Amddiffyn Crefydd
English version
Mae hwn yn ymateb i Rantio Am Grefydd.
Mae'n glir nad yw crefydd, fel llawer o sustemau cred eraill, bod hyn yn wleidyddol, cymdeithasol neu ariannol, heb ei ddiffygion. Cyn i mi gychwyn, hoffwn wneud yn glir mai lleiafrif bychan o gredwyr crefydd sydd yn "gwthio" crefydd lawr corn gwddf pobl. Nawr fod hynny'n glir, fe gychwynaf.
Mewn meddwl modern, gyda'r ail-ymddangosiad o grefydd ar amryw lefel ac am amrywiaeth eang o resymau, rydym yn gweld bywyd modern yn cymysgu gyda chrefydd ar raddfa na welwyd ei thebyg o'r blaen.
Er esiampl, yr ymddangosiad o Ddiwygiad Iddewiaeth sydd yn ceisio darganfod yr ystyr a'r trosiad o orchmynion penodol sydd wedi'i rhoi i Ddyn, fel efo'r un enwog yn Lefeticius ble mae'n galw'r rhai sydd yn gorwedd gyda dyn fel gyda gwraig yn "ffieidd-dra". Gad i ni archwilio hyn am funud. O feddwl am gyflwr yr Israeliaid yn cael eu diarddel o bobman, rhywbeth sydd wedi peidio digwydd hyd yn oed yn y ganrif ddiwethaf, fel y diarddeliad o'r gymuned Iddewig yn 1290, y "Gorchymyn Diarddel" yn Lloegr a nifer mwy dros y byd, ydy hi er lles y gymuned i stopio atgenhedlu? Nac ydy.
Heb fodelau newydd o ddyfais feddygol a gwyddonol fel In Vitro Fertilisation (IVF) a'r polisïau mabwysiadu rhyddfrydig rydym yn ffodus o gael yn y ganrif hon, byddai wedi bod bron yn amhosib i bobl gael plant os oeddent yn gyfunrywiol yng nghyfnod yr Iddewon hynafol. Roedd hi o fudd i Iddewon annog cenhedliad ar y raddfa hon, a tra mae'r adnod enwog yma yn cael ei chodi dro a thro, dwi'n meddwl ei fod yn anhygoel sut does neb i weld yn amlygu crefydd gyda throsedd. Mae 50% o bobl ym Mhrydain "heb grefydd" yn ôl arolwg Agweddau Cymdeithasol Prydain (BSA), ond mae trosedd casineb LHDT wedi codi 21% fel adroddodd The Guardian. Gaf i hefyd ychwanegu fod y farn hon yn erbyn y rhai yn y gymuned LHDT (Lesbiad, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol) yn erchyll, ac mae'r dehongliad dwi wedi'i ddefnyddio i esbonio'r adnod hon yn un uniongred.
Yn draddodiadol, mae Paganiaeth wedi bod efo barn geidwadol ofnadwy yn erbyn pobl gyfunrywiol, ond bellach wedi newid ei farn. Tybed sut beth oedd y raddfa erledigaeth ym Mhrydain cyn cychwyn Cristnogaeth, ond nid oes neb yn sôn am hyn. Hoffwn hefyd ychwanegu nodi'r lledaeniad o drais homoffobia sydd yn digwydd ar raddfa fawr yn fyd-eang ar hyn o bryd, fel yn Uganda, neu'r trais sydd yn wynebu'r gymuned LHDT ar y cyfan.
Nid yw'r weithred o'r gosb eithaf ar y rhai sydd yn hoyw mewn Iddewiaeth wedi cael ei weithredu mewn dau fil o flynyddoedd. Daeth y gymuned Iddew Uniongred Modern yn Israel allan i groesawu pobl gyfunrywiol i mewn i synagogau ac mae rhai rhannau o Iddewiaeth Ddiwygiedig yn hyd yn oed caniatáu priodas un-rhyw. Oes posib dweud hyn am weddill yr UDA? Na, yn anffodus ni allem. Roedd erthygl ddiweddar cyhoeddwyd gan Diva, cyhoeddiad blaenllaw i'r gymuned LHDT, yn amlygu'r ymddangosiad tanddaearol o Imamiaid yn Islam yn caniatáu priodasau un-rhyw. Er hyn, mae Islam gyda'i holl ddiffygion ac yn cael ei gysidro'n llym neu'n gadarn yn draddodiadol, mae rhai rhannau yn caniatáu i briodasau un-rhyw ddigwydd.
Yn ychwanegol, nid yw nifer o gredwyr crefydd yn gweld y Beibl fel un wedi'i "ysgrifennu'n ddwyfol" e.e. nid Duw ysgrifennodd y llyfrau, ond ysbrydolodd nhw yn ddwyfol. Yn bendant nid yw Iddewiaeth Ddiwygiedig, nac rhai rhannau o Gristnogaeth. Mae llenyddiaeth wedi'i ysbrydoli yn ddwyfol yn gallu caniatáu camgymeriadau a'r amlygiad o gasineb tuag at y rhai ysgrifennodd y llyfr; fel gyda Lefiticus. Yn ychwanegol, mae nifer rhannau o grefydd yn ymhyfrydu yn y rhannau hynny sydd yn bygwth "damnedigaeth"; e.e. adroddir fod Iesu wedi dweud wrth Ioan yn Ioan 13:34 "Car dy gymydog fel ti dy hun", ac mae gweithredu unrhyw gasineb tuag at gymunedau lleiafrifol yn anghytuno'n sylfaenol gyda hyn.
