Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Cyfweliad: Richard Herring

Postiwyd gan CeefaxOfLife o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 07/03/2012 am 12:50
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Comedi

  • herr

English version

Roedd TheSprout yn ffodus iawn i gael ychydig funudau ar y ffôn gyda'r don comedi Richard Herring cyn ei sioe What Is Love, Anyway yn Neuadd Dewi Sant ar ddydd Iau 12fed Ebrill 2012.

Am beth mae'r sioe What Is Love, Anyway?

Am gariad ac am bethau mawr eraill gan ei fod yn ddiddorol i ymchwilio cysyniadau mawr. Yn fy sioe ddiwethaf roeddwn i'n awgrymu fod crefydd a chariad yn perthyn yn agos iawn, ac nad allai eu profi a'u bod wedi selio ar ffydd ac roedd y gynulleidfa yn codi gwrych gyda'r meddwl fod cariad ddim yn wir. Roeddwn i'n meddwl ei fod yn beth diddorol i archwilio. Mae'r sioe yn eithaf hunangofiadol, yn edrych yn ôl ar bethau od sydd wedi digwydd i mi oherwydd cariad o 6 oed i 44 oed a'r agweddau newidiadol tuag ato. Mae'n ffordd o archwilio'r pwnc sydd yn cysylltu gyda phobl.

Sut mae'r daith yn mynd?

Grêt! Mae'n waith caled ond yn flinedig gyda'r holl yrru a'r gwestai, ond mae'r sioeau yn hwyl. Dwi wedi bod yn teithio am 10-11 mlynedd, gyda'r gynulleidfa'n cynyddu'n raddol, mae'r mwyafrif o lefydd bellach yn dal 200-300 ac mae'r sioe yma i weld yn cysylltu gyda''r mwyafrif. Dwi'n gwella yn beth dwi'n gwneud.

Sut wyt ti'n paratoi ar gyfer teithiau mor hir?

Dwi ddim yn meddwl am y peth gormod, dim ond yn meddwl ychydig o gigs ymlaen. Os ydy rhywun yn gofyn lle dwi'n chwarae yfory efallai fydda'i ddim yn gwybod, dwi'n edrych ar y SatNav ar y ffordd yno. Mae'r daith yn 75 dyddiad, os ti'n meddwl fod gen ti 70 sioe i fynd byddet ti'n cael yn isel. Dwi'n trio aros yn iach ond dwi'n bwyta jync er mwyn aros yn effro. Does gen i ddim cwrs hyfforddiant a dwi ddim yn gwneud rhyw siantio Bwdhaidd, dwi'n parhau gyda phethau ac yn gobeithio am y gorau, a byddet yn cael byrst o egni. Paid paratoi ydy fy nghyngor i.

Sut oedd y gig ym Mhen-y-bont ar Ogwr wythnos diwethaf?

Lyfli, ia. Mae'n un bach ac yn bell i yrru felly doeddwn i ddim yn edrych ymlaen tuag ato ond roedd o'n gig gwych. Ar y daith hon dwi'n chwarae llefydd fel Neuadd Dewi Sant, sydd yn enfawr, ac yna lle sydd yn dal 80 fel Hobos, ond dwi'n hoffi amrywiaeth ac roedd yn un o'm gigs gorau o'r daith. Roeddwn i'n eithaf blin yn cyrraedd ac wedi blino ar ôl y daith, ond roedd o'n hwyl fawr a ti'n cyfarfod y bobl wedyn ac maen nhw mor ddiolchgar bod ti'n gwneud yr ymdrech cyn iddynt feddwl beth wyt ti'n wneud ym Mhen-y-bont! Wedi dweud hynny, dwi wedi cyffroi i gael chwarae'r brif ystafell yn Neuadd Dewi Sant, mae'n wastad wedi bod yn un o'm huchelgeisiau i symud tuag ato.

Pam gychwynnais di mewn comedi?

Dwi wedi bod efo diddordeb mewn comedi o oed ifanc iawn a pan oeddwn i yn fy arddegau roedd gen i fwy o ddiddordeb mewn gwrando ar recordiau comedi yna hytrach na cherddoriaeth. Roeddwn i'n gwybod mod i eisiau gwneud hyn, doeddwn i ddim yn gwybod os oedd o'n bosib, ond roeddwn i yn wastad yn ysgrifennu. Es i'r brifysgol a chyfarfod Stewart Lee, fe wnaethom ychydig o bethau efo'n gilydd ac aeth hynny yn eithaf da, felly symudom i Lundain.

