Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Rhywioldeb

Postiwyd gan Kinghamster o Abertawe - Cyhoeddwyd ar 08/05/2012 am 14:49
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Pobl, Materion Cyfoes

  • sexuality 1
  • sexuality 2

In English

Mae rhywioldeb yn beth mawr ym mywyd unrhyw un.

Does dim pwys os ydych yn hoyw neu beidio mae’n cael rhyw fath o effaith.

Does dim ots beth yw eich rhywioldeb, ni ddylech chi gael eich trin yn wahanol. Mae gan bawb yr hawl i wneud eu dewisiadau eu hunain yngl?n â beth i wneud yn eu bywydau.

Rwy’n meddwl fod bywyd yn galetach i bobl sy’n hoyw. Cafwyd eu herlid a’u bwlio am flynyddoedd a blynyddoedd. Pan oedd ein rhieni yn tyfu i fyny roedd pethau llawer yn waeth nag ydyn nhw heddiw. Os oeddech yn hoyw yn y dyddiau hynny byddwch chi fyth mor agored amdani. Mi fuasech yn byw bywyd dwbl er mwyn diogelu’ch hunan.

Y dyddiau hyn mae pawb yn llawer mwy agored am fod yn hoyw. Mae pobl ifanc yn cyhoeddi eu rhywioldeb yn eu harddegau cynnar ac yn cael eu derbyn oherwydd hynny. Rwy’n meddwl weithiau fod pobl hoyw yn dod a rhywfaint o fwlio arnynt eu hunain. Does dim rhaid i chi wisgo a bihafio yn ôl y stereoteip i fod yn hoyw. Mae gen i berthynas sy’n hoyw a bydd dim syniad gennych eu bod nhw ond bod rhywun yn dweud wrthych chi.

Yr un peth sy’n fy nhrallodi i yngl?n â rhywioldeb yw’r agwedd groes rhyw. Mae merched yn dweud bod merched sy’n hoyw yn ffiaidd sy’n anghywir, ond mae dynion hoyw yn giwt ac yn dymuno cael ffrind sy’n hoyw. Mae dynion yn dweud bod merched sy’n hoyw yn grêt a bod dynion sy’n hoyw yn anghywir a dylent ddim cael eu caniatáu. Rwy’n meddwl bod y ddau ryw yn hollol iawn. Mae’n lan i’r unigolyn pa rywioldeb ydynt a does dim un ohonynt yn gywir neu’n anghywir.

Rwy’n meddwl eu bod yn anghywir i unrhyw un, os ydynt yn hoyw neu beidio i fod yn orgyffyrddol yn gyhoeddus. Does dim angen i chi fod a’ch tafod wedi rhwymo at ei gilydd er mwyn dweud hwyl fawr i bartner. Mae cofleidiad a sws ar y boch neu’r wefus yn ddigon. Dydy pawb arall ddim eisiau gweld beth ydych chi’n gwneud ar eich pen eich hunan. Rydym i gyd yn haeddu’r hawl i fod gyda phwy bynnag rydym ni eisiau heb unrhyw sylwadau yngl?n â hynny. Yn fy marn i dylech chi fyw eich bywydau fel yr ydych chi eisiau a pheidio gadael i unrhyw un arall gwneud penderfyniadau ar eich rhan chi.

Tudalen Perthnasoedd o'r un rhyw

Llun: alexpete

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50