Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

PLEIDLEISIA: Erthygl Fwyaf Ysbrydoledig

Postiwyd gan CLICdan o Bro Morgannwg - Cyhoeddwyd ar 10/11/2010 am 10:48
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Celfyddyd, Hinsawdd, Comedi, Ysgrifennu Creadigol, Diwylliant, Dawns, Addysg, Amgylchedd, Ffasiwn, Gwyl, Bwyd a Diod, Iechyd, Hanes, Ffilmiau, Cerddoriaeth, Pobl, Gweithgareddau Gwyliau Ysgol, Llwyfan, Chwaraeon a Hamdden, Technoleg, Materion Cyfoes, Teithio, Gwaith a Hyfforddiant, Gwirfoddoli, Yn Gymraeg

  • U-News

English version

Dwi wedi bod yn darllen erthyglau ar y rhwydwaith CLIC ers y cychwyn un, yn ôl pan yr unig wefan oedd gennym oedd gwefan bach yng Nghaerdydd o’r enw theSprout. Syniad theSprout oedd bod yn Ganllaw Newyddion a Digwyddiadau i bobl ifanc o amgylch Caerdydd, ond yn sydyn fe dyfodd i fod yn fwy na hynny.

Anogwyd pobl ifanc i reoli pob agwedd o’r wefan, o’r dyluniad i’r cynnwys, a datblygodd y wefan o newyddion ac adolygiadau syml i hyb o greadigrwydd, yn enwedig ysgrifennu creadigol: o farddoniaeth a rhyddiaith, i golofnau hyd lawn yn datgan dy farna dy ddiddordebau i bawb gael gweld.

Bron 3 mlynedd wedyn ac mae CLIC efo gwefan un-pwrpas a thîm golygyddol mewn siroedd dros Gymru (ac, erbyn 2011, gobeithio byddem yn cyflenwi’r wlad i gyd!). Tra fod theSprout efallai wedi gosod y llwyfan, roedd y gwefannau eraill yn sydyn i ddal i fyny: mae Wicid efo tîm o ysgrifenwyr nodwedd reolaidd eu hunain, a dwi’n ymweld â nhw yn awyddus bob wythnos i weld beth sydd yn newydd ym myd Vampire Timelord, Peter Piper a’u cyd.

Mae llwyth o waith yn yr archif CLIC nawr, ac mae’n tyfu bob dydd, diolch i’ch creadigrwydd, ymrwymiad a dewrder i ddweud beth rwyt ti’n credu a rhoi o allan yna i’r byd weld. Ac am hynny dwi’n saliwtio chi.

Pleidleisia Am Y Cyflwyniad Fwyaf Ysbrydoledig

Mae’n amser dathlu beth rydym wedi adeiladu. Neu, yn fwy cywir, beth rydych chi wedi adeiladu: hyd yn oed os nad wyt ti wedi ysgrifennu rhywbeth dy hun eto, drwy ymweld â’r wefan a gadael sylwadau rwyt ti’n helpu’r rhwydwaith CLIC i dyfu.

Yn beth rydym yn gobeithio bydd y cyntaf o nifer, mae cystadleuaeth wedi’i lansio i bleidleisio am y cyflwyniad fwyaf ysbrydoledig i CLIC. Gall pawb bleidleisio; yr unig beth sydd yn rhaid gwneud ydy mewngofnodi.

Ac os wyt ti’n sownd am ddeunydd darllen da, fe ddylai’r rhestr o ymgeision gadw ti i fynd. Cer, darllena nhw i gyd, a gad sylwadau! Yna cymera ysbrydoliaeth ac ysgrifennu erthygl dy hun, a’i gyflwyno i’n cystadleuaeth nesaf.

Mae pleidleisio yn cau ar ddydd Mercher 17 Tachwedd.

http://www.cliconline.co.uk/cym/geir-iau/pleidleisiwch/ <-- Clicia arno naaaawwwwwrrrrr!

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.