Caru’r Datgeliadau, Casáu’r Datgelwr
Cafodd Wikileaks, y cwmni rhyngwladol di-broffit sydd yn cyhoeddi dogfennau “datgeliad” ac eitemau o ffynonellau newyddion anhysbys, ei lansio yn 2006 ac ers ei enedigaeth mae wedi gweld nifer o sgandalau, fel cyhoeddi enwau’r rhai oedd yn aelodau o’r Blaid Genedlaethol Brydeinig adain dde eithaf a chynhwysion mewnflwch y potensial ymgeisydd arlywyddol Gweriniaethol Sarah Palin.
Mae’r ffordd mae’n gweithio yn gwbl anhysbys, felly’n amddiffyn y bobl sydd yn datgelu dogfennau ar y wefan.
Dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, mae wedi rhyddhau rhywbeth o’r enw’r Datgeliadau Cebl Llysgenhadaeth UDA, sydd yn cael ei adnabod fel datganiad “diplomyddol”, Mae hyn yn dod ychydig dros bythefnos ar ôl i Wikileaks gyhoeddi tua hanner miliwn o ddogfennau yn gysylltiol â’r Rhyfel Iraq.
Yn bwnc sensitif yn barod wedi’r Ymchwiliad Iraq diweddar a gafodd ei frandio’n “wyngalch” gan gyfryngau’r wlad a’i ystyried yn anghyfreithlon dan gyfraith ryngwladol.
Mae miliwn o Iraqwyr wedi cael eu lladd wedi’r ymosodiad ac wedi plymio’r ddinas i mewn i ryfel cartref a welodd tyrfa o fomio hunanleiddiol rhwng Mwslemiaid Shia a Sunni a llanastr anferth diplomyddol o berthynas gyda’r Dwyrain a’r Gorllewin. Mae Iraq yn llanastr lle nad oes neb wedi cymryd y bai.
Mae’r Pentagon wedi dweud ei fod yn ‘datgeliad mwyaf o ddogfennau cyfrinachol mewn hanes,” ond yn cadarnhau drwgdybiaeth sefydliadau hawliau dynol ac i raddau, ymwybyddiaeth gyffredinol y cyhoedd, wrth iddo gyfaddef fod y UDA wedi anwybyddu arteithio (torture) oedd yn digwydd yn Iraq.
Gollwng y Bom
Y datgeliad mwyaf o ddogfennau cyfrinachol mewn hanes? Ar y diwrnod ymddangosodd y Datgeliadau Cebl ar-lein, mae’n rhaid bod y Pentagon wedi cael trawiad i’r galon gan fod y datgeliadau yma saith gwaith mor fawr.
Cyhoeddodd berthnasau diplomyddol a deunydd cynnil (roedd rhai yn eithriadol o sensitif) a rhyddhau cyfres o gyhoeddiadau difrodus. Roedd Saudi Arabia eisiau’r UDA fomio Iran: i ddweud y gwir, y cwestiwn yw pa wlad gwlff oedd ddim eisiau bomio Iran?
Roedd y datgeliadau yn codi ansicrwydd o raglen niwclear Pakistan ac yn dweud yn glir ei fod yn ariannu terfysgaeth. Roedd syniad wedi arfaethedig o ddymchwel Arlywydd Zadari, ac yn ôl pob sôn roedd y Yemen wedi cynnig yr UDA mynediad anghyfyngedig i Yemen yn enw’r Rhyfel ar Derfysgaeth.
Dyma ychydig o’r degau o filoedd o geblau yn unig. Beth arall sydd i ddod?
Mae arweinydd mewn enw'r sefydliad, Julian Assange yn newyddiadurwr o Awstralia ac mae’n dod o dan bwysau ac archwiliad dwys er y galwadau am “dryloywder”, yn enwedig yn y llywodraeth Brydeinig, mae gwrthgri rhyngwladol wedi bod dros y linciau hyn. Pam? Am eu bod yn “bygwth” diogelwch rhyngrwyd.
Gyda phob parch, os oes dogfennau ar gael – a drwy ddweud ‘ar gael’ dwi’n golygu “yn gysylltiedig i gyfrifiadur” – yna gall unrhyw un gael ffon cof a rhoi nhw ar un a gyrru nhw ymlaen i Wikileaks.
Niwed Cyfochrog
Wrth i mi ddweud hyn, roedd y dogfennau wedi’u cyhoeddi yn eu cyfanrwydd yn gadael cannoedd os nad miloedd posib o ddynion, merched a’u teuluoedd mewn perygl: mae’r UDA yn wlad ddi-wyneb, ond mae aflwyddiant i flotio allan enwau yn hollol anghyfrifol a gall arwain at nifer o fywydau yn cael eu rhoi mewn perygl.
Ond, gyda’r dogfennau hyn yn anferth, mae’r gweinyddwr yn cael ei dorri i lawr – hyd yn oed y gweinyddwr argyfwng – mae’n bosib nad fod nifer fawr o bobl fyd-eang wedi cael mynediad i’r dogfennau hyn: roeddent yn gysylltiedig i bapurau newydd a chwmnïoedd newyddion i gychwyn, cyn iddynt gael eu “rhoi’n fyw”, ond mae nifer gwae wedi disgyn ar Wikileaks yn eu hymdrech i ddarganfod gweinyddwr.
Gyda hyn mewn meddwl, nid allai neb ddweud yn bendant fod y dogfennau hyn ddim yn disgyn i mewn i ddwylo terfysgwyr rhyngwladol fyddai’n lladd mewn gwaed oer.
