Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Aderyn Aur Yn Nyddu’n Fuan

Postiwyd gan maxwell90 o Abertawe - Cyhoeddwyd ar 15/11/2011 am 10:46
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Celfyddyd, Diwylliant, Pobl, Technoleg

  • Aeroplane
  • Another aeroplane

English version

Rydym yn gwybod fod ailgylchu yn rhywbeth pwysig i wneud ar gyfer yr amgylchedd, ond awyrennau, o ddifrif? Wel, yn ôl arlunydd Cymraeg Marc Rees dyma'r achos yn bendant, ac mae syniad ef i adnewyddu'r corff awyren DC9 wedi tynnu sylw hefyd.

Yn 2012 bydd y darn o waith celf anghyffredin o'r enw Adain Avion yn dod i Gymru. Mae'r awyren ei hun wedi cael ei ddarganfod a'i drawsffurfio gan gerflunydd a dylunydd Sbaeneg Edwardo Cajal. Pwrpas yr awyren yw ymddwyn fel bwlch celf symudol, cerflun cymdeithasol a chapsiwl cyfnod teithiol.

Bydd yr aderyn rhyfeddol hwn gydag adain aur yn nythu yn Abertawe, Glyn Ebwy, Llandudno a Llandŵ. Ar gyrhaeddiad i bob safle, bydd Avion yn cael ei osod i'w le  gan dîm mawr o bobl o glybiau chwaraeon lleol, grwpiau ieuenctid a sefydliadau cymunedol. Byddant wedyn yn cynnal rhaglen o weithgareddau diwylliannol sydd yn dangos yr hanes nodedig a diwylliant yr ardal, yn ymglymu artistiaid cyfoes a chymunedau lleol, i gyd yn cael ei guradu (curated) gan Rees.

Cydweithiodd Rees gyda rhai o artistiaid gorau'r wlad.

Yn Abertawe, byddent yn tyfu llysiau yn barod am frwydr coginio gymunedol. Yng Nglyn Ebwy bydd yr awyren yn cyrraedd yr un amser a phen-blwydd ingol cau'r melinau haearn  yng Ngwaith Dur y dref. Yn Llandudno bydd yna 600 o blant yn actio fel goleuadau stribedi glanio a llwybr anwedd yr awyren wrth iddo gael ei dynnu ar hyd y prom gan Dîm Rygbi Gogledd Cymru. Mae yna dros 2,000 o gyfranogwyr yn barod, 40 o artistiaid a 65 grŵp cymunedol yn cymryd rhan yn y prosiect - ac mae'r niferoedd yn dal i godi. Felly mae yna dal siawns i ti cymryd rhan!

Pen taith siwrnai Adain Avion dros Gymru ydy Eisteddfod Genedlaethol Cymru, sydd yn Llandŵ, Bro Morgannwg yn 2012.

Newyddion - Categorïau - Celfyddyd

Gwybodaeth - Amgylchedd - Pobl - Ailgylchu

Gwybodaeth - Chwaraeon a Hamdden - Y Celfyddydau Gweledol - Amgueddfeydd ac Orielau Celf

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.