Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Fy Niwrnod Yn Yr EVi

Postiwyd gan BeckyBumpkin o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 21/01/2012 am 14:12
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Pobl

  • evi

English version

Rhag ofn nad wyt ti wedi clywed (er fe ddylet ti erbyn hyn) mae'r EVi yng Nglyn Ebwy yn le anhygoel i fynegi dy hun a chychwyn y prosiect yna sydd wedi bod yn eistedd yng nghefn dy ymennydd.

Ymwelais â'r lle wythnos hwn a chefais fy synnu gan yr adnoddau sydd ar gael yno. Bod hyn yn peintio, cynhyrchu cerddoriaeth, perfformio neu lansio ymgyrch, yr adeilad yma ydy'r platfform ti angen i gychwyn. I bobl ifanc, nid yw'n wastad yn hawdd cael y cyfle. Ond mae'r EVi wedi'i gynllunio i wneud hynny, i roi'r cyfle i bobl fel ni i wneud beth rydym wedi bod eisio'i wneud erioed.

I'r entrepreneuriaid neu'r ymgyrchwyr ifanc, mae yna amrywiaeth enfawr o ystafelloedd cynhadledd ar gael i ti mewn amryw siâp a maint. Efallai dy fod yn cychwyn grŵp elusennol, yn cynllunio parti neu angen rhywle i gychwyn prosiect, mae'r EVi yn cynnig llefydd smart, proffesiynol ac yn gyfeillgar i ddefnyddwyr i unrhyw un gael gafael arnynt.

Ar y llaw arall, efallai bod dy uchelgais yn llawer fwy… swnllyd! Os wyt ti'n meddwl am gychwyn band, cynhyrchu cerddoriaeth neu fod yn DJ radio, mae yna swît cyfryngau, gyda Macs newydd, offer technoleg cerddoriaeth, offer sain, cit drymio ac amryw gitâr a bas i chi. Gallai'r ystafell hon sydd yn freuddwyd unrhyw gerddorion ifanc, ddarparu i fandiau, MCs, DJs a mogwlau radio llawn addewid. Hwn ydy'r cyfle perffaith i ti lansio dy yrfa gerddorol a chael cychwyn da iddo.

Ond oes lle i ti ymarfer ynddo? Wel, oes. Mae ystafell wrthsain llawn sydd wedi'i wneud nid yn unig i ddal sain hyd yn oed y metel curo mwyaf swnllyd i mewn, ond mae hefyd efo llawr sbring i'w wneud yn le perffaith i ymarfer dawns. Felly os nad wyt ti'n un am chwarae cerddoriaeth ond ti eisiau dawnsio iddo, yr ystafell yma ydy'r un perffaith i ti. Efallai dy fod di'n ddawnsiwr bale gosgeiddig neu'n griw dawns stryd fawr, mae'r ystafell yma yn berffaith i bawb.

Yn ddifater i'r ffaith dy fod yn ddawnsiwr neu'n gerddorion, pan fyddi di wedi perffeithio dy gelf mae'n debyg byddet eisiau rhannu hyn gyda'r byd. Mae'r EVi yn gartref i neuadd wych gyda llwyfan, golau a bar trwyddedig lawn ar gyfer y rhai dros 18. Hyd yn oed os nad yw'n ddigwyddiad cerddorol, mae'r neuadd yn le gwych i grwpiau gyfarfod, neu Gymdeithasau Drama Amatur i gael actio.

I'r rhai ohonoch sydd â breuddwyd cerddorol yn datblygu, mae stiwdio yng nghanol cael ei adeiladu. Er bod y rhan hwn o'r adeilad ddim wedi'i gwblhau eto, erbyn i ti ysgrifennu albwm, ei ymarfer i berffeithrwydd ac wedi perfformio ychydig o weithiau, bydd y stiwdio yn disgwyl amdanat ti.

Os wyt ti wedi bod yn darllen hwn ac yn meddwl 'Wel mae hynna'n grêt ond dwi ddim i mewn i bethau fel hynna', na phoener. Mae hyd yn oed ystafell celf i ti fynd a dy baent a gwneud llanast mawr ynddo. Mae'n amser symud i ffwrdd oddi wrth y pad braslunio a mynd yn fawr, a bydd carped mam ddim yn cael ei ddifetha! Mae'r ystafell yma wedi cael ei wneud ar gyfer arbrofion ac artistiaid graffiti.

Ar ôl yr holl waith caled o fod yn greadigol, byddet yn siŵr o fod angen bwyd a diod. Wel mae'r EVi wedi meddwl am hynny hefyd. Mae yna gaffi yno sydd yn darparu bwyd a diod gynnes ac oer, felly gallet ail lenwi dy danc a chael y creadigol yn llifo unwaith eto.

Ar lawr uchaf yr adeilad mae yna nifer o weithwyr ieuenctid ac elusennau yn gwneud eu pethau. Y bobl hyn, a'r bobl fel CLIC ydy'r rhai gall wir helpu ti gyda beth bynnag ti eisiau er mwyn llwyddo. Efallai nad yw yn ymwneud â'r celfyddydau, neu bethau hamdden, ond mae'r bobl yma yn gyfeillgar iawn ac yna i wrando a helpu.

Mae'r adeilad yma yn le gwych a dylai pawb gymryd rhan. Cer i lawr yno a chychwyn creu.

Gwybodaeth – Celfyddydau Perfformio

TheSproutDirect.co.uk » Cerdd Gymunedol Cymru

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.