Problem Ddifrifol
Annwyl Sproutwyr,
Rydw i wedi gweld gyda fy llygaid trasiedi yn lledaenu dros y rhwydwaith CLIC. Mae'n gwneud fy nghalon yn drist ac weithiau ni allaf ddioddef gwylio. Cymera olwg ar dudalen blaen theSprout a dwi'n sicr fe weli di rywbeth. Rhywbeth ofnadwy. Ar bron pob erthygl newyddion diweddaraf, byddet yn gweld 0 mawr, wedi'i ddilyn gan y gair "sylwadau".
Nawr, dwi yn un sydd yn sefyll am Sylwadau CLIC Ar Gyfer Greadigrwydd (neu SCAGG yn fyr) a dwi'n teimlo tân yn fy llygaid pan dwi'n gweld dim sylwadau ar yr erthyglau yma. Heddiw, byddaf yn darllen ac yn gadael sylwad ar bob erthygl newyddion diweddar ar theSprout, Wicid a CLIC ei hun, i geisio cywiro’r sefyllfa yma. Dwi'n annog ti i wneud yr un peth. Ia ti, Susan, gyda dy wallt brown a dy gath faldodus. Dwi'n gwylio ti.
Erthygl Berthnasol: Datgelu Argyfwng CLIC
DELWEDD: Megaphone gan LarimdaME







