Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Adolygiad: Matt Cardle

Postiwyd gan Ihavethecyrusvirusx o Rhondda Cynon Taf - Cyhoeddwyd ar 28/03/2012 am 12:04
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Cerddoriaeth, Llwyfan, Teithio

  • ticed

English version

Ar ôl cyfweld â'r enillydd X Factor 2010, Matt Cardle, yn ddiweddar i CLIC, cefais ddau docyn am ddim i'w weld yn fyw yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, ar nos Sadwrn, 24 Mawrth.

Pan gyrhaeddodd Josie a finnau'r lleoliad, roedd yn eithaf distaw. Disgwyliom nes i'r drysau agor. Edrychom ar y nwyddau, prynais raglen, ac yna aethom i mewn a chael sgwrs nes i'r perfformiad cefnogol ddod ymlaen.

Mae Roxanne Emery yn gantores-ysgrifennwr caneuon 27 oed wedi'i selio yn Llundain. Pan gymerodd hi at y llwyfan i gychwyn, roeddwn i'n meddwl ei bod hi tua 19, ond yna doedd gen i ddim sbectol arnaf ac roeddwn i yn ôl yn rhes N.

Roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n gantores dda ac roeddwn i'n hoffi'r ystyr tu ôl i'w chaneuon, ond dwi ddim yn si?r os byddwn i'n rhuthro allan i brynu'r albwm. Dwi'n meddwl bydda'n rhaid i mi adael i'w cherddoriaeth hi dyfu arnaf i ychydig mwy. Y gân roeddwn i yn hoffi oedd Late ac roedd am ei mam oedd wedi marw. Y daith yma oedd y tro cyntaf iddi ganu'r gân yn gyhoeddus gan ei fod yn anodd iddi wneud yn y gorffennol.

Ar ôl perfformiad Roxanne, roedd toriad hanner awr, i brynu CD Roxanne, i gael c?n poeth neu hufen iâ a mynd i'r bar. Ar ôl ymladd fy ffordd i geisio cael d?r a Josie yn ffwdanu am y ffaith bod ei llwy blastig i'r hufen ia wedi torri, roedd hi'n amser setlo i lawr unwaith eto i Matt ddod ar y llwyfan.

Pylodd y goleuadau a chychwynnodd y gerddoriaeth. Roedd ffans yn sgrechian a phobl yn siantio, "Matt! Matt! Matt!" Roedd y gerddoriaeth yn swnio'n eithaf grymus wrth i'r dorf ddisgwyl yn awyddus. Yn sydyn dyma sbotolau yn taro canol y llwyfan a dyna le'r oedd Matt yn sefyll gyda'i gitâr. Cododd s?n y sgrechian wrth i Matt groesawu pawb a diolch iddynt am fod yno.

Canodd Matt y caneuon i gyd o'i albwm newydd, Letters, oedd yn cynnwys Reflections, Walking On Water a fy ffefryn, Stars And Lovers.

Am bob cân roedd Matt yn esbonio ychydig o'r stori tu ôl iddynt. Fe wnaeth gyfaddef ei fod wedi gwneud rhai pethau yn y gorffennol roedd yn difaru fel cael perthynas efo dwy ferch a sylweddolodd fod teimladau tri pherson yn rhan o hyn ac ysgrifennodd y gân Faithless. Roedd Beat Of A Breaking Heart yn rhywbeth ddigwyddodd iddo cyn iddo fynd i recordio'r albwm Letters, felly ysgrifennodd y gân a cafodd ei gynnwys ar yr albwm.

Trwy'r noson, roedd y dorf yn canu gydag ef a phob un methu helpu bod â gwen ar eu hwyneb. Roedd pawb i weld mewn hwyliau positif ac yn dawnsio i'r caneuon ac yn cael amser da yn gyffredinol.

Wrth i'r band adael y llwyfan, cymerodd Matt ganol y llwyfan unwaith eto a dechrau canu'r gân fuddugol o The X Factor, When We Collide. Yn anffodus roedd rhaid i rywun fynd ar y llwyfan i stopio Matt yng nghanol y gân gan fod merch yn y rhes flaen yn sâl.

Stopiodd Matt chwarae yn syth a neidio oddi ar y llwyfan gydag aelodau eraill y staff a theulu'r ferch. Roedd y gynulleidfa i gyd methu deall beth oedd wedi digwydd gan mai dim ond lleiafrif bach o'r gynulleidfa oedd yn gallu gweld beth oedd wedi digwydd.

Aeth Matt oddi ar y llwyfan am ychydig cyn i'r tîm diogelwch fynd a'r ferch allan i wneud yn si?r ei bod hi'n iawn. Munudau wedyn daeth Matt yn ôl, a gadael i ni wybod fod o'n falch o ddweud fod y ferch yn teimlo'n well a pharhaodd gyda'r gân.

Roedd y noson gyfan yn anhygoel a dyma oedd fy nghyngerdd iawn cyntaf i. Fe wnes i fwynhau yn fawr iawn ac os byddaf yn cael y cyfle i weld Matt yn fyw eto, byddwn i yn neidio am y cyfle.

Hoffwn ddiolch i CLIC am roi'r tocynnau i mi a rhoi'r cyfle i mi gyfweld â Matt mis diwethaf. Mae'n ddyn hyfryd, diffwdan ac mae ganddo lais angel.

Tudalennau Celfyddydau Perfformio

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50