Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gêm Ddiwethaf Shane

Postiwyd gan Danielle o Rhondda Cynon Taf - Cyhoeddwyd ar 30/11/2011 am 16:02
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Pobl, Chwaraeon a Hamdden

  • shane

English version

Ar ddydd Sadwrn (3ydd Rhagfyr 2011) bydd Shane Williams yn chwarae ei gêm ddiwethaf i Gymru, yn erbyn Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm cyn iddo ymddeol o rygbi rhyngwladol.

Ers iddo gamu oddi ar y fainc yn erbyn Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn nhymor1999-2000, mae Williams wedi mynd yn ei flaen i gynrychioli Cymru 86 gwaith. Yn ystod y cyfnod hwn mae wedi sgorio 57 cais, yn ei wneud yn sgoriwr ceisiadau blaenllaw Cymru.

Yn ystod ei yrfa ryngwladol anhygoel mae Williams wedi ennill dwy bencampwriaeth Grand Slam gyda Chymru, wedi bod i dair Cwpan Byd ac wedi cael ei goroni yn Chwaraewr y Flwyddyn y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol. Ar ben hyn i gyd mae Williams wedi cael ei gapio pedair waith ar gyfer y Llewod Prydeinig a Gwyddelig.

Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, dyw'r tîm Cymru prin ddim wedi cynnwys yr asgellwr talentog a dim ond un rheswm sydd am hyn; mae'n chwaraewr  o safon fyd-eang. Ymhob gêm mae William yn chwarae, mae'n ymddangos fel ei fod yn gwella ac yn gwella, yn ei wneud yn orfodol i wylio. Mae llawer o chwaraewyr wedi mynd a dod yn y tîm Cymru, ond mae un wyneb sydd yn wastad o fod yno, yn disgwyl i sgorio ceisiadau.

Dros y blynyddoedd mae wedi bod yn chwarae i Gymru, mae yna geisiadau anhygoel wedi'u sgorio, llawer ohonynt wedi gadael pobl, gan gynnwys ei wrthwynebwyr, yn pendroni sut mae wedi llwyddo i groesi'r llinell. Gyda'r holl geisiadau mae wedi sgorio yn ystod ei yrfa ryngwladol, nid yw'n syndod ei fod yn un o fawrion rygbi'r byd. Er yr holl ystadegau sydd yn cael eu darllen a'u clywed, mae yna rai pethau sydd yn rhaid cael profiad ohono drosot ti dy hun, a hynny yw eistedd yn Stadiwm y Mileniwm yn gwylio Shane Williams yn chwarae. Y r adeg mae ganddo'r bêl ac yn dechrau osgamu'r gwrthwynebwyr mae pawb yn cyffroi, yn gobeithio bydd yn torri trwy'r llinell ac yn sgorio cais, hyd yn oed os nad oes ffordd posibl iddo wneud hynny.

Dwi wedi gwylio llawer o gemau yn Stadiwm y Mileniwm ble mae Shane Williams wedi dangos pam ei fod yn un o oreuon y byd rygbi. Mae llawer o geisiadau wedi'u sgorio, ond mae un gêm benodol yn aros yn y cof fel un o'r goreuon, Cymru yn erbyn Yr Alban yn 2010. Y gêm hon oedd ble wnaeth Cymru gael un o'r dychweliadau mwyaf anhygoel erioed, o fod yn colli 21-9 i fynd ymlaen i ennill 31-24.

Cychwynnodd y frwydr i gael y gêm yn ôl gyda Shane Williams yn rhedeg ar draws y cae yn creu bwlch i Lee Byrne groesi'r llinell, ond roedd Yr Alban yn parhau i roi pwysau arnynt gan ychwanegu gôl adlam i'r sgôr. Er hyn roedd Cymru yn cadw'r pwysau ymlaen ac yn cymryd mantais o gerdyn melyn Yr Alban, gyda Leigh Halfpenny yn croesi am gais gafodd ei drosi. Cafodd Cymru cic gosb yn yr 80 munud wedi'i gymryd gan Stephen Jones, gan ddod â'r sgôr yn gyfartal. Gyda'r sgôr yn gyfartal, aeth y gêm ymlaen i'r chwarae diwethaf, ac yn ystod yr amser yma llwyddodd Shane Williams ddangos ei wir ddawn a sgoriodd gais rhwng y pyst, yn rhoi'r fuddugoliaeth i Gymru.

Roedd eistedd tu ôl i'r pyst yn ystod y munudau olaf yn anhygoel; yn gwylio wrth i Williams groesi'r llinell am y tro olaf yn ystod y gêm a'r stadiwm gyfan yn mynd yn wallgof. Dangosai i'r byd yn union sut fath o chwaraewr oedd Williams, er bod nifer yn gwybod hyn yn barod.

Felly dydd Sadwrn bydd Cymru yn ffarwelio un o'r chwaraewyr gorau erioed i chwarae i Gymru, wrth i Shane Williams gadw ei esgidiau rygbi rhyngwladol am y tro olaf; y gobaith yw bydd hwn yn achlysur i ddathlu gyda Chymru yn ennill Awstralia.

Ond mae un peth yn sicr, colli neu ennill; mae Shane Williams yn anhygoel.

TheSproutDirect


Sefydliadau – Chwaraeon a Hamdden


Gwybodaeth – Chwaraeon a Hamdden – Chwaraeon Awyr Agored – Rygbi

DELWEDD: Shane chips Shane gan M+MD

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.