A'i ti oedd y plentyn doniol yn yr ysgol?

Roeddwn i'n gwylltio pawb yn yr ysgol am fod i'n ddeallus ac yn dda mewn arholiadau ond roedd fi a'm ffrindiau yn gallu bod yn eithaf aflonyddgar mewn gwersi, yn ceisio dweud jôcs ac ati, ac roedd hyn yn gwneud fi'n fwy anhwylus. Hefyd fy nhad oedd prifathro fy ysgol uwchradd, oedd yn ychwanegu lefel arall iddo. Roedd o'n brofiad eithaf od; mae'n anodd i fi weithio allan os oedd pobl ddim yn hoffi fi oherwydd fy nhad neu am fod fi'n ychydig o d***. Ond cychwynnom yn ifanc iawn, roeddem yn ysgrifennu sioeau sgets pan roeddem yn 15 a pan es i'r brifysgol roedd gen i 3-4 mlynedd o brofiad yn ysgrifennu stwff fy hun, a tra yno roeddwn yn treulio'r mwyafrif o'm hamser yn gwneud comedi yn hytrach nag gwaith. Fe wnes beth allwn i i'w wneud yn waith, rhoi pum mlynedd i fi fy hun i weld sut byddai'n mynd, aeth yn dda a dwi wedi parhau.

Dyna'r cyngor i bobl ifanc felly? Ysgrifennu, a pharau i ysgrifennu?

Y cyngor ydy i fynd a'i wneud a phaid disgwyl llwyddiant yn rhy sydyn. Dwi wedi bod yn gwneud hyn am tua 20 mlynedd a ti'n parhau i ddysgu. Ti angen tua pump, deg mlynedd o brentisiaeth cyn i ti feddwl yn iawn am gael i mewn ond nid dyma sut mae'n gweithio bob tro. Yn yr 8-9 mlynedd diwethaf dwi wedi dysgu cymaint am berfformio ac mae dy hyder ti'n tyfu a ti'n dysgu trwy wneud. Ti angen y dalent i wneud o, yr egni, yr uchelgais, y croen caled i fynd yn dy flaen trwy'r gigs cynnar, ond ti angen cadw ati. Ti hefyd angen ysgrifennu, mae llawer o bethau galli di wneud ar-lein nawr – blogiau, podlediadau, sgetshis ffilmio – i drio pethau a dod o hyd i dy lais, ond paid disgwyl chwarae'r Apollo o fewn chwe mis.

Rownd Sydyn

Wnes di symud i Harpenden i fod yn agosach i Craig Charles?
Naddo, ydy o yma?
Yn ôl Wikipedia…
Na, nid dyna pan wnes i symud yma.
Fydda ti byth yn ysgrifennu llyfr plant?
Fyddwn i yn hoffi. Mae gen i ychydig o syniadau. Mae'n rhywbeth efallai byddaf yn meddwl amdano flwyddyn nesaf.
Fyddi di'n podleidio ar ddiwrnod dy briodas?
Na, dwi ddim yn meddwl bydd fy mhartner yn gadael i mi ond byddwn i os gallwn i. Dwi eisiau recordio'r areithiau ar gyfer deunydd ychwanegol DVD.
Mae Earth Hour ar ddiwedd y mis, pwy fydda ti'n hoffi cael swper dan olau cannwyll gyda nhw?
Heblaw am fy mhartner? Amy Pond o Doctor Who, nid yr actores sydd yn chwarae hi ond y cymeriad, bydda'n rhaid iddi aros mewn cymeriad trwy'r swper.
Gemau fideo neu gemau bwrdd?
Dwi'n chwarae llawer o'r ddau ond mae'n debyg mai gemau bwrdd, er dwi yn hoffi chwarae yn erbyn gwrthwynebwyr ffuglennol yn hytrach na rhai go iawn… y ddau.
Beatles yntau Stones?
Beatles ond mae'n well gen i The Kinks.
Finyl, CD neu MP3?
MP3. Dwi ddim yn un am ddal ar hen dechnoleg a dwi'n gwrando ar lawer mwy o stwff nawr.
Gogledd yntau De?
Cwestiwn anodd. Cefais fy ngeni yn y Gogledd, fy magu a byw yn y De… y Canolbarth.
Ac yn olaf – Llew, Teigr neu Arth?
Teigr

Mae Richard Herring yn chwarae Neuadd Dewi Sant ar ddydd Iau 12fed Ebrill 2012. Clicia yma i archebu tocynnau.

Newyddion – Comedi

Gwybodaeth – Celfyddydau Perfformio

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50