Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

NadoCLIC #8

Postiwyd gan emb789 o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 08/12/2011 am 12:17
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Gwyl, Yn Gymraeg

  • 4

English version

Croeso i ffenestr #8 o'r Calendr Adfent NadoCLIC! Os hoffet ffenestr dy hun i ddangos dy stwff Nadolig (neu dylai hynny fod yn stwffin!!!) a chael cyfle i ennill Nintendo 3DS yna e-bostia dan@cliconline.co.uk cyn gynted â phosib.


Os byddwn i yn cael ffordd fy hun, dwi ddim yn meddwl byddwn i'n dathlu'r Nadolig. Yn anffodus nid oes gen i ddewis yn y mater. Mae fy rhieni yn arbennig o grefyddol, ac felly nid oes gen i ddewis ond i ymuno yn yr ŵyl unwaith y flwyddyn.

Ond dyw hyn ddim yn golygu nad wyf yn cael ei mewn i ysbryd yr holl beth. Dwi wrth fy modd yn tynnu cracers; mae'n rhoi esgus i mi ddweud jôcs ofnadwy!

Dwi hefyd wrth fy modd yn bwyta cyfanswm gwirion o fwyd da iawn (er dwi ddim mor hapus gyda fy mhwysau am yr wythnos wedyn)! Y peth arall gwych am y Nadolig ydy dangos i'r rhai sydd yn golygu llawer i mi faint maent yn ei olygu i mi, drwy roi rhywbeth iddynt dwi'n meddwl bydda nhw'n mwynhau. Yn bersonol, dwi ddim yn poeni gormod am dderbyn anrhegion, a dwi byth yn gwybod beth i ofyn amdano, felly i mi, dwi'n hapus efo cerdyn sydd yn gadael i mi wybod fy mod yn dy feddyliau.

Fy mhwynt yw nad yw'r pethau hyn yn ymwneud a'r Nadolig. Iawn, gallet ti wneud rhyw fath o gyswllt rhwng y gwŷr doeth a'r anrhegion, ond heblaw am hynny, nid oes dim. Felly nawr mae gen i syniad gwell! Dwi'n ei alw'n "Diwrnod y Teulu"!



Nawr, y syniad o "Diwrnod y Teulu" ydy i dreulio amser gyda'r rhai sydd yn golygu'r mwyaf i ti (dwi'n deall nad perthnasau yw hyn bob tro, ond dwi'n gwybod fy mod i yn cysidro fy ffrindiau anwylaf fel rhan o fy nheulu) a gadael iddynt wybod dy fod di'n meddwl amdanynt. Byddai pawb yn dod at ei gilydd, yn mwynhau cwmni ei gilydd, yn yfed gwin )"Dwi'n gwybod dwi dan oed, Mam, ond mae hi'n Ddiwrnod y Teulu! Plîîîîs?" "Iawn ta, ond dim ond am fod hi'n Ddiwrnod y Teulu!") a dathlu eich cariad at eich gilydd yn gyffredinol.

Dwi'n meddwl mai'r adeg gorau am hyn ydy canol neu yn hwyr yn y Gaeaf, rhyw dro yn fis Rhagfyr, fel bod pawb yn gallu hel ger y tân er mwyn cynhesu.

Fy mhwynt ydy, gad y Nadolig i'r bobl Gristnogol. Gad iddyn nhw wneud y busnes eglwys a dathlu genedigaeth eu hachubwr. Gad iddyn nhw gael y set stori geni a'u calendr Adfent, ond os nad wyt ti'n disgwyl genedigaeth y Messiah, dwi ddim yn gweld pam y dylet ti ymuno yn y dathlu.

O.N: I'r rhai sydd yn meddwl pam fod llun Tim Minchin dros yr erthygl yma i gyd, mae ei gân 'White Wine In The Sun' yn un o'r esiamplau gorau o garol Nadolig anffyddwyr gallwn i ddarganfod. Mae hefyd yn gân brydferth.

Calendr Adfent NadoCLIC

Wyt ti'n ysgrifennydd, ffotograffydd, gwneuthurwr ffilm, darlunydd, DJ, cerddwr, animeiddiwr, blogiwr, bardd neu'n greadigol yn gyffredinol sydd efo rhywbeth i ddweud am y Nadolig? Wel, e-bostia dan@cliconline.co.uk i gael cyfle i gael ffenestr NadoCLIC dy hun nawr a chyfle i ennill Nintendo 3DS!

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.