Sprout Yn Mynd I Gwestiwn Ac Ateb Etholiad
Pnawn dydd Mawrth gwelwyd antur fechan cyn-etholiad i fi ac aelodau eraill o’r Sprout wrth i ni gael gwadd i fynd draw i Red Dragon FM i ofyn cwestiynau i aelodau pleidiau’r Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr. Er nad wyf yn dilyn gwleidyddiaeth yn frwd, roedd gen i ddiddordeb mewn gweld beth roedd gan gynrychiolwyr y pleidiau hyn i ddweud yn arwain at un o’r etholiadau fwyaf cystadleuol yn hanes Prydain.
I gychwyn roedd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Nick Bourne AS. Cafodd ei grilio ar drethi, Tŷ’r Cyffredin, teithio ‘gwyrdd’ a ffioedd dysgu. Dywedodd na fyddai ei blaid, un sydd yn ddi-ffafriol yn Ne Cymru, yn anelu torri ffioedd dysgu i fyfyrwyr y dyfodol. Ond dywedodd yn ei farn bersonol ef, i helpu ein heconomi adfer ei hun, mae angen i ni hyfforddi pobl nawr a chael addysg am ddim iddynt i helpu cyflawni hyn, ond nid dyma’r ffordd roedd ei blaid yn teimlo.
Fel dyn sydd yn gyrru Toyota Prius ei hun (un o’r ceir fwyaf ymhongar sydd yn bosib ei gael, ac yn eironig mae’r rhan fwyaf sydd yn ei berchen yn wleidyddion…) roedd yn gyffrous iawn am ddyfodol teithio ac egni ‘gwyrdd’, yn enwedig yn De Cymru. Mae Llafur a’r Ceidwadwyr wedi awgrymu cael llinell drydanol o Paddington Llundain i mor bell ag Abertawe i leihau’r allyriad o’r gwasanaeth.
Pan gwestiynwyd os oedd Prydain am ddisgyn yn ôl i’r dirwasgiad ddaeth gyda’r llywodraeth Geidwadol ddiwethaf o dan Margaret Thatcher, dywedodd yn syml “Rydych chi’n pleidleisio am ddyfodol y wlad hon, nid y gorffennol.”
Yn ail i gymryd y sedd oedd Leanne Wood, AS Plaid sydd ar hyn o bryd yn eistedd ar Gynulliad Cymru yn y Bae. Yn ddynes o’r dyffrynnoedd go iawn ac aelod o’r blaid sydd weithiau yn cael ei gysidro yn genedlaetholgar a hefyd un sydd yn gwybod na fyddai byth efo’r pŵer llawn yn San Steffan, cwestiynwyd hithau yn naturiol ar bopeth Cymraeg. Gan fod Plaid yn un o’r prif bleidiau lleiaf yn rhedeg yng Nghymru, ni all gyflawni mwyafrif i ennill er gall ennill seddi yn y llywodraeth fel rhan o glymblaid (grŵp o bleidiau) os nad yw’r etholaeth dydd Iau yn darganfod enillydd unfrydol.
Pan ofynnwyd a oedd Plaid yn blaid genedlaetholgar dan ffugenw, atebodd nad oedd Plaid yn blaid gwbl Cymraeg ei hiaith fel mae llawer yn ei feddwl ond i ddweud y gwir dydy’r rhan fwyaf o’i gefnogwyr a’i wleidyddion ddim hyd yn oed yn siarad yr iaith. Roedd hyn ychydig yn aflonyddus gan fod Plaid yn enwog am geisio diogelu iaith Cymru ond dydy gwleidyddion ei hun ddim wedi ei ddysgu a ddim yn ymweld fel bod bwriad i wneud hynny. Mae hi’n credu fod Plaid yn caniatáu i farn ehangach gael ei glywed ar gyfer yr etholaeth a ni ddylai gael ei gyfyngu i’r tri phrif blaid.
