Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Penwythnos Glawog Yr Haf CLIC

Postiwyd gan CLIC Kathryn o Cenedlaethol - Cyhoeddwyd ar 12/08/2010 am 13:26
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Comedi, Diwylliant, Dawns, Cerddoriaeth, Pobl, Technoleg, Materion Cyfoes, Gwaith a Hyfforddiant, Gwirfoddoli, Yn Gymraeg

English version

Yn ôl rhai mae’r haf wedi cyrraedd…ac yn gwrando ar awgrymiadau o’n Penwythnos Preswyl Cynllunio rydym yn gwahodd y Grŵp Golygyddol Cenedlaethol CLIC i ymuno gyda ni unwaith eto am ein penwythnos nesaf yng Nghanolfan Antur Sir Benfro o’r 27ain – 29ain Awst 2010.

Byddwn yn parhau yn ein gwaith ar nifer o adrannau gan gynnwys gweithdai'r Gynhadledd Gwybodaeth sydd yn digwydd yn fis Hydref 2010, cwblhau’r newidiadau i’r categorïau gwybodaeth CLIC a pharhau gyda’r datblygiadau’r arolygiaeth ieuenctid newydd ei ffurfio.

Bydd gweithdai yn cael eu rhannu y tro hyn fel bod grwpiau yn gallu gweithio ar wahanol adrannau a byddwn yn cynnig dewis o weithgareddau ar y prynhawn Sadwrn.

Nawr am y darn gwirioneddol hwylus…dan orchymyn poblogaidd aelodau’r grŵp byddwn yn cynnal Mae Gan CLIC Dalent ar y nos Sadwrn.

Felly gwell i ti ddechrau ymarfer, pa un ai yw’n gan, jyglo neu dorri symudiadau esmwyth, rydym eisiau dy weld yn ei fflawntio!

Mae llefydd yn brin, gydag aelodau presennol yn cael blaenoriaeth a llefydd i gynrychiolwyr o Grwpiau Golygyddol Lleol ond mae croeso bob amser i aelodau newydd.

Felly os wyt ti eisiau bod yn ran o’r hwyl, cysyllta gyda ni cyn gynted â phosib drwy e-bostio kath@promo-cymru.org

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.