Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Tai » Prynu Cartref Newydd » Dod o hyd i eiddo

  • Pethau i'w hystyried
    Cyn i chi ddechrau chwilio am gartref newydd, dylech ystyried sawl peth. Er enghraifft
  • Tua faint allwch ei fforddio?
    • Mae hwn tua thair gwaith eich cyflog blynyddol neu os mai dau ohonoch chi sy'n cael morgais, tua dwywaith a hanner eich cyflogau chi. Bydd rhai benthycwyr yn cynnig mwy, ond byddwch yn wyliadwrus o gyfraddau llog uchel a thermau penodedig na fedrwch eu hail-drafod
  • Ble hoffech fyw?
    • Er enghraifft, a ydych am fod yn agos at eich teulu, eich gwaith neu'ch ffrindiau? Gall y rhain fod yn ffactorau wrth ddewis lleoliad eich cartref newydd. Rhaid i chi fod yn realistig ynglyn â hyn. Er enghraifft, os ydych chi'n prynu eich cartref newydd, efallai na fydd hi'n bosib prynu yn yr ardaloedd mwyaf poblogaidd, fel yng nghanol y ddinas neu mewn maestrefi poblogaidd, gan fod prisoedd yn tueddu i fod yn uwch yn y llefydd hyn
  • Pa fath o gartref hoffwch ei gael?
    • Ydych chi am gael fflat neu dy ac a hoffech gael ardd neu garej? Mae'r rhain yn benderfyniadau y mae'n rhaid eu hystyried cyn dechrau chwilio am gartref newydd
  • Mae sawl ffordd i edrych am eiddo i'w brynu, gan gynnwys adran eiddo eich papur newydd ac asiantau tai lleol, a thrwy gysylltu ag adeiladwyr tai newydd i ddarganfod y datblygiadau yn eich ardal
  • Os ydych chi'n symud i ardal newydd, mae gwerth chweil gwneud gwaith ymchwil cyn dechrau chwilio am eiddo. Ceisiwch fynd am dro yn yr ardal i gael syniadau o'r amwynderau lleol fel siopau ac ysgolion. Mae'n syniad da hefyd edrych mewn ffenestri asiantau tai i sicrhau y gallwch brynu yn yr ardal

Y broses gyfreithiol

  • Gall fod yn syniad da dod o hyd i gyfreithiwr cyn dechrau chwilio am eiddo. Yna, ni fydd yn rhaid i chi frysio i gael un pan ddewch o hyd i dy rydych am ei brynu. Gofynnwch i'ch ffrindiau a'ch teulu a ydynt wedi clywed am gyfreithwyr da. Mae'n bwysig eich bod yn gallu ymddiried yn y person yma
  • Mae cyfreithwyr yn trin y broses trosglwyddo eiddo. Mae hwn yn waith cyfreithiol a gweinyddol sy'n ymwneud â throsglwyddo perchnogaeth tir pan brynwch eiddo. Bydd gwaith eich cyfreithiwr yn cychwyn pan gaiff eich cynnig am yr eiddo ei dderbyn a byddant yn codi tâl am y gwaith, felly holwch am y gost cyn parhau gydag unrhyw beth

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50