Gwybodaeth » Tai » Dod o hyd i lety ar rent
Llety wedi ei rentu yn breifat yw’r math mwyaf cyffredin o lety yr ydych yn byw ynddo pan fyddwch yn gadael cartref am y tro cyntaf. Mae llawer math gwahanol o dai yn cael eu rhentu yn breifat ar gael yn seiliedig ar eich anghenion e.e. llety neu gyfleusterau annibynnol gyda e.e. cegin ac ystafell ymolchi yn cael eu rhannu gyda phobl eraill. Gall safon y llety hefyd amrywio’n fawr.
Er y gall byw ar eich pen eich hun roi annibyniaeth i chi, mae rhai anfanteision hefyd. Gall y rhent fod yn uchel, mae angen talu’r arian ymlaen llaw (blaendal a rhent ymlaen llaw yn y rhan fwyaf o achosion), ac efallai y bydd landlordiaid yn amharod i osod eu heiddo i bobl ifanc a rhai sy’n hawlio budd-daliadau.
Cyn penderfynu symud allan bydd angen i chi feddwl yn ofalus am beth y gallwch ei fforddio, y math o lety y mae arnoch ei angen ac sydd ar gael i chi, sut beth fydd rhannu cartref gyda phobl eraill, talu pethau fel treth y cyngor, y dreth dŵr a beth fydd angen i chi ofyn i’r landlord neu’r asiantaeth gosod tai.
Efallai y gallwch gael helpu i dalu’r rhent drwy hawlio Budd-dâl Tai ond nid yw hyn bob amser yn talu’r rhent llawn. Gall unrhyw un dros 16 oed hefyd ymgeisio am lety a osodir gan Gynghorau a Chymdeithasau Tai. Mae’r rhain yn sefydliadau sy’n berchen ar eiddo ac sy’n cynnig llety ar rent rhad i bobl ar incymau isel.
Mae’r adran hon yn edrych ar ddod o hyd i lety ar rent a beth i feddwl amdano cyn i chi symud.
Sefydliadau
-
Up My Street
Guide to what it's like to live in many areas across the UK
-
LetLink
Independent online letting centre with a range of information and directory of letting agents all over the UK
-
National Rent Deposit Forum
a national charity that supports rent deposit schemes
-
Direct Gov
Beginners Guide to council tax
-
Channel Four
Guide to rented housing




