Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Eisiau Bod Yn Gyflwynydd?

Postiwyd gan SwooshMe o Bro Morgannwg - Cyhoeddwyd ar 20/07/2011 am 09:11
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Hinsawdd, Addysg, Amgylchedd, Iechyd, Ffilmiau, Gweithgareddau Gwyliau Ysgol, Llwyfan, Technoleg, Materion Cyfoes, Teithio, Gwirfoddoli

  • enviro
  • board

English version

Dim byd i’w wneud yr haf yma? Eisiau gwneud rhywbeth cynhyrchiol? 15 i 17 oed? Yna gallet ti helpu ni!

Mae Vibe Creative yn chwilio am ddau gyflwynydd dwyieithog; merch a bachgen, i gyflwyno rhaglen ddogfen ar gyfer pobl ifanc, yn ymdrîn â gwastraff amgylcheddol ac ailgylchu. Bydd hwn yn cael ei ddangos yn ysgolion dros Fro Morgannwg a dros Gymru ar-lein.

Rydym yn chwilio am ddau berson gall gyflwyno'r rhaglen ddogfen mewn arddull cyfeillgar, doniol, carismatig ac addysgiadol, sydd hefyd yn cydweithio'n dda. Wyt ti'n meddwl fod hyn yn rhywbeth gallet ti wneud?

Bydd clyweliadau yn cael ei gynnal ddiwedd mis Gorffennaf, yn barod i ddechrau ffilmio rhwng yr 8fed-26ain o Awst eleni (dyddiadau i'w cadarnhau), yn Fro Morgannwg.

Dyddiad cau i'r rhai sydd â diddordeb ar ddydd Gwener 29ain Gorffennaf 2011. Os oes gen ti ddiddordeb, cysyllta â Dominique@vibe-creative.com am wybodaeth bellach ac i wneud cais.

Pob lwc!

Delweddau: anapaula_ronnie & dbutt

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.