Clywed Dim Drwg
[Mae’r erthygl hon yn mynd allan i Gareth o Burning Red.]
Nid fy mod i’n casáu caneuon cariad. Nid hynny o gwbl. Ond rydw i’n benodol iawn ynglŷn â pha ganeuon cariad rwy’n eu hoffi. Rwy’n benodol am beth yr ydw i’n gwrando arno yn gyffredinol. Dydw i ddim yn cofio’r tro diwethaf y cerddais i mewn i HMV i brynu CD. Rwy’n cytuno gyda Sambow ar hyn: Gall Celine Dion, Chris Brown, Rihanna, Lady Gaga ac Elton John i gyd fynd i grafu. I aralleirio’r band indie Art Brut: dyw diwylliant poblogaidd bellach ddim yn berthnasol i mi.
Canodd Sean Kingston "Beautiful girl, you know it'll never work, you're gonna make me suicidal, suicidal, suicidal". Dw i’n cofio mai dyma dorrodd gefn y camel yn y diwedd. Gwnaeth imi deimlo’n 'suicidal, suicidal, suicidal'. Beth sy’n mynd ymlaen yna? Roedd yn haf, roedd y rhif 33a yn dod nôl o un o’r swyddi talu’n wael oedd gen i lle nad oedd y bos yn gwybod beth oedd egwyl ffag, nac egwyl o gwbl.
Does dim angen dweud roeddwn i’n flin. Yn hynod o flin.
Penderfynodd rhyw fachgen ifanc (ie, dwi’n un ar bymtheg, ac ydw, dwi eisiau lladd bron pob person ifanc a welaf) chwarae’r gân honno a’i hailadrodd drwy gydol y daith 20 munud. Pe bai gen i chwaraewr mp3 arnaf wrth gwrs i gau allan y sŵn diflas neu pe bawn wedi mynd â llyfr i fynd â’m meddwl oddi arno, fyddai hynny ddim wedi bod mor ddrwg. Pe na bai hwn y diwrnod poethaf ar record, byddwn wedi dweud iawn. Ond hon oedd yr awr brysur. Roedd y bws yn llawn dop. Y cyfan y gallwn ei glywed oedd y gân tini yma yn dod allan o ryw ffôn ‘sic’ o gefn y bws. Ie, roedd hynny’n sic, gangster, dw i’n meddwl mai dyna beth wnaeth Tupac yn ei amser sbâr. Aeth ar Fws Caerdydd a chwarae cerddoriaeth ***** allan o’i ffôn. Rydw i gymaint allan o gysylltiad, rwy’n rhedeg i fyny’r grisiau i losgi fy holl gerddoriaeth, llyfrau, rhoi MTV Base ymlaen a gwisgo fy Nikes a’m jîns gorau. Dydw i ddim yn ‘hoffi’r’ gerddoriaeth sy’n cael ei darlledu ar y teledu ac ar y radio.
Dyna pryd y rhoddais y gorau iddi, bu farw fy ewyllys i fyw yno yn y fan a’r lle, wrth yr arosfan bysiau y tu allan i’r Malsters Arms yn Llandaf ger y gyffordd ar ben Fairwater Road.
Cheryl Cole? "We gotta fight, fight, fight, fight, fight for this love"? Mêt, wyt ti ddim yn cael ysgariad? Ddylet ti ddim “ffeilio, ffeilio, ffeilio am ysgariad”? Fedrai dy amseriad ddim bod yn well. Fe chwarddais ac fe chwarddais ac fe chwythais y tŷ i lawr. Wedi gweld ei hysbysebion gwallt? 'Dull, limp, lifeless'? Nid ei gwallt hi yw hynny; ond ei phersonoliaeth.
Hannah Montana? Mae fy nghath yn swnio’n well. Mae fy nghath wedi marw. Mae hi wedi marw ers 5 mlynedd.