Gofynnais i Leanne am gael swydd wedi i mi orffen fy addysg, pwnc sydd yn effeithio nifer ohonoch a miloedd mwy dros Brydain. Mae 45,000 o swyddi wedi’i golli o dan Lafur yng Nghymru ers iddynt ddod i bŵer 13 mlynedd yn ôl a dydy’r cwymp economaidd ddim wedi helpu’r sefyllfa gan fod Cymru nawr efo’r gyfran uchaf o ddiweithdra ym Mhrydain. Dywedodd byddai pharti yn ymdrechu am swyddi gwyrdd, rhai oedd yn helpu gwneud egni adnewyddadwy, a bod cynlluniau mewn lle i roi gwerth £2,500 o hyfforddiant i’r rhai sydd wedi bod yn ddi-waith am 6 mis. Yr osgiliad mwyaf i Blaid ydy eu bod eisiau torri ffioedd dysgu i fyfyrwyr Cymraeg yng Nghymru, ond fe ddywedodd fod diddymu nhw yn y blynyddoedd nesaf yma yn afrealistig.
Arweinydd Cymraeg y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, oedd ein trydydd dioddefwr a’r un diwethaf, gan fod Llafur wedi mynychu C&A gynharach yn y dydd.
Roedd atebion Kirsty wedi anelu fwy tuag atom ni, pobl ifanc sydd yn pleidleisio am y tro cyntaf neu bydd yn gwneud erbyn yr etholiadau nesaf. Dywedodd bod ei phlaid eisiau cael gwared ar yr isafswm cyflog i rai 16 oed gan ei fod £2 yn llai nag cyflog rhywun 21 oed, yn dadlau fod dy goffi di'r un pris os wyt ti’n 16 neu’n 21, dydy byw ddim yn rhatach am dy fod yn ifanc. Ia wir. Yn fy swydd gyntaf i pan oeddwn yn 16, roeddwn yn cael ychydig dros £3 yr awr a dim ond 4 mlynedd yn ôl oedd hyn.
Dyw Kirsty ddim yn credu mai addysg uwch ydy’r ateb gorau i’n gwlad, ond fe ddylai gael ei selio ar beth sydd yn gywir i unigolyn ac yn lle addysg ffurfiol, fe ddylai prentisiaeth ystyrlon fod ar gael i’r rhai sydd ddim yn academaidd ond eisiau cael eu hyfforddi.
16 dylai’r oed pleidleisio fod, meddai Kirsty. Pan oeddwn i yn 16 doeddwn i ddim yn poeni am wleidyddiaeth ond mae’r etholaeth hwn wedi gweld newid ac mae’n bwnc sydd yn cael ei siarad am yn aml, nid yng Nghymru yn unig ond dros Brydain. Mae hi eisiau cael i mewn i ysgolion i ddysgu pobl ifanc beth yn union mae gwleidyddiaeth yn ei feddwl, nid yr hen bethau diflas rydym wedi arfer gydag yn unig.
I mi, fe sylweddolais fod pobl ifanc yn talu sylw i wleidyddiaeth ychydig ddyddiau yn ôl yn Solus ym Mhrifysgol Caerdydd: roedd Nick Clegg yn siarad am *9yb* ac, gan ei fod yn undeb myfyrwyr yng nghanol pentref myfyrwyr, roeddem yn meddwl byddai’r lle yn wag mor fuan yn y bore. Roeddem yn anghywir: dwi erioed wedi gweld neuadd prifysgol mor llawn o fyfyrwyr am 9 y bore. Tra golygai hyn na fyddem yn gallu herwgipio Mr Clegg am gyfweliad anghynhwysol gyda’r Sprout fel yr oeddem yn gobeithio, roedd yn dangos fod pobl ifanc yng Nghymru yn pryderu llawer mwy am yr etholiad hwn nag yr oedd pobl yn barod i gydnabod.
Gall wrando ar y sesiwn ar wefan Red Dragon FM isod:
http://www.reddragonfm.co.uk/Article.asp?id=1778473







