Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Bob Tro Yn Brwydro’r Bwlïod

Postiwyd gan Sam (Sub-Editor) o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 16/11/2010 am 21:32
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Ysgrifennu Creadigol, Addysg, Iechyd, Pobl, Materion Cyfoes

  • fist

English version

Fel dwi’n siŵr dy fod di’n ymwybodol, yr wythnos hon ydy Wythnos Gwrth-fwlio (Tachwedd 15-19). Yn wir mae Caerdydd Yn Erbyn Bwlio wedi lansio ei gystadleuaeth Rhyddid I Fod Yn Fi Fy Hun ar theSprout i’w hyrwyddo (ac os wyt ti eisiau gwybod, bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yfory yn y seremoni Gwobrau Ysbrydoli yn Neuadd y Ddinas, byddwn yn postio’r canlyniadau yn syth wrth gwrs.)

Ond yma yn theSprout mae hi’n wythnos gwrth-fwlio drwy’r adeg felly rydym wedi pori yn ôl trwy’r archif ac wedi amlygu rhai o’r erthyglau gwrth-fwlio gorau rydym wedi’i dderbyn. Felly heb oedi…

Y 411 Ar Fwlio
Yr enillydd gwobr dirty yn cynnig cyngor a chymorth da, gydag ychydig o goegni da, i’r rhai sydd yn cael eu bwlio yn yr ysgol. Cyhoeddwyd gyntaf Mehefin 2009.

Bwlio: Edrycha Arno O’u Hochr Nhw
Mae’r erthygl hwn mae shout sprout yn cymryd y cam dewr o geisio gweld bwlio o bersbectif y bwlïod, yn dadlau fod bwlïod yn aml yn unig ac yn cael eu camddeall.

Formspring Yn Ffurfio Bwlïod
Ymlaen i ‘the internetz’ nawr gydag A Boy yn edrych ar y peryglon potensial o rwydweithio cymdeithasol a bwlio syber. Trafodaeth dda yn yr adran sylwadau ar yr erthygl hon hefyd.

Dwi’n Edmygu Ti…
A nawr i’r Gornel Barddoni gyda Sambow a’i cherdd Dwi’n Edmygu Ti, cerdd hyfryd a chalonnog am hydwythdedd a chryfder.

Lle Tommy
Yn aros yn y Gornel Barddoni am ychydig funudau mwy dyma ddarn gan gesture sydd yn dathlu unigedd a dianc.

Fi Ydy’r Ferch Yna
Ddim yn bell o’r Gornel Barddoni mae Stryd Stori Fyr a dyma le byddem yn darganfod traethawd gwych gan RoLouG sydd yn siartio dirywiad merch annibynnol ddeallus i mewn i rywun sydd yn cael ei bwlio i mewn i gydymffurfio.

Prydain Amlddiwylliannol?
Yn ôl i fywyd, yn ôl i realiti fel ganodd Soul II Soul unwaith, rydym yn dod ar draws dirty eto sydd y tro hwn yn taclo’r myth fod Prydain yn gymdeithas amlddiwylliannol integredig ac yn siarad am y bwlio hiliol sydd yn parhau i ddigwydd bob dydd ym Mhrydain. Cyhoeddwyd gyntaf yn Mai 2009.

Cynhyrfu…
Ac i orffen ein taith fach, rydym yn diweddu gyda darn byr gafodd ei gyhoeddi mis diwethaf. Mae SoRawSUgAr yn cwyno am y genethod maleisus poblogaidd.

DELWEDD:

Sometimes gan just.Luc

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.