"Bitches, guns and bling were never part of the four elements, and never will be" rapiodd dan le sac Vs Scroobius Pip ar eu hit 'Thou Shalt Always Kill'. Tybed a yw 50 Cent yn cadw hyn mewn cof pan mae ef yn rapio, ynghyd â phob rapiwr arall a gawn y dyddiau hyn? Beth ddigwyddodd i gerddoriaeth rap ystyrlon – hip hop oedd yn ysbrydoli pobl, bandiau fel Public Enemy a KRS-One? Rydym yn cael Eminem yn hytrach na Grandmaster Flash. Ers pryd oedd hynny’n deg? G-Unit? Dim diolch, ond beth am Immortal Technique, Sage Francis a Mos Def?
Mae’n ddrwg iawn gen i. Dydw i ddim yn bwriadu swnio fel snob cerddoriaeth, ond dyna be ydw i. Ie, dwi’n beirniadu cerddoriaeth boblogaidd a na, wna’ i ddim tynnu fy ngeiriau yn ôl. Fedrwn i ddweud ‘gweddol’ yn gyffredinol? G-W-E-D-D-O-L. Pawb gyda’i gilydd yn awr, anadlwch i mewn, anadlwch allan: gweddol.
Mae Paramore yn gwneud imi deimlo’n sâl, maen nhw wedi cymryd pob cerddor benywaidd a chyfuno’r sain i greu sŵn tebyg i Avril Lavigne. Edrychwch ar Paramore, cymharwch nhw gyda Hole, Bikini KillI a Joan Jett, yna dywedwch wrtha’ i pwy oedd â mwy o dalent a phwy sy’n fwy arloesol. Rydw i’n osgoi sioeau radio poblogaidd fel pla ac yn awr mae fy hoff fandiau yn ôl mewn ffasiwn? Maen nhw fel No Doubt pan chwalwyd eu casgliad o ffans drwy ddod yn fand roc generig à la yr albwm ‘Hella Good’ wedi ei gyfuno gyda Kelly Clarkson. Maen nhw wedi dangos gwerthfawrogiad i fandiau fel Death Cab for Cutie, The Cure a Sunnyday Real Estate sy’n gwneud i chi ofyn: sut y gallan nhw wrando ar gerddoriaeth mor wych a dod allan gyda sbwriel o’r fath? Yna eto, bu i Fall Out Boy ddifetha ‘Love Will Tear Us Apart’ oherwydd bod Joy Division yn un o’u dylanwadau. Mae’n gymaint o drueni fod **** yn gwerthu.
Mae ail recordiad o 'Close to Me' The Cure gan Kaki King ar hysbyseb, ynghyd â 'La Isla Encanta' gan The Pixies ac yn awr mae‘Blister in the Sun’ gan Violent Femmes yn cael ei ddefnyddio i werthu Fosters? Clywais ‘I Got Love’ gan y King Blues ar hysbyseb bwyd cathod.
Dydw i ddim yn dymuno “shake it like a Polaroid picture” fel Outkast, alla i ddim ysgwyd fy "badonkadonk" fel Missy Elliott, dydw i ddim "down in Albion" gyda Babyshamles, a does gen i ddim syniad sut i ddawnsio i "Poker Face".
"Oi, you, are ya gonna bang Doe? Oi, you, are ya gonna-". Stopiwch yna. Rydym wedi mynd o bethau fel L7 a Queens of the Stone Age yn boblogaidd i gyffro’r rhyngrwyd “Are You Gonna Bang Doe”? Pwy ydy Doe? Dug Caeredin? Efallai, ond dydw i’n dal ddim yn gwybod pwy ydych chi’n sôn amdano. Byddai "Do you want chicken? I'm going to Nando's" yn eiriau gwell.
Mae’r cyfryngau yn dylanwadu arnom yn fwy nag yr ydym yn sylweddoli. Rydym wedi ein hamlygu i fwy a mwy o hysbysebion bob dydd ar y radio, y teledu a’r rhyngrwyd. Dywedir wrthym beth i’w wylio a phryd i’w wylio, mae pobl yn meddwl yn gamarweiniol oherwydd ei fod ar MTV fod yn rhaid ei fod yn dda. Nac ydy, mae llawer o artistiaid a cherddorion wedi gorfod sensro eu gwaith neu addasu eu gweledigaeth i gael llwyddiant yn y brif ffrwd. Roedd MTV hyd yn oed yn rhy ofnus i ddangos Michael Jackson oherwydd ei fod yn artist du ar un adeg.
