Cyfweliad: The Blackout
Dwi'n siŵr fod nifer ohonoch chi CLICwyr hŷn yn cofio Brwydr y Bandiau llynedd, ydych?
Wel, mae'n dychwelyd eleni, a thro hyn, un o'r gwobrau fydd cyfle i chwarae ochr yn ochr â band Cymraeg llwyddiannus o Ferthyr Tudful, The Blackout, mewn gŵyl newydd o'r enw Merthyr Rock!
Penderfynom gyfarfod gyda Gavin, un o leisiau'r band, i ofyn ychydig o gwestiynau amdano.
Bydd enillwyr Brwydr Y Bandiau CLIC yn agor y prif lwyfan a'r ail lwyfan ym Merthyr Rock. Wyt ti'n meddwl ei bod hi'n bwysig cefnogi bandiau Cymraeg ifanc?
Yn bendant, dyma'r unig ffordd i bobl gael y cyfle yna. Fe ddigwyddodd i ni, Lostprophets roddodd y cyfle cyntaf mwyaf i ni, felly dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig annog bandiau newydd a gwneud yn sicr fod eraill yn gwybod beth sydd yn digwydd.
Wyt ti'n meddwl bydd Merthyr Rock yn dod yn beth mawr yn y dyfodol?
Dwi'n gobeithio. Roedd Gŵyl Ponty ychydig yn ôl yn llwyddiant mawr. Yr unig reswm daeth hynny i ben oedd oherwydd y cyngor, dwi'n meddwl. Eleni, os bydd Merthyr Rock yn cychwyn yn dda, gallai ddod yn beth mawr iawn.
Mae'n rhaid ei bod hi'n wych bod yn rhan o gychwyn gŵyl gallai ddod yn rhywbeth mor fawr. Wyt ti wedi cyffroi amdano?
Mae'n wallgof i fod yn cael bod yn prif fand yr ŵyl. Rydym yn anrhydeddus iawn. Roeddem wedi chwarae yn y parc lle mae'r ŵyl yn cael ei gynnal o'r blaen, yn 2006, lle cawsant ŵyl fechan o tua deg o bobl, felly bydd dychwelyd yno fel prif fand gŵyl fawr yn 'mental'.
Pa gân rydych chi wedi'i wneud hyd yn hyn ydy dy ffefryn di, a pham?
Mae fel dewis plentyn gorau! Mae The Storm yn dod allan fis Awst ac yn un o fy ffefrynnau am ei fod yn rhywbeth newydd rydym wedi'i geisio. Tynnwyd ysbrydoliaeth nad oeddem wedi'i ddefnyddio o'r blaen. Dwi'n falch o'r un yna fwyaf am ein bod wedi cymryd siawns arno ac mae wedi troi allan yn grêt.
Fyddwch chi’n chwarae caneuon newydd ym Merthyr Rock?
Mae'n debyg, gan nad yw taith nesaf ni fel prif fand ddim tan fis Hydref, ac rydym yn gobeithio chwarae llwyth o ganeuon newydd yno. Byddwn yn rhoi prawf ar rai o'r caneuon newydd a gweld sut maent yn cael eu derbyn.
Ydy eich albwm diweddaraf wedi cael ei dderbyn yn dda?
Do, mae hi yn wastad yn anodd rhyddhau deunydd newydd gan fy mod wedi ei weld sawl gwaith pan fydd ffans yn dweud, "Nid yw cystal â'r hen stwff." Os wyt ti'n gwrando arno, mae'n well, ond mae wedi newid ychydig. Nid yw'n dda pan fydd bandiau yn rhoi cymaint o ymdrech i mewn, dim ond i glywed pobl yn dweud nad yw cystal â'r stwff hen. Ond rydym wedi cael ymateb positif, sydd yn anhygoel. Dim ond i ti dy hun fedri di ysgrifennu cerddoriaeth a gobeithio fod eraill yn ei hoffi, a dyna ddigwyddodd i ni.
Mae eich trydydd albwm, The Best In Town, wedi cael ei ryddhau yn America. Wyt ti'n meddwl fod y band efo dyfodol yno?
Ni chafodd yr un diwethaf yma ei ryddhau yn America, ond mae'n le anodd, mae'n fawr iawn a byddai'n rhaid teithio am chwe mis yno dim ond i wneud tolc bach. Nid oes cynlluniau ar y funud hon, ond byddwn wrth ein boddau yn dychwelyd yno. Nid oes cynlluniau am hyn ar hyn o bryd. Gobeithio byddwn yn siarad gyda rhai o'r labeli am ryddhau yn America. Dim byd cadarnhaol.
Ydy bod yn Gymraeg yn rhywbeth pwysig i'r band?
Dwi'n meddwl fod Cymru efo llawer o gerddoriaeth dda a bandiau da. Yn ein cartref ni nid oes llawer i wneud, felly mae pobl yn cychwyn diddordeb mewn cerddoriaeth fel bod rhywbeth i wneud, a dyna sut gychwynnom ni. Roedd yn rhywbeth gallwn ni wneud ar benwythnosau, ac yna rhywsut roedd rhai pobl yn meddwl ein bod ddigon da i wneud record, ac roedd pobl yn meddwl ein bod digon da i weld yn fyw. Dwi'n meddwl bod pawb yn hoffi'r lle maent yn dod ohono, a bydd unrhyw fand Cymraeg yn dweud yr un peth wrthyt ti. Dwi ddim yn meddwl mai rhyw falchder cenedlaethol ydyw, mae'n fwy o awyrgylch teuluol yn y cymoedd rhwng y bandiau i gyd, ac os bydd rhywun angen help efo unrhyw beth allwn fynd at ein gilydd am gymorth. Mae llawer ohonom yn ymarfer yn yr un stiwdio, felly mae'n agos dros ben, ac mae hynny wedi ysbrydoli bandiau eraill yng Nghymru i gychwyn. Fe welsom fand Cymraeg fel Lostprophets yn gwneud yn dda, felly meddyliom, "Gallwn ni wneud hyn hefyd."
Ble wyt ti'n gweld y band blwyddyn o nawr?
Gobeithio yn ysgrifennu cerddoriaeth. Mae'n anodd iawn i fand aros yn fand yn unig y dyddiau hyn. Nid oes llawer o fandiau'r dyddiau hyn sydd wedi bod gyda’i gilydd am fwy nag deg mlynedd, ond mae'r rhai sydd yn gweithio'n galed i aros gyda'i gilydd. Yr unig beth allwn obeithio amdano ydy i gadw ein pennau uwchben y dŵr.
Fyddai'n well gen ti gael draig sydd yn hedfan neu uncorn sydd yn teleportio fel math o drafnidiaeth?
Mae hyn yn anodd. Byddai draig sydd yn hedfan yn anadlu tân, ond yna uncorn yn teleportio… un o'r pethau gwaethaf am fod mewn band ydy eistedd mewn fan am oes. Ond dwi am fynd am y ddraig fel y gallaf fynd allan i hedfan bob hyn a hyn.
The Blackout
Merthyr Rock
Tudalen Gwybodaeth Cerddoriaeth
DELWEDD: Marianne Harris







