Y 411 Ar Fwlio
Os wyt ti yn yr ysgol ac ychydig yn wahanol, disgwylia i gael dy fwlio,
Os wyt ti’n wahanol oherwydd dy ddiddordebau neu hobïau, neu nad wyt ti’n mynd allan bob nos Wener i yfed gyda dy gyd-ddisgyblion, neu hyd yn oed am liw dy groen neu sut ti’n gwisgo, disgwylia cael dy fwlio.
Tra efallai bod rhai dulliau digonol o ddelio gydag ef yn briodol yn ystod amser ysgol, weithiau dydy ysgolion ddim yn dilyn hyn. Mae rhai ysgolion yn well nag eraill yn delio gyda bwlio. Efallai eu bod yn esbonio problem fel ‘profocio diniwed’, yn dweud ei fod yn ‘adeiladu cymeriad’. Dyw e ddim, a ni ddylai ddigwydd. Mae delio gyda bwlio yn rhoi enw drwg i ysgolion a gwrthdaro diangen i ddelio gyda.
Dyma rhai camau i’w cymryd os ydy hyn wedi digwydd i ti:
1) Cadwa ddyddiadur. Trwy gadw dyddiadur ac ysgrifennu popeth sydd yn digwydd yn ddyddiol, mae gen ti dystiolaeth o beth sydd wedi digwydd i ti. Os nad yw athrawon yn dy gredu neu’n pasio ti ymlaen i athro arall, mae gen ti’r darn o wybodaeth hanfodol hwn. Os wyt ti wedi bod yn ddioddefwr o fwlio syber, safia’r negeseuon testun ar dy ffôn symudol a/neu negeseuon e-bost/MSN ar dy gyfrifiadur. Printia'r rhain a chadw nhw yn dy ddyddiadur. Yn achos bwlio corfforol cer i’r nyrs neu dy ddoctor neu hyd yn oed yr ysbyty os oes angen i gael manylion o beth ddigwyddodd i ti. Nid yw ysgolion yn debygol o gymryd ti o ddifrif heb ryw fath o nodyn meddygol.
2) Dweud wrth athro. Gwna nodyn o ba weithrediad maent yn cymryd. Cadwa hwn yn dy ddyddiadur a noda pa mor hir mae’n cymryd i’r bwlio stopio, os ydyw’n stopio.
3) Arhosa gyda ffrindiau. Os oes unrhyw beth yn digwydd, dy ffrindiau fydd dy dystion.
4) Dweud wrth dy rieni os nad yw dy athro di’n gwneud dim. Os wyt ti’n cael dy fwlio, bydd dy rieni yn gwneud unrhyw beth i amddiffyn ti a sicrhau fod chdi’n cael yr amser gorau yn yr ysgol sydd yn bosib.
5) Efallai bydd dy rieni yn cysylltu gyda’r ysgol i wneud cwyn ffurfiol os nad yw’r bwlio wedi cael ei ddelio gyda. Ni ddylet ti orfod cysylltu’r ysgol i ofyn pam fod y bwlion ddim wedi cael eu cosbi; dyma swydd yr ysgol. Os nad ydy’r addysgwyr yn gwneud hyn yna nid ydym yn gwneud eu swydd, ac mae’n rhaid i ti hysbysu rhywun ar lefel uwch.
6) Ysgrifenna lythyr i’r prifathro gyda dy rieni, yn manylu beth sydd wedi digwydd a pam dy fod di’n ysgrifennu’r llythyr. Cadwa fo’n fyr; nid oes neb yn mynd i fod eisiau darllen deg tudalen o ddigwyddiadau. Cadwa i’r pwynt hefyd. Gyrra gopi i lywodraethwyr yr ysgol hefyd; byddai’n cael ei godi mewn cyfarfod mae’n debyg. Bydda’n llym am ba mor hir ti’n barod i ddisgwyl am ymateb.
7) Os dydy hyn ddim wedi gweithio, gyrra gopi o’r llythyr i dy AS. Os ydy dy fwlio di wedi bod yn hiliol, homoffobig neu’n gorfforol a dydy’r ysgol ddim yn gwneud ei waith mewn amddiffyn ti yng Nghonfensiwn Hawliau Plant UNICEF. Os wyt ti wedi cael bwlio hiliol, gyrra gopi i’r Sefydliad Cydberthynas Hiliol ac esbonia pam ti wedi’i yrru iddynt. Os wyt ti wedi cael bwlio homoffobig, gyrra gopi i’r Comisiwn Cydraddoldeb.
Yn bennaf, plîs paid â gadael iddo effeithio ti yn ddifrifol. Gwna beth bynnag bosib i gadw’r hapus a chadw mewn meddylfryd positif. Os wyt ti i ffwrdd o’r ysgol llawer gyda phroblemau iechyd wedi’i hachosi gan fwlio (creda fi, gall ddigwydd) gwna waith ysgol tra ti ffwrdd. Gwna ychydig o waith cwrs ieithoedd a Saesneg neu efallai adolygu TGAU Bitesize.
Mae Bwlio yn broblem fawr sydd ddim yn cael ei gyfeirio ato; mae’n dod o gasineb ac anwybodaeth pobl, fel arfer o’u rhieni a’u cred. Nid yw’n fai arnat ti o dan unrhyw amgylchiadau. Mae torf o gymorth ar gael ar y Rhyngrwyd a gan ffrindiau sydd wedi cael eu bwlio bydd yn deall ac yn gwrando arnat ti. Efallai ei fod yn ymddangos yn anodd, ond siarada gyda dy rieni am sut yr wyt ti’n teimlo, a bydda nhw, hefyd, yn helpu ti i oresgyn dy fwlio.
Mae cadw dy iechyd meddwl yn gyfan yn bwysig iawn, hyd yn oed pethau fel dy hunanddelwedd a hyder, gall hyn niweidio dy hunan-barch yn ddifrifol ac arwain at deimlad cywasg yn dy hun.
Mae bwlio yn aml yn cael ei feddwl fel rhywbeth arferol sy’n digwydd; profocio diniwed. Nid ydyw. Os byddai nifer o’r pethau sydd yn digwydd mewn ysgol yn digwydd tu allan i’r ysgol byddent yn dorcyfraith. Mae llawer o blant yn cael eu curo, erlidio, heclo, senglo allan ac yn cael eu gwneud i deimlo fel sgỳm y byd bod dydd maent yn cerdded i mewn i’r ysgol. Mae rhai achosion o fwlio yn gallu canlyn yn y senarios gwaethaf o anhwylderau bwyta, hunan niweidio, a hunan laddiad.
Y peth gwaethaf ydy fod rhaid i ti fod yno. Os byddai’n swydd byddet yn gadael. Dyma pam mae mor bwysig i adrodd bwlio, i stopio’r peth rhag digwydd. Mae pob brwydr ti’n ymladd yn erbyn dy ysgol i atal bwlio yn frwydr wedi’i ennill i blentyn arall.
Drwy sicrhau ei fod yn stopio nawr, byddet yn helpu cymaint o bobl eraill yn y dyfodol.
DELWEDD: iboy_daniel