Lladd y diwydiant cerddoriaeth yw’r peth gorau yr ydym yn ei wneud fel mudiad ieuenctid yn gyffredinol. I gael mwy o wybodaeth am hyn, edrychwch ar The Pirate’s Dilemma gan Matt Masonos os oes gennych ddiddordeb yn y pwnc hwn. Mae’n wybyddus fod cerddorion yn gwneud mwy o arian allan o werthu nwyddau nag o arwyddo cytundebau recordio mawr gyda chwmnïau recordio enfawr o’r RIAA. Mae hyd yn oed labeli llai bellach yn cyfaddawdu gyda’u synau traddodiadol, gan arwyddo bandiau emo-pop-pync i ennill mwy o sylw gan wrandawyr ifanc (er enghraifft: Epitaph's yn arwyddo Farewell).
Does ‘na ddim bwlch rhwng cenedlaethau bellach. Rydym yn gwrando ar yr un gerddoriaeth â’n rhieni; mae gan fy mam i hyd yn oed gopi o ‘Riverside’ (a gymysgodd unwaith, bechod, gyda ‘Riverdance’ Michael Flatley). Does ‘na ddim gwahaniaethau bellach. Mae bwlch rhwng y cenedlaethau yn bwysig. Mae angen inni fod â’n diwylliant, bandiau, ffasiwn a’n llyfrau ni ein hunain i ddweud “dyma’n rhai ni” i edrych yn ôl arnynt pan ydym yn hŷn. Sut ydym ni’n mynd i wneud hynny gyda’r un sbwriel yn cael ei glywed ym mhob man?
Ond nid yw’r cyfan ar ben. Mae Subpop (label recordio Americanaidd sy’n enwog am fod y cyntaf i arwyddo Fugazi, Sonic Youth a Nirvana) yn dal i arwyddo artistiaid sydd wedi dod i enwogrwydd drwy waith caled fel Modest Mouse, sy’n enwog am eu hit ‘Float On’. Mae The Postal Service, Low a Go!Team yn dal wedi eu harwyddo. Mae The Black Lips, band llai nag adnabyddus ag ystyried fod ganddyn nhw gymaint o dalent wedi ei arwyddo i Vice Records. Mae’r bandiau llai sydd â mwy o dalent ac sy’n gweithio’n galetach i osgoi’r Diafol sy’n mynd o dan nifer o lysenwau fel Kerrang!, MTV, MTV2 ac ati yn cael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu o’r diwedd. Enillodd albwm F___ed Up ‘The Chemistry of Common Life’ wobr Polaris 2009.
Dydw i ddim yn darllen yr NME bellach.
Does gen i ddim sianeli cerddoriaeth.
Dydw i ddim yn darllen yr NME.
Rydw i gymaint allan o gysylltiad. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod pwy oedd Crystal Castles tan flwyddyn yn ôl.
A wyddoch chi be? Fedrai fy hoff ganwyr i gyd ddim canu. Mae ‘na rywfaint o gysur o wybod 20 mlynedd o nawr y bydd The Velvet Underground yn dal i gael gwrandawiad ynghyd â Tom Waits, Elliott Smith... tra bydd bandiau fel YouMeAtSix wedi mynd i ddifancoll. Does ganddyn nhw mo’r dalent a’r parodrwydd i ddal ati i gael gyrfa fel The Cure.
Dw i’n poeni fod cerddoriaeth annibynnol yn mynd i gael ei thaflu o’r neilltu gan ein cenhedlaeth ni. Dyna be dw i’n poeni amdano fwyaf. Rwy’n meddwl fy mod yn dechrau mynd yn flin ym mlynyddoedd canol fy ieuenctid.
Cydnabyddiaeth am y ffoto: 'Music Is My Religion' gan Nati





