Iselder Rhiant
Pan mae rhiant (neu rywun arall yn dy deulu) yn dioddef o iselder, mae’n beth anodd i dderbyn. Mae iselder yn llawer mwy cyffredin nag y byddai rhywun yn feddwl, gydag un ymhob pedwar person yn dioddef ohono. Mae rhwng wyth a deuddeg y cant o bobl ym Mhrydain yn dioddef o iselder ar unrhyw amser: mae hynna'n llawer iawn o bobl, ond eto pam fod y mater yn cael ei osgoi mewn sgwrs?
Mae’n anodd delio gydag ef, rydym ni i gyd yn yr ysgol/coleg/prifysgol ac mae ymdopi gydag ef yn anoddach na fyddai unrhyw un yn meddwl. Mae gen ti goginio, glanhau, gofal emosiynol parhaol, tymer newidiol, strancio, bowtiau o grio… gall y rhestr fynd yn ei flaen, ond dwi ddim eisiau cael i mewn i’r ochr dywyll o’r broblem iechyd meddwl yma. Dwi’n byw gyda rhiant sydd wedi dioddef bob yn ail â pheidio gyda salwch meddwl, a dwi’n gobeithio bydd yr awgrymiadau isod yn gallu bod o ddefnydd.
Dod I Arfer Gyda’r Syniad
Mae’n beth anferth ac ofnadwy i’w dreulio yn llawn. Ti’n ceisio beio dy hun amdano, ond creda fi pam dwi’n dweud fod amrywiaeth o ffactorau yn cyfrannu i’r salwch hwn. Ti’n teimlo’n ddig, wedi dy frifo, ac yn siomedig. Cofia fod hyn yn rhywbeth sydd yn gorfod cael ei drin, ac mewn diwylliant ble mae iechyd meddwl yn dal yn dabŵ, mae’n rhagorol fod rhywun efo’r dewrder i fynd at y doctor a siarad am eu problemau. Mae’n naturiol i deimlo'r pethau yma i gyd, mae’n broses byddet yn mynd drwyddo, dwi’n gwybod, fe es i drwyddo.
Ymchwilio
Mae hyn mor syml a theipio “sut i ymdopi gydag iselder” i mewn i Google. Mae llawer o ddeunydd a chyfanswm anferth o adnoddau ar y rhyngrwyd gall cael ei ddefnyddio i ddeall iselder a’r effaith mae’n ei gael ar bobl yn llawn. Darllena, adnabod, dysga, dealla; fe ddaw yn gyfleus. Mae llyfrau ar gael yn y llyfrgell hefyd.
Delio Gydag Ef
Os ydy person yn dioddef o iselder, ni fyddent yn teimlo fel y maent yn arferol. Gall pethau gychwyn mynd o chwith, ond dyma ble fedri di ddod i mewn a helpu allan. Gwna’r llestri, gwna ychydig o smwddio, ni fydd yn cymryd hir a byddai’n gwneud cyfraniad anferth i sut mae pethau yn mynd.
Cer a nhw allan i lefydd; efallai am dro i ardal harddwch naturiol fel parc neu i lan y môr. Mae ymarfer corff yn rhyddhau endorffinau ac yn helpu pobl i ddelio gyda straen. Mae hefyd yn sbarduno serotonin sydd yn gemeg teimlo’n dda. Mae'r rhain hefyd yn cael eu rhyddhau gyda phethau syml fel chwerthin; rho DVD comedi ar neu diwnio i mewn i raglen ddoniol ar y teledu. Mae iselder ei hun yn cael ei achosi gan anghydbwysedd o hormonau a bydd y pethau hyn yn bendant o helpu adfer hynny.
Efallai coginio’r te os nad ydynt yn teimlo’r gallu ac yn gyffredinol gwna ffwdan fawr ohonynt. Defnyddia llawer o ffrwythau a llysiau a chael sudd ffrwythau i law i helpu nhw gael pump y dydd: mae’r buddiannau iechyd yn dda. Trefna dripiau allan os gallet ti, mae diwrnod ar y traeth yn gwneud byd o les, neu efallai gwadd rhai o ffrindiau dy rieni drosodd. Helpa i lanhau’r tŷ.
Mae’r pethau hyn i gyd yn esiamplau bach o sut gall ymdopi â’r sefyllfa a throi’r peth ar ei ben i helpu adferiad sydyn. Bydd gwneud hyn nid yn unig yn dod a theimlad o gariad a gwerthfawrogiad gan yr aelod o dy deulu, ond mae hefyd yn weithred dda fydd yn gwneud i ti deimlo’n dda hefyd. Mae pawb yn ennill.
