Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Cystadleuaeth: Column Idol

Postiwyd gan Sam (Sub-Editor) o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 11/05/2011 am 15:03
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Gwaith a Hyfforddiant

  • pap

English version

Wedi bod eisiau ymddangos yn The Sun tra'n cadw dy ddillad ymlaen? Wel, dyma dy gyfle. Mae The Sun a Media Trust wedi dod at ei gilydd i lansio Column Idol 2011.

Yn cael ei gyflwyno gan enillydd gwobr Brit, y canwr Jessie J, mae'n cynnig cyfle i bobl ifanc 18 i 25 oed gael lleisio eu barn dros y wlad gyda cholofn yn cael ei gyhoeddi ym mhapur newydd mwyaf poblogaidd Prydain.

Mae gen ti hyd at hanner dydd ar ddydd Llun, 20fed Mehefin i gystadlu. Bydd y potensial golofnwyr wedyn yn cael eu cwtogi i restr fer o chwech. Bydd y chwech yma wedyn yn cael eu rhoi gyda rhai o newyddiaduron gorau The Sun, fydd yn helpu nhw i wella ar eu herthyglau cyn iddynt gael eu cyflwyno i banel o feirniaid proffil uchel fydd yn cynnwys Golygydd The Sun Dominic Mohan a'r colofnydd Jane Moore.

Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr o gael gweld y golofn mewn print yn y papur newydd yn fis Medi 2011.

Swnio'n dda? Eisiau mwy o fanylion? Wel, gall lawr lwytho'r pecyn gwybodaeth gefnogol, taflen a phoster (i gyd mewn pdf),

DELWEDD: Fairey Hoarding gan dannybirchall

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.