Mae rhai o’r pethau sydd wedi’u datgelu nid yn unig yn synnu’r cyhoedd byd-eang, ond yn profi i ni fod ein harweinwyr wedi bod yn dweud celwyddau wrthym fwy nag erioed o’r blaen. Sut? Gan eu bod wedi dweud fod yr Iraqwyr ddim yn cael eu cam-drin, ac nad oeddent wedi cysidro bomio Iran.
Roeddent wedi cymharu Arlywydd Iran Ahmadinejad i Hitler, sut mae hynna am ddiplomydd? Mae gwaedd am waed Assange; dywedodd Tom Flanagan, cyn cynghorwr uwch i Arlywydd Canada, yn ddiweddar: “Dwi’n meddwl dylai Assange gael ei lofruddio… Dwi’n meddwl dylai Obama roi contract allan arno… Ni fyddaf yn anhapus os yw Assange yn diflannu”.
Codi’r Larwm
Mae gennym ddynion ar raddfa Flanagan yn annog llofruddiaeth. Wedi ennill Gwobr Amnest Rhyngwladol Cyfryngau Prydeinig 2009 a’r Wobr Indecs o Sensoriaeth Cyfryngau Newydd Yr Economist, mae Assange wedi hawlio ar nifer o achosion mai’r rheswm sefydlodd Wikileaks oedd i atal sensoriaeth ac amlygu drygioni difrifol llywodraethau.
Mae ymgyrch casineb wedi’i gychwyn yn ei erbyn yn yr UDA ac ers 30 Tachwedd mae Interpol wedi rhoi Assange ar ei Rybudd Coch, rhestr o bobl sydd ei eisiau ar gyfer cwestiynu mewn perthynas â throseddau rhyw dros gyfarfod rhywiol ddigwyddodd tra roedd yn Sweden: roedd y prif erlynydd wedi goruwchreoli’r erlynydd, yn tynnu’n ôl y warant wreiddiol i arestio Assange yn dweud “Dwi ddim yn meddwl fod rheswm i ddrwgdybio ei fod wedi cyflawni trais rhywiol”, ond mae hyn yn rhywbeth sydd yn parhau i ddilyn ef.
Mae pobl yn galw iddo gael ei arestio am fradwriaeth a therfysgaeth: am beth yn union? Nid Julian yw'r dogfennau: os byddai perygl erioed yn cael ei roi ar y raddfa hon o ddatgeliad yna efallai na ddylai wedi cael ei ysgrifennu yn y lle cyntaf na’i amlygu i rai gall ddatgelu nhw.
Ydy dyn sydd a’i wyneb yn gyfarwydd i rywbeth mor eang â Wikileaks yn hyd yn oed o bwys? Ydym ni’n clywed yn aml am berchennog y Guardian, neu unrhyw berchennog o unrhyw beth arall ar raddfa mor eang ag y mae Assange, neu ydy’r gweithrediadau yma yn ei erbyn yn rhan o ymgyrch i fychanu mewn dicter dros yr amryw ddatgeliadau mae wedi rhoi ei enw iddynt?
Hacio I Ddarnau
Cafodd Wikileaks ei dynnu oddi ar ei weinyddwr. Cafodd ei hacio, ond nid oes neb yn sicr gan bwy. Mae pobl yn amau’r UDA: nid oes pwrpas os ydynt: mae’r datgeliadau allan yna yn barod i bapurau newydd rhyngwladol fel Le Monde a The Guardian. Os mai’r UDA wnaeth hyn (a does dim prawf) mae’n anghyfreithlon oherwydd cyfreithiau hacio rhyngwladol.
Pan haciodd a sensrodd y stad dotalitaraidd Tsiena Googlemail a’r rhyngrwyd ar y cyfan, roedd pobl wedi gwarthau am y weithred yn dweud ei fod yn rhy barod i sensro.
Ond beth am y diwrnod pan mae’r UDA yn blocio Wikileaks, teclyn sydd gyda’r potensial i amlygu drygioni arweinyddion a darparu lle diogel i faterion cwbl anghywir ddod i’r amlwg? Yr un mater ydyw. Fedri di ddim rheoli’r rhyngrwyd. Fedri di ddim rheoli meddyliau ac ymwybyddiaeth: tra mae arweinwyr yn dweud celwydda wrthym ar raddfa mor fawr â hyn ac mae camdriniaeth hawliau dynol yn digwydd ar raddfa mor fawr, bydd dogfennau yn wastad yn cael eu datgelu tan nad oes mwy ar ôl.
Pa mor gyfrinachol oedd y dogfennau hyn os oedd cymaint o bobl efo digon o fynediad anghyfyngedig i gyhoeddi nhw dros y rhyngrwyd? Paid saethu’r negesydd. Mae drygioni’r UDA yn cael ei ddinoethi mewn ffurf chwarter miliwn o ddogfennau ac fel gwlad sydd wedi cychwyn dau ryfel anghyfreithlon, yn rhyfelgi am drydydd gyda De Korea yn erbyn Gogledd Korea, efallai ei bod yn beth da bod hyn wedi digwydd.
Caru’r Datgeliadau, Casáu’r Datgelwr. Ni all pobl stopio siarad amdanynt. Heb y datgeliadau hyn mae yna debygolrwydd mawr na fyddem erioed wedi gweld y dogfennau yma: ysgrifeniadau fwyaf personol a chynefin grymoedd fwyaf y byd.
Gallai’r dogfennau hyn fod efo’r gallu i newid hanes : eistedda yn ôl a gweld os yw’n digwydd.
Gwybodaeth » Y Byd, Ewrop, y Du a Chymru » Gwleidyddiaeth » Gwleidyddiaeth Gweddill y Byd






