn gyson sydd wedi bod yn ddigartref ers gadael y fyddin
    • Wedi'ch cadw yn y ddalfa
    • Yn agored i niwed gan eich bod wedi gadael eich llety oherwydd bod person arall wedi'ch treisio neu wedi bygwth trais
  • Cofiwch, mae hawl gan bob person ifanc gael cyngor ar ddigartrefedd a thai, ond nid dyletswydd yr awdurdod lleol yw dod o hyd i lety ar eich cyfer oni bai eich bod mewn categori 'angen blaenoriaethol' fel a restrir uchod
  • Peidiwch â dibynnu ar bobl eraill i ddod o hyd i lety ar eich cyfer os nad oes rhaid. Os yw'n bosib, gwnewch gynllun llety hirdymor cyn gadael eich cartref er mwyn osgoi mynd yn ddigartref
  • Os ydych yn digwydd bod heb lety, gallwch fynd i hosteli argyfwng ond ni allwch fod yn sicr y bydd lle ar eich cyfer. Os ydych yn fenyw sy'n dianc rhag trais teuluol, fel arfer gallwch gael lle mewn ty noddfa i ferched ond ffoniwch ymlaen llaw i sicrhau y gallwch gael llety diogel y noswaith honno
  • Os ydych yn wynebu mynd yn ddigartref oherwydd dadfeddiant (eviction), siaradwch â'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth a all gynnig cyngor am eich hawliau fel tenant
  • Os ydych yn ystyried gadael eich cartref oherwydd dadlau neu chwalu yn eich teulu, ystyriwch bethau'n gyntaf. Gall nifer o bobl sy'n gwneud hyn fynd yn ddigartref. Edrychwch ar ein hadran GADAEL EICH CARTREF ar gyngor ar ddatrys problemau teuluol ac aros yn eich cartref neu ffoniwch Gwasanaeth Cymodi Llamau ar y rhif ar waelod y dudalen os ydych yn poeni am siarad â'ch teulu ar eich pen ei hun
  • Gall bod yn ddigartref fod yn frawychus a pheryglus felly osgowch hwn os yw'n bosib a cheisiwch gymorth os oes angen. Bydd bob amser rywun a all gynnig cyngor ynglyn â'r hyn i'w wneud nesaf

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50