Dod Drosto
Dyma ble mae pethau yn cael yn anodd. Mae’n hawdd aberth ychydig o amser yma ac acw i redeg sugnydd llwch o gwmpas neu goginio rhywbeth yn sydyn yn y gegin, ond mae helpu rhywun i ymdopi yn emosiynol yn faich anferth.
Siarad. Siarad. Siarad mwy. Mae’n gliché, ond mae’n gweithio. Yn ddibynnol ar y person, efallai neu efallai ddim byddent yn fodlon i siarad amdano, ond annog nhw i wneud hynny. Bydd yn helpu’r ddau ohonoch ac yn helpu ti i ddeall pam eu bod nhw’n teimlo'r ffordd maent, gall y ddau ohonoch gymryd y camau angenrheidiol i sicrhau bod y ffordd maen nhw’n teimlo yn newid e.e. newid ffordd o fyw i alluogi llai o straen.
Bydd trefnu awr neu fwy'r dydd er mwyn i’r person gael ychydig o amser ‘fi’ yn helpu nhw, i gael ychydig o amser iddyn nhw eu hunain i wneud beth bynnag hoffent. Mae’n angenrheidiol i bawb, mae pawb angen awr neu ddau'r dydd i ymdopi gyda’r diwrnod rydym wedi’i gael; amser i ymlacio a gwneud beth bynnag. Nid ydym yn gwthio ti i ffwrdd; maen nhw eisiau clirio’u pen. Paid â theimlo eu bod yn gwrthod ti os ydynt yn gwneud hyn, mae’n beth da iddynt gael ychydig o amser rhydd i wneud pethau ar ben eu hunain. Y mwy o amser rhydd maent yn ei gael, y mwy o amser maen nhw’n ei gael i ganolbwyntio ar wella.
Os ar unrhyw bwynt maent yn siarad gyda thi am feddyliau hunan laddiad neu o glywed lleisiau yn eu pen, chwilia am gymorth yn syth. Gall hyn fod yn gychwyniad chwalfa feddyliol neu waeth os nad yw’n cael ei siecio, felly mae’n bwysig iawn i gael cymorth. Os ydy’r person wedi jocan am hunan laddiad hyd yn oed, cymera fo o ddifrif. Paid amau nhw. Ceisia glirio’r tŷ o feddyginiaethau, mae pethau fel paracetamol hyd yn oed yn gallu achosi gorddos bygwth bywyd. Cael gwared ar alcohol, a ffonia NHS Direct (0845 4647). Os yw’r person yn hysterig, ffonia neu tecsia aelod o’r teulu i wylio nhw tra rwyt ti’n mynd i chwilio am gymorth hanfodol neu i’r gwrthwyneb. Dyma’r senario achos gwaethaf ac mae’n annhebygol o ddigwydd, ond gallai. Bydda’n barod.
Bydda’n bositif, bydda’n bositif drwy’r adeg. Osgoi chwarae bandiau digalon yn uchel a gwylio ffilmiau neu raglenni gyda rhagolwg negyddol ar fywyd. Ychydig yn syml, ond mae Creep gan Radiohead yn chwarae’n uchel a Six Feet Under ar y teledu yn mynd i wneud nhw deimlo’n waeth, llawer gwaeth!
Ymdopi
Mae’n draenio rhywun yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol i ymdopi gyda rhywun sydd efo iselder. Mae’n anodd bod yn bositif drwy’r adeg pam mae’r person ti’n byw hefo yn bod yn negyddol. Mae pobl yn gallu newid yn sylweddol wrth ddioddef o salwch, os ydynt yn gwneud pethau allan o gymeriad, cofia mai dim nhw sydd yn siarad, y salwch ydyw. Cymera dy ddig allan ar y salwch, dim y person.
Cymera amser i ti dy hun. Cer allan, gweld bandiau, cael amser da, gwrando ar gerddoriaeth sydd yn codi ti. Ymweld â’r sinema o bryd i bryd.
Ti ddim ar ben dy hun a bydd dy emosiynau yn newid. Paid â dod yn isel dy hun, na bwrw allan, na gwneud niwed i ti dy hun (nag unrhyw un arall) na gwneud unrhyw beth gwirion. Dim dy fai di ydy hyn. Dweud wrth dy ffrind agosaf beth sydd yn digwydd, mae ffrindiau yn gallu bod yn rhwydwaith cefnogol gwych.
Cadwa obaith, mae 80% o gleifion yn goresgyn hyn, ond mae pobl sydd yn byw gyda phobl isel yn fwy tebygol o ddod yn isel eu hunain, dyma pam mae’n bwysig i gymryd camau i edrych ar ôl dy hun; paid llosgi dy hun allan.
Os wyt ti wedi cael dy effeithio gan rai o’r materion wedi’u codi yn yr erthygl hon, cysyllta gyda NHS Direct.
Delwedd: Ashley Rose







