Streicio Yn Taro Cymru
English version
Fel mae nifer ohonoch yn gwybod yn barod, mae streic yn digwydd dros Prydain.
Mae tua 170,000 o weithwyr yng Nghymru yn unig yn cymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol dros y newidiadau pensiwn. Mae gweithwyr cyhoeddus yn dadlau fod y newidiadau yma i'w pensiynau yn golygu byddant angen talu mwy i mewn i'w pensiynau wrth weithio'n hirach am lai.
Canlyniad y streic yma i ni bobl gyffredin? Wel, i gychwyn mae nifer o lyfrgelloedd a gwasanaethau casglu gwastraff wedi cael eu heffeithiom tra mae holl wasanaethau Bws Caerdydd wedi'u canslo.
Nid yn unig hynny, ond y cur pen mwyaf gallai fod y ffaith bod disgwyl fod mwy na 1,500 o ysgolion yng Nghymru am gau, gyda phob ysgol yn Blaenau Gwent, Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf wedi cau.
Gan gyfeirio at gau'r ysgolion, mae'r bobl yn NUT Cymru yn dweud nad dewis hawdd oedd penderfynu streicio, gydag un aelod yn dweud fod "hwn ddim yn weithred rydym yn dymuno a hyd yn oed ar y cyfnod yma byddwn yn hoffi i'r llywodraeth ddweud eu bod eisiau siarad." Tra ar y llaw arall, mae'r dirprwy Prif Weinidog Nick Clegg wedi dweud fod cynnig llywodraeth Prydain yn un "hael".
A dyma'r pwnc hoffwn i chi drafod. Sut mae'r streic yn effeithio ti? Wyt ti hanner ffordd drwy dy TGAU, Lefel A neu gwrs Prifysgol ac yn meddwl ei fod yn drallodus dy fod yn colli diwrnod o ddysgu? Wyt ti'n cefnogi penderfyniad yr athrawon a streicwyr eraill? Neu wyt ti'n hapus i dreulio trwy'r dydd yn y gwely? Gad i ni wybod yn yr adran sylwadau.
Neu os ydy dy fysedd di'n cosi am ymarfer corff, yna pam ddim ysgrifennu ar gyfer NadoCLIC eleni?
Ffynhonnell – Newyddion y BBC
Delwedd - I Can't Afford An Actual Sign gan Thomas Hawk







