Yaaarrrrrr!
Avast y llebanod tir a'r cŵn llwg!
Mae heddiw'n Medi'r 19eg, felly rho barot ar dy ysgwydd a gafael mewn fflagen o rym wrth i ni ddathlu 'Diwrnod Cenedlaethol Siarad Fel Môr-leidr'.
Wedi cychwyn yn 1995 gan John Baur a Mark Summers (adnabwyd fel Ol' Chumbucket a Cap'n Slappy), mae rhywbeth gychwynnodd fel jôc wedi tyfu yn sydyn i mewn i ffenomena byd eang, yn lledaenu ar draws y rhyngrwyd i beth adnabwyd nawr – mewn ffordd ddigri – yn ŵyl.
Fel mae Wikipedia yn ddweud yn briodol: byddai arsyllwr yr ŵyl yma yn cyfarch ffrindiau nid efo "Helo," ond gyda "Ahoy, me hearty!" Mae'r ŵyl, a'i ymlyniad, yn dod o farn ramantus o Oes Aur Môr-ladrad. Mae'r ŵyl yn ymlyniad mawr yng nghrefydd yr Anghenfil Sbageti Hedfan.
Os nad oes gen ti barot, cwch neu farilan o rym gerllaw yna paid phoeni, gan fod llawer o ffyrdd eraill i fwynhau Diwrnod Cenedlaethol Siarad Fel Môr-leidr. Er esiampl: oeddet ti'n gwybod fod Facebook yn gallu siarad Môr-leidr?
Sut i osod dy iaith Facebook i 'Môr-leidr':
1. Logia i mewn i Facebook
2. Sgrolia i waelod dy dudalen, a chwilio am y gosodiad iaith. Bydd hwn yn darllen 'English (UK)' neu 'Cymraeg' mae'n debyg.
3. Clicia arno, a bydd yn rhoi rhestr o ieithoedd eraill
4. Edrycha uwchben 'English (UK)' a dylet weld 'English (Pirate)' (mae hefyd yn hwyl i'w newid i iaith 'Upside Down' neu beth am geisio 'Cymraeg'?)
5. Cer i dy broffil. Os mae wedi gweithio, yna byddet wedi cael dy ddyrchafu i "Cap'n". Cer i'r Porthladd Cartref (Home Port) a chychwyn mwynhau Facebook Môr-leidr!
Cysylltiadau:
Canllaw i siarad fel môr-leidr
http://www.yarr.org.uk
Erthygl berthnasol:
Dadl Colandr Yr Anghenfil Sbageti








1 Comment – Postiwch sylw
Jeff the Fridge
Rhoddwyd sylw 6 mis yn ôl - 24th November 2011 - 19:03pm
YARRRRRR