Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Myfyrwyr Lleol Yn Meddiannu Prifysgol

Postiwyd gan Loren Sprout o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 25/11/2010 am 17:05
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg, Pobl, Materion Cyfoes, Gwaith a Hyfforddiant

  • sit-in

English version

Mae myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ar hyn o bryd yn cynnal mewneisteddiad yn y theatr Darlithio Shandon, gyferbyn â’r Undeb Myfyrwyr ar Park Place. Mae myfyrwyr a staff o UWIC, Prifysgol Morgannwg, a tri choleg wedi cymryd rhan yn yr achos heddiw yng Nghaerdydd, yn ôl blog swyddogol Meddiannaeth Caerdydd.

Mae’r myfyrwyr wedi bod yn meddiannu’r theatr darlithio ers ddoe ac yn gwneud defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol fel Twitter er mwyn hyrwyddo eu safiad, ac i gyfleu eu gwybodaeth ynglŷn â’r mewneisteddiad, fel maent yn weld yn briodol, i’r cyhoedd.

Mae’r blog yn rhoi mewnwelediad diddorol i farn y protestwyr, gan gynnwys rhestr o’u gofynion a rhestr ddamniol o’r dulliau gwrthwynebiad mae Prifysgol Caerdydd yn defnyddio yn eu herbyn.

Maent yn honni fod y Brifysgol yn atal mynediad hawdd o fwyd a dŵr i’r protestwyr. Mynediad i rwydwaith rhyngrwyd y Brifysgol, mynediad i’r rhai sydd eisiau ymuno â’r mewneisteddiad, a mynediad i’r toiledau.

Blocâd

Y blocâd diwethaf ydy’r un fwyaf effeithiol i’r gwrthwynebwyr, Prifysgol Caerdydd, gyda rhifau’r protest yn lleihau o ganlyn y broblem logistaidd anffodus hon; nid yw protestwyr yn cael mynd yn ôl i’r theatr darlithio ar ôl gadael i ddefnyddio’r toiledau. Mae protestwyr wedi ymateb i hyn drwy gwffio i gael mynediad – gydag adroddiadau o Twitter yn dathlu’r fuddugoliaeth fach, ond eto hanfodol dros ben, tra mae’r erthygl hwn yn cael ei ysgrifennu. Tweetiodd swyddog Moesegol ac Amgylchedd Myfyrwyr Caerdydd, Sam Coates: ‘y myfyrwyr sydd ar ôl nawr yn cael caniatâd i gael mynediad i’r toiledau, neb arall yn cael dod i mewn’.

Mae bwyd a dŵr yn cael ei dynnu ar raff trwy ffenestr (gweler y llun) gan gefnogwyr y tu allan, sydd hefyd yn ynydu cefnogaeth gwylwyr a’r rhai sydd yn pasio.

Siaradodd theSprout gydag un o’r cefnogwyr oedd yn hel llofnodion, myfyriwr Newyddiaduraeth ac Ysgrifennu Creadigol yn UWIC, Ben Liddle. Dywedodd, ‘mae hwn yn ymdrech unedig, rydym yn griw o fyfyrwyr di-blaid sydd yn meddwl ei bod yn annerbyniol i gofi ffioedd… ni fyddem yn cael ein hymyleiddio.’

Undeb Myfyrwyr

Mae’r protestwyr hefyd yn dweud fod cynrychiolwyr y Brifysgol yn gwrthod cydymdrafod, yn dewis siarad gyda’r Undeb Myfyrwyr yn unig.

Mae Hannah Waldram o Guardian Caerdydd wedi bod yn adrodd ar y protest ac wedi cael y datganiad hwn gan yr Undeb Myfyrwyr:

“Nid yw’r Undeb Myfyrwyr yn cefnogi unrhyw godi ffioedd dysgu nag unrhyw doriadau i Addysg Uwch ac felly yn cefnogi gweithred ddoe cyn belled â’n bod yn cytuno efo’i neges allweddol.

“Ond, mae’r feddiannaeth hwn yn cyd-ddigwydd yn bresennol gyda darlithoedd myfyrwyr sydd ddim yn gallu mynychu o ganlyn y weithred sy’n parhau.

“Gan nad yw hwn yn weithred sydd wedi cael ei gytuno gan fyfyrwyr un ai try’r Cyngor Myfyrwyr neu gyfarfod cyffredinol, yna ni all yr undeb gefnogi aflonyddwch darlithoedd myfyrwyr eraill. Rydym felly yn annog y rhai sydd yn cymryd rhan yn y feddiannaeth i adael a gweithio gyda’r Undeb am ateb.”

Mae protestwyr yn dial i’r neges hwn, yn annog darlithwyr i barhau i ddysgu o gwmpas y mewneisteddiad. Maent yn cefnogi’n gyfan gwbl unrhyw ‘mewn-ddysgu’ byddai darlithwyr yn hoffi llwyfannu.

Materion Yn Codi

Mae rhestr trafodaethau mae’r protestwyr eisiau eu trafod ar gael yma. Maent yn cynnwys”

  • I Brifysgol Caerdydd ryddhau datganiad cyhoeddus yn gwrthwynebu unrhyw godiad mewn ffioedd.
  • Datgeliad llawn o gyllidau’r brifysgol
  • Cyfranogiad ystyrlon myfyrwyr a staff mewn penderfyniadau cyllidebol ac ariannol.

Gydag eitemau hylendid personol fel brwsys dannedd yn cael eu tynnu drwy’r ffenestri i’r myfyrwyr, mae’n ymddangos eu bod yn benderfynol o barhau gyda meddiannaeth yr ystafell am y dyfodol agos.

Mwy ar y stori hon wrth iddo ddatblygu.

Os oes gen ti unrhyw farn neu wybodaeth ynglŷn â’r stori hwn, gadawa sylwad isod! Beth wyt ti’n feddwl o’r bwriad i gynyddu ffioedd dysgu? Fyddai hyn yn atal ti rhag mynd i’r Brifysgol? Gad i ni wybod!

DELWEDD: Loren

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.