Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Teulu a Pherthnasau » Mewn Gofal » Maethu

  • Mae gan bob teulu ei broblemau, ond weithiau bydd teulu’n cael anhawster ymdopi â nhw, a gallech chi dioddef o ganlyniad i hyn. Mae’n bosib fod hyn wedi arwain at ryw fath o esgeulustod neu gam-drin ac efallai y bydd yn rhaid i rywun arall ofalu amdanoch chi am gyfnod
  • Fe fydd yr awdurdod lleol yn trefnu ichi fynd i fyw gyda gofalwr maeth tra bod rhywun yn helpu’ch rhieni. Nid eich bai chi yw hyn, ac nid cosb ydyw. Mae’n rhoi cyfle i’ch rhieni gael trefn ar eu bywyd ac yn sicrhau bod gennych chi yr amgylchedd gofalgar y mae ei angen arnoch chi
  • Efallai mai am gyfnod byr yn unig y byddwch chi wedi’ch gwahanu oddi wrth eich teulu, neu fe allai fod yn drefniant tymor hir. Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o blant maeth yn dychwelyd at eu teuluoedd ar ryw adeg
  • Os na allwch chi ddychwelyd at eich teulu, fe fydd y gwasanaethau cymdeithasol yn dod o hyd i deulu maeth tymor hir i ofalu amdanoch chi. Gallai hyn ymddangos yn syniad brawychus, ond mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn ceisio gwneud yr hyn y maen nhw’n ei feddwl sydd orau drosoch chi. Fe fydd yn anodd ar y dechrau, ond ceisiwch siarad â’ch gofalwr newydd am eich teimladau, ac fe fydd pethau’n gwella gydag amser
  • Mae gorchymyn gofal yn orchymyn i’r gwasanaethau cymdeithasol fod yn gyfrifol amdanoch chi yn hytrach na’ch rhieni.  Bydd gorchymyn gofal yn para nes eich bod chi’n 18 oed, oni bai fod rhywun yn gofyn i’r llys godi’r gorchymyn gofal
  • Mae cael eich tynnu oddi wrth eich teulu yn anodd iawn. Rydych chi’n debygol o deimlo’n ddig, yn ofidus, a bod eich rhieni neu’r gwasanaethau cymdeithasol wedi’ch bradychu. Mae’n naturiol teimlo fel hyn, ond peidiwch â chadw caead ar eich emosiynau. Siaradwch â’r gwasanaethau cymdeithasol am eich teimladau. Maen nhw’n gweithio gyda phobl ifanc bob dydd ac fe fyddan nhw’n deall ac yn awyddus i helpu
  • Er nad yw’n teimlo fel hynny ar adegau, am eich lles chi y mae pawb yn meddwl. Efallai eich bod chi’n teimlo’n ddryslyd ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd, neu’n pryderu am eich dyfodol, felly siaradwch â rhywun. Fe fydd hyn yn eich helpu i ddeall
  • Os na allwch chi siarad â’r gwasanaethau cymdeithasol neu’ch gofalwr, mae sefydliadau yn aros am eich galwad a gallwch chi drafod â nhw yn gyfrinachol ac am ddim. Gwelwch y cysylltau isod am rifau ffôn y bobl sy’n gallu helpu.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.