Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Pyncs Caerdydd Yn Helpu Haiti

Postiwyd gan CLICdan o Bro Morgannwg - Cyhoeddwyd ar 04/02/2010 am 16:08
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Cerddoriaeth, Gwirfoddoli

English version

Mae’r band Pync Roc o Gaerdydd John Q Public yn mynd i roi elw eu EP newydd Voices Of Refusal i Gronfa Cynorthwyo Haiti.

Bydd yr EP, a ryddhawyd ar Chwefror 8, ar gael i’w lawrlwytho am ddim, tra bydd y band yn cymryd rhoddion ar gyfer yr ymdrech ddyngarol yn Haiti.

Bydd yr EP newydd yn cynnwys tri o draciau newydd sbon a gymerwyd o’r albwm sy’n ymddangos ganddynt yn 2010, ynghyd â fersiwn byw o hen ffefryn. Bydd yr EP yn rhyddhau ei hun, gyda chefnogaeth gan Go Steady Records.

I lawrlwytho’r EP am ddim cer i johnqpublic.bandcamp.com.

Neges oddi wrth y band:

“Am y deuddeg mis diwethaf, rydym wedi bod yn chwarae, ysgrifennu a recordio gyda’r nod o gyflwyno albwm o hyd llawn yn 2010.  Ond ar ôl trychineb Haiti rydym wedi penderfynu dosbarthu EP fer, yn cynnwys traciau o’r albwm sydd ar fin ymddangos, gyda’r elw i gyd yn mynd i Gronfa Cynorthwyo Haiti.

"Mae gan yr EP hon dri o draciau newydd sbon yn ogystal â fersiwn byw o hen ffefryn, a fideo o gerddoriaeth ar gyfer trac y teitl sef ‘Voices of Refusal’. Bydd yn rhyddhau ei hun, gyda rhywfaint o gefnogaeth oddi wrth Go Steady Records, a bydd ar gael fel Talu yn ôl Dymuniad. Bydd John Q Public yn trosglwyddo 100% o’r holl arian a wneir i Gronfa Cynorthwyo Haiti.

"Gydag argyfwng o’r maint hwn, i’r rhai hynny ohonom yn y DU sy’n ddigon ffodus i fod ag arian i wario ar nwyddau moethus, mae gennym gyfrifoldeb i helpu’r rhai hynny a effeithiwyd gan y daeargryn erchyll hwn. Mae Haiti yn un o wledydd tlotaf y byd, ac maent yn dibynnu yn gyfan gwbl ar gymorth rhyngwladol i ddod drwy’r erchyllter hwn.

"Mae EP Voices Of Refusal ar gael i’w lawrlwytho fel Talu yn ôl Dymuniad, fel y gall pobl dalu cymaint (neu cyn lleied) ag y gallant fforddio ei roi, am draciau pync roc GWYCH a hefyd y sicrwydd y bydd eu rhodd yn mynd tuag at yr achos dyngarol mwyaf mewn hanes diweddar.

"Bydd unrhyw beth y gallwn ei anfon yno yn cael ei dderbyn yn ddiolchgar gan y cannoedd o filoedd o Haitiaid sydd wedi colli popeth sy’n cynnwys eu cartrefi, eu meddiannau, a hyd yn oed eu teuluoedd.”

Dolennau:

Cronfa Cynorthwyo Haiti

John Q Public Myspace (Cerddoriaeth a gwybodaeth am y band a’u hymdrechion o ran gwaith cynorthwyol)

Os oes gen ti ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd tebyg, edrycha ar ein hadran Y Byd, Ewrop, y DU a Chymru  yng ein cyfarwyddiadur sefydliadau.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.