Cychwyn Antur Fawr
Roedd yn freuddwyd i mi i dreulio cyfnod hir o amser ym Mhrydain ar ôl i mi radio yn y Brifysgol, gan y byddwn yn hoffi cael profiad o wlad arall.
Rwyf yn ferch o Hwngari ac rwyf bellach yn Wirfoddolwr Gwasanaeth Gwirfoddol Ewrop yn ProMo-Cymru am 11 mis yng Nghaerdydd a dwi erioed wedi bod i Brydain o'r blaen.
Mae'n newid mawr i mi fyw a gweithio mewn gwlad newydd. Roedd y ddau ddiwrnod cyntaf yn sioc lwyr, gan fod popeth mor wahanol, nid yw'r coffi yn blasu'r un peth hyd yn oed.
Roeddwn ar goll ar y strydoedd hefyd, gan fod y drafnidiaeth yn mynd y ffordd wahanol yma (rydym yn gyrru ar y dde yn Hwngari) ac roeddwn yn ofn croesi'r ffordd. Ar y bws roeddwn yn chwilio am beiriant tocyn; gallwn i ddim credu dylwn daflu fy arian i mewn i ryw beiriant rhwygo.
Roeddwn yn cael problemau yn fy nhŷ newydd hefyd. Er esiampl, y noson gyntaf clois fy hun allan o fy ystafell. Doeddwn i ddim yn gwybod fod clo arbennig ar y drws. Roeddwn yn lwcus gan fy mod yn byw ar y llawr gwaelod ac roedd fy ffenestr ar agor.
Roedd yn lwcus hefyd eu bod nhw wedi'u colfachu ar y top, felly roedd hi'n haws dringo i mewn. Ond roeddent dal yn eithaf uchel. Diolch byth roedd y bobl dwi'n rhannu tŷ gyda wedi helpu: cafodd un ferch ei gwthio trwy'r ffenestr o'r stryd gan ddau hogyn, bol i lawr a thraed yn gyntaf. Tra roedd un o'r bobl eraill yn y tŷ yn darlledu'r holl beth yn fyw ar Skype i'w ffrind.
Roedd yn ddoniol iawn a hefyd yn deimlad da, yn gwybod os ydwyf i ar goll fod gen i ffrindiau cŵl sydd yno i helpu pam fyddaf yn gwneud camgymeriad. Mae fel byw o fewn teulu newydd.
Nawr mae'r gwaith mawr o setlo i mewn, i hinsoddi ac i ddysgu sut mae pethau yn digwydd yma. A dwi'n gwybod fod hyn yn gychwyn antur a chyfeillgarwch newydd gyda Chymru.
Newyddion – Categorïau - Gwirfoddoli
Gwybodaeth – Addysg – Addysg Uwch
Gwybodaeth – Byd, Ewrop, DU a Chymru – Byw Dramor - Ymfudo
DELWEDD: Fortress Hungary gan msaari







