Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Profiad Gwaith Burning Red

Postiwyd gan 1996 o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 06/02/2012 am 15:33
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg, Pobl, Technoleg, Gwaith a Hyfforddiant, Gwirfoddoli

  • lgoo

English version

Dydd Llun 30 Ionawr

Roeddwn ar fy ffordd i Stiwdios Burning Red ac wrth i mi gyrraedd y tu allan roeddwn ychydig yn nerfus…

Canais yr intercom, cefais fy ngadael i mewn i'r adeilad ac roedd pawb yn groesawus iawn. Cefais gyfarfod â'r tîm i gyd, oedd yn brysur yn gweithio ar wefannau oedd i ddod. Cyflwynodd un o'r tîm fi i CLICarlein a thywys fi o gwmpas y wefan i gyd a'r holl stwff cŵl arno. Yna fe adawais ychydig o sylwadau ar rai o'r erthyglau, ac roedd yn hwyl. Dysgais hefyd sut i ddefnyddio'r offer yn y swyddfa a chychwynnais lunio dyluniad.

Dydd Mawrth 31 Ionawr

Y diwrnod wedyn plymiodd pawb yn syth i'w gwaith ac roedd rhaid i mi greu erthygl i gyflwyno i theSprout. Roedd diffyg ysbrydoliaeth gen i ond yna es i'm mag a dod o hyd i hen docyn gêm Dinas Caerdydd. Yna cefais syniad! Dinas Caerdydd yn erbyn Crystal Palace! Felly ysgrifennais erthygl am y gêm. Lawr lwythais ychydig o luniau o'r we ac fe gymerodd dipyn o amser i mi lwytho stwff, a llwythais fideos hefyd cyn ei gyflwyno i wefan theSprout! Mae bellach wedi cael ei osod yn fyw yma a dwi'n falch iawn ohono!

Yna cyflwynodd y tîm fi i feddalwedd dylunio fel Illustrator, Photoshop, a InDesign a dysgu fi sut i'w ddefnyddio yn iawn gyda'r holl offer – roedd yn ddiwrnod hwylus.

Dydd Mercher 1Chwefror

Roeddwn yn cael cymaint o hwyl ar fy lleoliad gwaith a rhoddodd un o'r staff dasg i mi wneud ar gyfer gwefannau CLICarlein. Dyluniais ychydig o eiconau ar gyfer yr adran gwybodaeth ac roedd hynny yn cŵl iawn. Roedd rhaid i mi gael lluniau i ffitio disgrifiad yr eicon, ac roedd rhaid llusgo'r llun i mewn i Illustrator yna mynd o gwmpas y llun i wneud iddo sefyll allan. Chwiliais am ychydig mwy o bethau ar y we fel logos ar gyfer erthyglau ac ar gyfer y bwrdd gwaith. Ac yna roedd hi'n ddiwedd y dydd.

Dydd Iau 2 Chwefror

Casglais y data presennol gan Ieuenctid Powys fydd yn cael ei ychwanegu i'w gwefan newydd fydd yn rhan o CLICarlein cyn hir. Rhoddais yr holl wybodaeth i mewn i wahanol ddogfennau i'w wneud yn haws i Burning Red lwytho'r cynnwys.

Fe gymerodd dipyn o amser ond o'r diwedd llwyddais i'w gwblhau. Yna gofynnodd un o'r tîm i mi "wyt ti'n gwybod sut i wneud coffi?" a doeddwn i ddim yn gwybod sut i wneud coffi, ond dangoswyd i mi sut i wneud coffi go iawn – mewn cafetière hefyd! Nesaf byddaf yn gwneud coffi go iawn mewn caffi!

Yna ychydig hwyrach yn y dydd cefais gyfarfod â golygydd theSprout. Roedd hi'n neis iawn ac yn ymddangos yn lyfli i siarad gyda hi, ac fe siaradom amdanaf i yn creu mwy o erthyglau am Ddinas Caerdydd yn erbyn Lerpwl.

Dydd Gwener 3 Chwefror

Heddiw fe wnes i gwpl o gwpanau o goffi i'r tîm, rhwng gwahanol ddyluniadau, ac roedd yn cŵl cael defnyddio peth gwneud coffi go iawn eto, ac roeddent yn hoffi fy mhaned! Yna cafodd pawb cinio 'caws a phâté' – roedd yn gymaint o hwyl ac maent yn ei wneud bob dydd Gwener!

Yna symudais ymlaen i orffen yr erthygl yma, a gofynnodd Gareth i mi os hoffwn greu llun i fynd gydag ef. Fy llun ydy logo Dinas Caerdydd sydd yn gysylltiedig â'm herthygl cynt am Gaerdydd yn mynd i Wembley. Felly ail-luniais y logo, newid o ychydig a'i lwytho i theSprout.

Dwi wedi cael cymaint o hwyl yn ystod fy mhrofiad gwaith ac mae wedi bod yr wythnos gorau erioed!

Byddwn hefyd yn hoffi dweud pa mor wych ydy theSprout a'r gwefannau eraill sydd yn rhan o CLICarlein. Da iawn i'r holl dîm sydd wedi creu'r gwefannau a'r holl bobl ifanc gwych sydd yn cyflwyno erthyglau

Dwi'n awgrymu dy fod di'n dweud wrth bawb am y gwefannau hyn, gan fod cymaint gallet ti wneud yn fan hyn.

Cadwa lygaid allan am fy erthygl nesaf am Bêl Droed Dinas Caerdydd.

Gwybodaeth – Profiad Gwaith

TheSproutDirect.co.uk – Cael Swydd

Erthygl Berthnasol: 10 Awgrymiad Ar Gyfer Profiad Gwaith

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.