Ffair Hen Bethau Tlws
Ar gyfer pen-blwydd fy ffrind gorau dihangodd y ddwy ohonom o amgylched distaw Cwmbrân ac archwilio ein prif ddinas hyfryd Caerdydd, ar gyfer coctels, bwyd a'r Farchnad Gwaith Llaw a Hen Bethau Vintage Pretty!
Ar ôl methu'r trên cyntaf cyrhaeddom Gaerdydd o'r diwedd ychydig yn hwyrach nag oeddem wedi meddwl felly sgipiodd pawb i fyny Heol Eglwys Fair tuag at 10 Feet Tall mewn gobaith cyrraedd y ffair Vintage Pretty a bod yn un o'r deg o'r bobl gyntaf drwy'r drws a chael bag nwyddau am ddim.
Wrth gyrraedd y lleoliad cerddom i fyny'r grisiau i'r ystafell, oedd yn dan orchudd o olau coch wrth i olau'r dydd llachar dywallt drwy'r ffilm goch oedd dros y ffenestri. Cawsom ein cyfarch gyda chacennau siocled a chyffug hyfryd ac yn ffodus roedd dwy fag nwyddau ar ôl ac felly cytunom i rannu popeth rhwng y tri ohonom dros ginio.
Roedd fy llygaid yn cael trafferth i ganolbwyntio ar ddim ond un stondin gan fod cymaint o bethau tlws yn gorwedd o'm mlaen. Gemwaith, crysau-t, tlysau, magnetau, angenfilod, sebonau, anrhegion ac ewinedd yn addurno'r holl fyrddau mewn golwg.
Beth roeddwn i''n ei garu mwyaf am bopeth oedd yn cael ei gynnig ydy fod popeth wedi'i greu gyda llaw a chariad ac wedi'i ysbrydoli gan bopeth o'r amseroedd a fu, gweledigaethau gothig, natur a ffefrynnau gemau retro, melysion a ffefrynnau plentyndod fel Lego!
Dwi yn wastad yn caru edrych ar eitemau unigryw fel y rhai oedd yn cael eu cynnig yma, maent yn golygu cymaint mwy na'r eitemau sydd yn cael eu masgynhyrchu gyda llawer llai o feddwl tu ôl iddo. Dwi hefyd yn teimlo ychydig o genfigen, mae fy mhen i yn llawn syniadau crefftau ond dwi'n eithaf anobeithiol pan ddaw at wneud, peintio neu wneud llun.
Wrth fynd o gwmpas am y tro cyntaf, gwelais anghenfil blewog sydd bellach wedi cael cartref cariadus yn fy nhŷ i. Roeddwn i eisiau popeth gwelwn, ond ar ôl mynd o gwmpas ychydig mwy o weithiau yn meddwl beth roeddwn i wir eisiau, penderfynais am ychydig o anrhegion arbennig i fi fy hun gan gynnwys cadwyn, tlws, modrwy a chwpl o freichledi gan gynnwys un wedi'i greu o Flumps! Dwi hefyd efo chynlluniau i brynu mwy o bethau nad oedd gen i le iddynt yn fy mag.
O'r diwedd cefais wneud fy ewinedd, pob bys gyda dyluniad gwahanol: cymylau yn yr awyr, rhosod, dotiau, print llewpard ac i orffen calon fach giwt. Yna eisteddom i adolygu ein bagiau nwyddau. Rhwng y ddwy fag roedd gennym felysion retro (Love Hearts, Parma Violets a Lolipops), tlysau, amryw bâr o glustlysau, cardiau nodiadau, modrwyau a chadwynau ac roeddem yn hapus iawn gyda rhain! Rhannom bopeth a chefais i glustlysau botymau ciwt iawn.
Felly ar y cyfan roedd yn ddiwrnod allan anhygoel, a gyda mynediad am ddim! Roedd y bagiau nwyddau wedi'u stwffio i'r ymylon ac yn cynnwys cymaint mwy na ddisgwylir ynghyd â thalebau disgownt. Hyd yn oed heb yr anrhegion ychwanegol am ddim, roedd y digwyddiad yn wych… roedd bod yn yr un ystafell â'r creadigaethau hyfryd yn bleser a chefais gyfarfod rhai o'r bobl fwyaf hyfryd, rhai dwi'n gobeithio cyfarfod eto mewn ffeiriau Vintage Pretty y dyfodol! Roedd hyd yn oed y ddau fachgen roeddem wedi llusgo gyda ni wedi prynu un neu ddau o bethau ac wedi mwynhau edrych o gwmpas.
Byddwn yn bendant yn awgrymu mynd i un yn y dyfodol, dim ond er mwyn mwynhau'r awyrgylch cyfeillgar a thalentog sydd gan unigolion lleol i'w gynnig ac efallai hyd yn oed prynu anrheg fach i ti neu i rywun ti'n caru, rhywbeth unigol a phersonol ar gyfer y Nadolig, pen-blwydd efallai.
Newyddion – Categori – Ffasiwn
Gwybodaeth – Chwaraeon a Hamdden – Y Celfyddydau Gweledol - Ffasiwn








