Y Ddelwedd Ddelfrydol?
Mae pobl ifanc, bechgyn a merched, o dan bwysau parhaol i edrych y ffordd mae’r cyfryngau yn dweud y dylent.
Yr eiconau steil a ffasiwn ydy’r delweddau awgrymir y dylai pobl ifanc fod yn debyg iddynt, a dyma beth mae rhai eisiau bod; mae pobl ifanc yn wynebu brwydr gyson am eu pwysau a’u golwg, sydd yn gallu canlyn mewn ansicrwydd mawr.
Ydy modelau ar fai? Gyda’u cyrff tenau fel ffon a’u prydferthwch trawiadol, maen nhw’n cael eu darganfod gan asiantaethau a’u mowldio fel clai. Tu ôl i lenni’r arian ac edrychiad syfrdanol mae yna fyd o boen a drama.
Efallai nad yw eu bywydau mor hawdd a pherffaith ag y mae pawb yn ei feddwl; maen nhw hefyd o dan bwysau mawr i edrych fel y disgwylir. Oes unrhyw un yn barod i newid beth ydy prydferthwch? Gyda Phrydain yn gwario £3 biliwn pob blwyddyn ar lawdriniaeth blastig, dwi ddim yn rhy sicr.
Pan fydd y byd yn penderfynu newid eu barn am beth ydy prydferthwch, efallai bydd y marwolaethau o anorecsia yn lleihau.
Erthyglau Perthnasol:
Seis Sero
Teimlo’n ‘Thinspired’?
Am wybodaeth ar ble i gael cymorth a chyngor ar bob math o faterion iechyd ymwela â’r cyfeirlyfr iechyd.
Am wybodaeth bellach ar anhwylderau bwyta clicia yma.
DELWEDD: außerirdische sind gesund







