Ffilmiau Am Ddim Efo Ffrindiau
English version
Os wyt ti'n mwynhau gwylio ffilmiau grêt gyda dy ffrindiau yna edrycha ar FILMCLUB, a dweud wrth athro, llyfrgellydd neu fyfyriwr blwyddyn chwech am y clwb gwych yma sydd yn rhoi mynediad am ddim i filoedd o ffilmiau dros 100 mlynedd o sinema.
Mae'r cynllun, sydd wedi bod yn rhedeg yn llwyddiannus yn Lloegr ers 2008, wedi lansio dros Gymru fis Mai gyda Michael Sheen fel y llysgennad Cymraeg, a gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru ac Asiantaeth Ffilm Cymru.
Mae ffilmiau yn cael eu pigo gan arbenigwyr ffilmiau preswyl FILMCLUB ac – yn ogystal â bod yn nhrefn y wyddor – maent wedi'u grwpio i mewn i themâu a thymhorau arbennig, yn delio gyda phopeth o fwlio i gyfeillgarwch i estronwyr i ysbïwr.
Trwy'r wefan gallet ddewis unrhyw beth o'r blockbuster diweddaraf i ffilmiau o lyfrau, dogfennau a chlasuron du a gwyn, yn ail ymweld â hen ffefrynnau ac yn darganfod ffilmiau o dros y byd nad oeddet yn gwybod oedd yn bodoli.
Mae tymor ffilmiau Cymraeg wedi cael ei gyflwyno, yn arddangos cyfraniad Cymru i'r sinema, yn ychwanegu at yr amrediad amrywiol o ffilmiau sydd ar gynnig yn barod, ac adran blogio Cymru arbennig gyda newyddion dwyieithog FILMCLUB wedi'i gyflwyno ar gyfer aelodau Cymraeg. Rydym hefyd newydd lansio tymor ffilm 'Llythrennedd Byd Eang' arbennig i gefnogi Diwrnod Llythrennedd Rhyngwladol UNESCO ar Fedi'r 8fed.
Byddet yn gallu ysgrifennu adolygiadau a chyhoeddi nhw ar y wefan i aelodau eraill eu gweld a gallet ddarllen rai pobl eraill – efallai hoffet dderbyn un o wobrau 'Adolygwr yr Wythnos' FILMCLUB, sydd yn cael ei wobrwyo bob wythnos i'r rhai gorau.
Mae hefyd yn bosib, trwy’r wefan, i ddal i fyny gyda newyddion a digwyddiadau diweddaraf y diwydiant ffilm, a darganfod mwy am y byd ffilm trwy'r sesiynau cwestiwn ac ateb ysbrydoledig sydd wedi digwydd gydag arbenigwyr diwydiant – o actorion a chyfarwyddwyr byd enwog fel Michael Sheen a Mike Leigh, i animeiddwyr, cyfarwyddwyr castio, artistiaid colur a chyfansoddwyr – fel rhan o raglen 'Close Encounters' FILMCLUB mewn ysgolion. O'r ymweliadau hyn gallet ddarganfod syniadau newydd am yrfa dy hun.
Efallai bydd 'Close Encounter' yn dy ysgol di, neu gallet gael cyfle i gymryd rhan mewn un o'n cast-gwe byw (yn ddiweddar cawsom un gyda seren Harry Potter Tom Felton), neu fynychu premiere ffilm neu sgrinio rhagolwg. Ac oherwydd bod hwn yn glwb sydd yn agored i bawb, heb fod angen unrhyw sgiliau arbennig, rwyt ti'n sicr o wneud ffrindiau newydd drwy FILMCLUB. Fel dywedai un aelod "Dwi'n hoffi FILMCLUB am ei fod yn rhywle gallet fynd i ymlacio a gwylio ffilm neu drafod sut roeddet yn teimlo amdano. Hefyd mae'n ffordd dda o gyfarfod pobl a chymdeithasu."
Ac yng ngeiriau'r actor Michael Sheen: "Mae'n wych bod pobl ifanc nid yn unig efo mynediad i amrediad eang ac ysbrydoledig o ffilmiau, ond byddent hefyd yn gallu deall diwylliant Cymraeg yng nghyd-destun y byd eang."
Hyd yn hyn mae FILMCLUB efo dros 200,000 aelod o dros 7000 o ysgolion dros Brydain – gwna'n sicr fod dy ysgol di yn ymuno!
Am wybodaeth bellach neu i gychwyn clwb ffilm am ddim yn dy ysgol, ymwela â: filmclub.org/blog/cymru neu galwa 020 7288 4520.
Newyddion – Ffilmiau
Gwybodaeth – Gwneud Ffilmiau ac Animeiddio







