Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

BBC Sound Of 2010: Rhestr Hir Yn Cael Ei Gyhoeddi

Postiwyd gan Sam (Sub-Editor) o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 07/12/2009 am 10:56
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Cerddoriaeth, Materion Cyfoes

  • bbc sound

English Version

Yn gynharach heddiw, fe dynnodd y bobl dda yn y BBC eu pêl grisial allan unwaith eto am y rhestr Sound Of… flynyddol.

Ti’n gwybod; pan maen nhw’n rhagweld yn hyderus pwy fydd seren fwyaf disglair y flwyddyn ganlynol. Mae bron wastad yn cynnwys perfformwyr fydd yn diflannu yn gyfan gwbl. Yr hwyl pan mae’r rhestr hir yn cael ei gyhoeddi ydy i ddyfalu pwy fydd yn hedfan a pwy fydd yn marw.

Ac felly, dyma restr hir y pôl BBC Sound Of 2010…

Daisy Dares You – Yn ôl y pôl “Mae Daisy Coburn sydd yn 16 oed yn gwneud pync byblgym – pop ifanc diamynedd, digywilydd am ffrindiau a theulu a ffansio hogiau”. I mi mae’n swnio’n ofnadwy. Siŵr o fod yn fawr felly.

Delphic – Busnes epig electro indie o Fanceinion sydd ychydig yn Kitsune ac wedi cael ei weld o’r blaen i raddau.

Devlin – Bydda'n barod am glywed y sŵn tuniog yn dod o gefn bysiau. Pam fod pobl yn gwrando ar fiwsig gyda bas trwm ar y ffôn? Pam fod pobl yn gwrando ar unrhyw fiwsig ar ffôn?

The Drums – Mae llawer o bobl yn hoffi The Drums, y ffordd maent yn cymysgu dylanwadau Factory Records i ddihangfa syrffio. Cefais fy nenu gan eu sengl Let’s Go Surfing. Mae pobl yn hoffi eu sioeau byw afieithus. Ond yr unig beth welais i pan oeddynt yn chwarae’r Sŵn fest oedd dynion yn pransio o gwmpas. Doeddwn i ddim yn hoffi hyn. Ond mae llawer o bobl yn hoffi nhw.

Everything Everything
– “Yn fwriadol gelfyddydol ac yn ddigywilydd o afaelgar, gall y band Everything Everything ddangos y ffordd ymlaen yn y sîn indie hen.” Maen nhw’n swnio yn bwnshlyd iawn.

Giggs – Y cyferbyniad polar i Keane, sydd yn briodol. Mae’n ymwneud â bywyd treisgar gyda Giggs, sydd yn ‘4 Real’ a ‘well bad’. Hip-hop Prydeinig tywyll a bygythiol sydd wedi arwyddo i XL yn barod.

Gold Panda – Mae gen i hoffter mawr am Gold Panda, ond dwi wedi synnu ei weld ar y rhestr. Bydd ei alawon sydd wedi’i grefftio mor brydferth yn golygu dim i’r brif ffrwd os nad yw ar hysbysiad ffôn symudol neu fod Snoop Dogg yn rapio drosto. Ffeilio wrth ochr Four Tet.

Ellie Goulding – yn syth allan o Bowys ac yn cael ei chwarae ar Radio 1 a 6 Music yn barod, mae’r pôl yn awgrymu fod “Os byddai Kate Bush, Bjork a Stevie Nicks yn rhannu fflat yn Shoreditch yn 2009, ond yn ychydig mwy call, y sŵn yma fyddai’n ymddangos”. Mae hyn ychydig yn wallgof i rywun sydd yn swnio ychydig fel Little Boots a Lykke Li i ddweud y gwir.

Hurts – Beth ti’n ddweud Hypey? Mae yna ddeuawd electro-pop hynod o gyfrwys gyda gwallt chwedlonol yn sownd i lawr yn y ffynnon? Gobeithio ti ddim yn gwastraffu’n amser i eto Hypey!

Joy Orbison
– Tröwr nobyn da arall yn archwilio’r cyrion cerddoriaeth dawns ac electronig wrth gadw’r curiad a’r bas yn eu lle, ond efallai ychydig yn rhy arbrofol i’r siartiau unfath a’r rhestrau chwarae radio.

Marina & The Diamonds
– “Os byddai Liza Minnelli ifanc yn serennu mewn sioe gerdd Broadway yn dweud stori bywyd Tori Amos, yna efallai byddai’n swnio fel hyn.” Ydy hynna yn apelio? Wir? Dwi’n gwybod fod nhw yn Gymraeg o fath ond wir?

Owl City – Yn berchennog ‘balch’ o adolygiad 1.0/10 gan Pitchfork (ia 1.0 nid 10), mae’r dyn hwn yn syml yn fersiwn llipryn o The Postal Service ac roeddent yn gwneud hyn oes yn ôl. Ond mae wedi cael llwyddiant ysgubol gyda #1 yn America. Gweithia hynna allan.

Rox – Dwi’n dychmygu fod y cyfarfod wedi mynd fel hyn “…reit hogiau, da ni wedi gneud pop, roc, hip-hop a dawns oddi ar y rhestr hon ond mae angen rhywbeth jasi a gydag enaid. Unrhyw syniadau?”

Stornoway – Ychydig yn hwyrach yn y cyfarfod hwn “…Mae gwerin ar goll hefyd. Oes mae angen gwerin ar y rhestr. Fleet Foxes unrhyw un? Dwi newydd feddwl am derm gwych gallem ddefnyddio ‘Bloke Folk’, be ti’n feddwl?”

Two Door Cinema Club – Indie plyciog, bywiog o Ogledd Iwerddon gallai fod wedi ei ryddhau unrhyw amser dros y pum mlynedd diwethaf.

Beth wyt ti’n feddwl? Pwy sydd yn mynd i ymuno 50 Cent, Keane, The Bravery, Corrine Bailey Rae, Mika, Adele a Little Boots yng nghlwb enillwyr y BBC Sound Of…? Mae’r buddugol yn cael ei gyhoeddi yn fuan ym mis Medi felly gad i ni gael dyfaliad da cyn hynny, wyt ti'n barod?

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50