Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Enillydd NadoCLIC

Postiwyd gan Sam (Sub-Editor) o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 03/01/2012 am 12:28
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Gwyl, Technoleg

  • nadoCLIC

English version

Boneddigion a boneddigesau, bechgyn a merched, dwi'n falch o gyhoeddi fod prif gyngor CLIC wedi penderfynu ar enillydd.

Fedra i ddim cyhoeddi hyn eto gan fod rhaid padio'r erthygl hon fel ei fod yn cyrraedd y cyfrif geiriau angenrheidiol (sgrolia i lawr os ti methu dioddef y waffl).

Dyblodd CLIC ei dwrci NadoCLIC yn 2011 gyda 24 o erthyglau yn traflyncu'r 12 o 2010. Daeth y 24 erthygl yma o ar draws Cymru a'r rhwydwaith CLIC; un o Shouttawe (Abertawe), dau'r un o Dorfaen, Fflintyr Ifanc, Swoosh (Bro Morgannwg) ac Ieuenctid Sir Gâr, pedwar o Wicid (RCT) ac un ar ddeg gan theSprout (Caerdydd).

Nid oedd pob un yn erthygl arferol chwaith; cawsom luniau, rhestrau chwarae, ychydig o farddoniaeth, fideo a hyd yn oed rysáit! Gwledd i'r prif gyngor CLIC gael cnoi drosto, dwi'n si?r fod ti'n cytuno.

Ond cnoi drosto, a nifer o bethau eraill, gwnaethant ac mae'r canlyniad yn fy llaw – napcyn Nadoligaidd gydag enw'r enillydd wedi'i ysgrifennu mewn hen refi, wedi'i danlinellu gyda darn o furcula (dyna'r enw cywir am asgwrn tynnu – ti'n gweld, mae yna ddoethineb i'm waffl weithiau) ac wedi'i atalnodi gyda rhywbeth gwyrdd sydd ddim yn edrych yn lan nac yn iach.

Felly heb ddim mwy o lol, gan fy mod i'n sicr fy mod i wedi cyrraedd y cyfrif geirfa, mae'n bleser gen i gyhoeddi mai enillydd y bwndel Nintendo 3DS Rhew Gwyn a Super Mario 3D Land ydy…

NadoCLIC #7

Hoffwn longyfarch MarshMallo ar lwyddiant teilwng ac i ddweud diolch yn fawr iawn i bawb gystadlodd, darllenodd, gadawodd sylwadau neu rhannodd y neges NadoCLIC, i Tania CLIC am ei sgiliau cyfieithu gwallgof, Dan CLIC am gamu i mewn pan ddiflannais i Gernyw am gwpl o ddiwrnodau a diolch mawr iawn i Lola CLIC am ei gwaith dylunio anhygoel ac am ddiweddaru'r calendr. Gobeithio bydd pawb yn cael 2012 gwych, fydd wrth gwrs yn cael ei gloi gyda NadoCLIC 2012!

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50