Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Camu Allan, Codi Llais, A Chymryd Rheolaeth

Postiwyd gan laura_ashwales o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 09/01/2012 am 17:36
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Iechyd, Pobl, Gwirfoddoli, Yn Gymraeg

  • Photo 1

In English

ASH Cymru mae Diwrnod Cicio’r Sigaréts Allan 2012 ar 4ydd Ebrill ac rydym yn awr yn derbyn cyflwyniadau a chofrestriadau prosiectau. Ar Ddiwrnod Cicio’r Sigaréts Allan mae pobl ifanc o ysgolion, grwpiau ieuenctid a grwpiau cymunedol ar draws y wlad yn cynnal gwahanol ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n tynnu sylw at y problemau a achosir gan Dybaco Mawr a’i angen i recriwtio pobl ifanc yn lle oedolion sy’n rhoi’r gorau i ysmygu neu’n marw oherwydd eu harfer.

Mae’n bwysig cofrestru’ch digwyddiad er mwyn dangos i’r cyhoedd a’r gymuned rheoli tybaco pam y mae’n hanfodol grymuso pobl ifanc ac mae’n anfon neges gref am ymrwymiad pobl ifanc i fynd i’r afael â defnyddio tybaco.

Gallwch gofrestru’ch hun / eich grŵp trwy ddefnyddio’r ffurflen cyflwyno prosiect a’i hanfon at kbd@ashwales.org.uk neu trwy'r post i Tîm KBD, ASH Cymru, 2il lawr, 8 Stryd yr Amgueddfa, Caerdydd CF10 3BG.

Rhagor o wybodaeth: http://bit.ly/xYoC4q

Bowtm Coch A-Z → Tybaco

Digwyddiadau » Kick Butts Day

Gwybodaeth » Iechyd » Smygu ac Alcohol » Smygu

Diwrnod Cicio'r Sigaréts Allan 2012

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.