Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Sipsiwn Romani: Fy Stori

Postiwyd gan The Romani Cultural and Arts Company o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 29/07/2011 am 11:41
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Dawns, Addysg, Hanes

  • caravan

English version

Fis Rhagfyr 2010 cynhaliwyd astudiaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fel dilyniant i'r prosiect 'Pwy Ydych Chi'n Ei Weld?' (Hydref 2008).

Casgliad yr adroddiad cyntaf oedd bod sipsiwn a theithwyr yn un o'r pedwar grŵp oedd fwyaf tebygol o brofi gwahaniaethu yng Nghymru, ynghyd â phobl sydd yn profi salwch meddwl, ffoaduriaid ac ymofynwyr noddfa a phobl drawsryweddol. Mae'r adroddiad newydd yn edrych mewn manylder ar brofiadau pobl gyda ffrindiau, teulu a'r gymuned ehangach, cyflogaeth, mynediad i wasanaethau cyhoeddus a'r cyfryngau.

Yn ystod ysgrifennu'r adroddiad dywedodd y Comisiwn ei fod yn awyddus iawn i gael pobl yn dweud stori eu hunain yn hytrach na bod yn bwnc sylw rhywun o'r tu allan. Dyma'r rheswm eu bod wedi comisiynu pedwar stori ddigidol lle'r oedd pobl yn gallu siarad am brofiadau ei hunain.

Mae un o'r straeon yn cael ei ddweud gan Sipsiwn Cymraeg Isaac Blake, o'r safle Shirenewtown yng Nghaerdydd. Mae Isaac, sydd bellach yn gyfarwyddwr y Cwmni Diwylliant a Chelfyddydau Romani, yn prif drefnydd Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru.  Roedd Isaac yn ddewis amlwg i'r prosiect gan fod cymaint o'i waith drwy'r Celfyddydau Romani wedi'i ddylunio i godi ymwybyddiaeth o'r hiliaeth mae Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn ei ddioddef o ddydd i ddydd.

Mae Isaac yn dweud ei fod eisiau bod yn ddelfryd ymddwyn i bobl ifanc yn y gymuned. Yn benodol roedd eisiau i bobl ifanc fod yn fwy heriol o'r driniaeth maent yn derbyn ac i fod yn fwy uchelgeisiol. Mae'n falch iawn o'r effaith mae Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn ei gael.

"Ar ôl dim ond dwy flynedd o ddathlu yng Nghymru rydym yn dechrau gweld pobl ifanc yn sefyll i fyny yn yr ysgol ac yn datgan eu bod o etifeddiaeth Sipsi neu Deithiwr tra cynt byddent wedi cuddio eu hetifeddiaeth oherwydd ofni bwlio."

Rhan arall o waith Isaac ydy i amlygu diwylliant a ffordd o fyw Sipsiwn, Roma a Theithwyr ac i herio anwybodaeth 'Gorgers' a phobl y wlad. Yr anwybodaeth yma, mae ef yn credu, ydy gwraidd yr hiliaeth mae ein cymunedau yn profi.

Am wybodaeth bellach am Storiâu Digidol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol clicia yma.

Sefydliadau »  Prosiect Sipsiwn a Theithwyr Caerdydd

DELWEDD: Romany Caravan on Horkstow Road gan D H Wright

Erthyglau Perthnasol:

Sipsiwn Ifanc Ar-lein
Celebration Of Gypsy Culture
The Travelling Book Begins Its Journey...

Erthyglau Eraill Fy Stori:

Racism: My Story
Bullying: My Story
Clefyd Siwgr: Fy Stori
Epilepsi: Fy Stori
Addiction: My Story
Reflex Anoxic Seizures: My Story

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.