Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Cwmni Ifanc

Postiwyd gan Loren Sprout o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 06/12/2010 am 14:00
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Dawns, Cerddoriaeth, Pobl, Llwyfan, Chwaraeon a Hamdden

  • 1

English

Sproutiwr bach!  Wyt ti’n 7-11 oed ac yn credu mai ti ydy'r Miley Cyrus neu Justin Bieber nesaf?  Mae’r bobl yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn credu dy fod di!  Maen nhw’n rhoi’r cyfle i sêr newydd i brofi hyn trwy gynnal gwersi drama fydd yn helpu ti i greu perfformiadau o safon y West End mewn dim o amser.

Os oes gen ti ddiddordeb mewn canu, dawnsio neu actio, mae pob un o'r rhain yn digwydd yng ngwersi'r ‘Cwmni Ifanc’  yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Bydd siawns i ddangos dy fod yn gallu creu dawnsiau ac arwain sioeau hefyd.  Bedd bynnag ydy dy sgiliau, maen nhw eisiau i ti ddod draw a rhannu dy syniadau a dangos beth rwyt ti yn gallu gwneud.

Mae’n rhoi siawns i ti gwrdd â sêr ifanc eraill, a chael LLAWER O HWYL!

Mae cost o £75 am dymor o wersi, 10 wythnos o wersi bore Sadwrn. Os rwyt ti efo awydd, efallai gallai fod yn anrheg Nadolig da i ti? Neu gallet addo talu dy rieni yn ôl wedi i ti wneud dy filiynau mewn ffilm fawr Holywood y dyfodol.!

Dweud wrth dy Fam/Tad/Mam-gu/Tad-cu/Brawd/Chwaer/Person Drws Nesaf fod angen iddynt ffonio 02920 636464 i gadw lle ar y cwrs.

Gwybodaeth bellach yn fan hyn, neu defnyddia'r wybodaeth i ddarbwyllo nhw!

Hafan » Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Y Celfyddydau Perfformio » Actio, Drama a'r Theatr

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.