Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Tai » Prynu Cartref Newydd » Cymdeithasau Tai

  • Gan fod pris eiddo wedi codi llawer iawn dros y degawd diwethaf, ni all nifer o bobl ifanc fforddio prynu eu cartref cyntaf bellach
  • Mae cymdeithasau tai yn sefydliadau nad ydynt yn gwneud elw. Fe allent roi cymorth i chi ar ddod o hyd i lety fforddiadwy
  • Mae nifer o gymdeithasau tai bellach yn cynnig cynlluniau tai fforddiadwy i roi cymorth i bobl sy'n prynu eu cartref cyntaf
  • Syniad y cynllun yw bod eich cymdeithas tai lleol yn berchen ar ran o'ch ty chi. Er enghraifft, os mai dim ond 70% o'r cartref y gallwch ei fforddio, mae'r gymdeithas tai'n cytuno i brynu'r 30% arall gyda chi. Wedyn, pan werthwch eich cartref, bydd y gymdeithas tai'n cymryd 30% o'r swm y cewch trwy ei werthu
  • Mae cynlluniau tai fforddiadwy'n ffordd dda o gael cymorth i brynu mewn ardaloedd na fyddwch yn gallu fforddio prynu ynddynt fel arall
  • I ddarganfod pa fathau o gynlluniau tai fforddiadwy sydd ar gael yn eich ardal leol, rhaid i chi gysylltu â'r cymdeithasau'n uniongyrchol

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50