Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Pa Ddadl Globes?

Postiwyd gan abhijanb o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 21/01/2011 am 13:02
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Comedi, Diwylliant, Ffilmiau, Pobl, Materion Cyfoes

  • Gervais

English version

Nodyn Is-Olygydd: Mae’r farn yn yr erthygl hon yn perthyn i’r awdur, nid o angenrheidrwydd barn theSprout. Sori i fynd yn Swistir am hyn, ond dwi ddim eisiau cael ein siwio gan ryw seren fawr Hollywood. Er byddai hynny yn gwneud diawl o stori dros swper da. Yn y carchar.

Cyflwynodd Ricky Gervais y Golden Globes Blynyddol am yr ail flwyddyn yn ddilynol ac fel rhan o’i act, cafodd rai o enwogion mwyaf Hollywood dipyn o amser caled ganddo.

Roedd jôcs am selebs yn ymwneud â rhyw fath o ddadl roeddent wedi bod yn rhan ohono a chychwynnodd y sioe gyda’r sesiwn tynnu coes yma. Efallai bod rhywun felly efallai eisiau esbonio yn union beth ydy’r holl ffwdan.

O’r sylwadau yn yr erthyglau papur newydd ac ar sioeau siarad yn dilyn y seremoni, byddet ti’n meddwl fod Gervais wedi gwneud arwyr o’r Natsïaid. Na, fe ddywedodd ychydig o jôcs i gadw’r awyrgylch yn ysgafn.

Beth oedd pobl yn ei ddisgwyl? Rhyw gyflwynwr wedi’i breserfio’n lawfeddygol, heulfelyn, gwallt golau, llygaid glas yn llawenhau’r enwogion mawr i hwyluso eu cred ymhellach mai nhw ydy’r pethau gorau ar y blaned yma?

Traha llwyr ydy hyna. Mae pobl angen stopio byw yn yr Oes Fictoraidd ffroenuchel (Eironig i ddweud y gwir, pam mae’r rhan fwyaf o’r rhai sydd wedi’u tramgwyddo, wedi bod yn gwneud jôc o hiwmor Prydeinig eu hunain), lle byddai jôc syml yn cael ei weld fel rhywbeth anweddus ac amhriodol.

I fod yn onest, os oedd Robert Downey Jr yn meddwl bod jôcs Gervais yn annerbyniol, yna sut wyt ti’n cyfiawnhau ei jôcs yn awgrymu ei fod wedi cysgu gyda’r pum merch oedd wedi cael enwebiad am y wobr? Neu’r un yn awgrymu y byddai wedi cael rhyw efo pob un ohonynt ar y llwyfan, gyda’r byd yn gwylio, heb sôn am ei wraig? Roedd o mewn ysbryd ysgafn. Neu efallai fod hyn ddim ond yn ddilys pan wyt ti’n Americanwr.

Phillip Berk, o’r Hollywood Foreign Press Association, sydd yn ymddangos i fod yr un fwyaf haerllug ar yr achlysur hwn, yn neidio ar fandwagen barn gyhoeddus, ac yn condemnio jôcs Gervais arno ef.

Ar y llaw arall roedd Hugh Hefner – pwnc jôc fwyaf ymosodol y noson – yn ymddangos fel ei fod yn ei gymryd gyda phinsiad o halen. Awgrymai ei tweets ei fod wedi mwynhau’r jôcs yn ofnadwy a ddim â phroblem gyda nhw gan eu bod yn ‘ran o’r diriogaeth’.

Felly beth sydd yn gwneud elit Hollywood mor bwysig? Ymddangosai fel bod sieciau tâl enfawr wedi chwyddo eu pennau mor llydan, fel eu bod yn meddwl eu bod wedi’u hamddiffyn o fod yn bwnc jôcs ysgafn.

Os ydy’r jôcs yn cael eu archwilio (fel y maent wedi, ond am y rhesymau anghywir) nid oedd eu sylfaen yn anwir. Mel Gibson – yn adnabyddus am ei frwydro gydag alcoholiaeth a’i ffrwydradau hiliol. Robert Downey Jr – mae ei frwydr gydag alcohol a chyffuriau wedi cael cymaint o gyhoeddusrwydd a’i waith ar y sgrin. Angelina Jolie – wedi cael enw fel person sydd yn mabwysiadu plant o wledydd trydydd byd. Charlie Sheen – wedi cael ei gyhuddo o droseddau trais yn y cartref, dyfarnwyd yn euog i ymosod a churfa, wedi mynychu ‘rehab’ am gamddefnydd alcohol, camddefnydd cyffuriau, hyd yn oed rhyw, mae’r rhestr yn parhau…

I gyd yn wir, mae hyd yn oed ychydig bach o jocian yn ormod i’w synhwyrau eiddil ydy ef? Efallai bod y rhai sydd yn meddwl fod jôcs Gervais wedi mynd yn rhy bell, angen cysidro’r posibilrwydd o edrych ar ein harwyddair a mwynhau’r hwyl. Doedd neb yn cael ei senglo allan, fel byddai bwli yn yr iard yn ei wneud.

Hiwmor oedd o, ar ei orau wedi meddwl. Roeddent wedi’u mowldio yn wych gyda gweddill beth ddywedodd a doedd dim trugaredd i unrhyw un. A dim yr Americanwyr yn unig oedd y targed. Roedd Paul McCartney yn gymaint o bwnc o’i jôcs ac unrhyw un arall.

Felly ar ddiwedd y dydd, beth ydy’r holl ffwdan yma? Jôcs oedden nhw, nid pynciau trafod difrifol, nid rhywbeth roedd Gervais yn bersonol yn ei dal yn eu herbyn, nid rhywbeth i wahaniaethu’r rhai sonnir amdanynt. Yn syml set o jôcs wedi’u gosod yn wych.

Yn siarad am jôcs, dyna beth ti’n disgwyl pan ti’n hurio digrifwr i gyflwyno’r sioe naci? Neu efallai fod hynny yn gysyniad arall sydd wedi ei golli yn cyfieithu Trawsatlantig, fel hiwmor yn gyffredinol.

Newyddion » Categorïau » Comedi

Gwybodaeth » Iechyd » Camddefnyddio Sylweddau

Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Gwahaniaethu » Hiliaeth

Gwybodaeth » Iechyd » Smygu ac Alcohol » Alcohol

Gwybodaeth » Teulu a Pherthnasau » Beth i'w wneud os bydd rhywbeth yn mynd o chwith » Trais yn y cartref

DELWEDD

: NBCUPHOTOBANK / Rex Features

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.