Mae rhai crefyddau, fel y rhai Abrahamig undduwiaeth, a hyd yn oed crefyddau Vedic/Karmic, yn credu mewn tynged cyn benderfynol, sydd yn golygu fod grym uwch wedi dewis ein llwybr i ni yn barod. Os yw hyn yn gywir, os ydy dyn yn cael ei greu yn nelwedd Duw (Genesis), mae erledigaeth unrhyw un yn enw crefydd yn anghytuno'n llwyr gyda "Yr Arglwydd a roddodd, a'r Arglwydd a ddygodd ymaith". Gallai gael ei roi i mewn i dynged rhywun y dylent fod yn gyfunrywiol; yna os wyt ti yn anghytuno gyda hynna, pa fath o gredwr crefydd wyt ti sydd eisiau lladd y bobl hoyw ac felly'n anghytuno gyda Duw a chynlluniau Duw? Mae'n ceisio caniatáu ei gasineb personol yn enw Duw: felly, nid yw'n gredwr crefydd. Disgrifiad tebyg o'r person yma, sydd yn defnyddio crefydd i fodloni anghenion ei hun, yn "berson eithaf cul ei feddwl a phenboeth sydd eisiau lladd gan ddefnyddio crefydd fel bwch dihangol".
Dwi wedi defnyddio'r pwnc o gyfunrywioldeb mewn crefydd gan mai dyma oedd yr un ddefnyddir yn erthygl BethanTheBarmy, ond mae llawer iawn o gasineb gall dyn ei gael. Ac efo'r ddwy ddadl ddiwinyddol eithaf sylfaenol yma, gallet drechu pob un ohonynt.
Un ffilm sydd yn amlygu trafferthion y rhai sydd yn LHDT ydy Boys Don't Cry, ble mae'r prif actor Hilary Swank yn chwarae person trawsrywiol benyw i wryw yn y cyfnod trawsnewid. Y stori ydy ei fod yn disgyn mewn cariad, ac yna, yn cael ei dreisio yn rhywiol yn fwystfilaidd, ei drywanu, ei guro a'i ladd. Mae'r ffilm wedi'i selio ar stori wir, ac nid yw'r rhai a wnaeth hyn yn grefyddol. Ond os oeddent, byddai cwyno wedi bod.
Nid yw'r erledigaeth afiach o'r gymuned LHDT trwy hanes dyn wedi cael ei gyflawni gan grefydd yn unig, ond gan gysgod tywyllach dyn ar y cyfan. Wrth edrych ar hanes, rydym yn sydyn i labelu rhyfeloedd fel "crefyddol", ond mewn gwirionedd nid yw crefydd byth yn tyfu yn ei eithafiaeth na'i ffydd heb ryw fath o erledigaeth ar raddfa fawr o'r grŵp yna; er esiampl, yr Holocost a pholisi tramor eithafol Israel.
Mae unrhyw ffurf o eithafiaeth mewn crefydd yn gallu darganfod ei wreiddiau o fewn casineb gwleidyddol cymdeithasol, erledigaeth, newynu neu ryfel. Os edrychwn ar y gwledydd sydd wedi disgyn i mewn i eithafiaeth, crefyddol neu beidio, byddwn yn darganfod olrhain o'r materion yma; er esiampl, ydym ni wir yn meddwl os na fyddai llywodraeth Somalia wedi datgymalu, ac os na fyddai newynu yn digwydd, na fyddai'r al-Shabab yn bodoli hyd yn oed? Neu os byddai polisi tramor Americanaidd ddim wedi dechrau bomio rhannau o Bacistan, byddai pobl ddim yn troi tuag at eithafwyr Islamaidd i roi bwyd iddynt pam fydd eu cnydau wedi'u dinistrio? Mewn amseroedd eithafol, mae pobl yn troi at ddatrysiadau eithafol ac yng nghynllun mawreddog dynoliaeth, nid yw'r un yn arbennig o dda i'n goroesiad.
Mae anffyddiaeth fodern efo syniadau Dawkins a Hitchens wedi gwneud llawer i ddynoliaeth, yn debyg iawn i grefydd. Ar yr un amser hefyd, mae wedi newid y rhai sydd efallai wedi bod yn sylfaenwyr hanesyddol gyda chrefydd i fod yn sylfaenwr gydag anffyddiaeth; efallai bod anffyddwyr milwriaethus yn gwrthod ac yn nawddogi credwyr neu'n ymylu ar gasineb o grefydd. Yn sicr mae hyn yn amnewid un sustem o gred ac un dogma gydag un arall ac efo'r un canlyniadau? Mae'n cael effaith niweidiol ar wledydd fel Kyrgyzstan ble mae'r rhai sydd yn grefyddol yn cael gwadu eu hawliau etholiadol. Hyd yn oed nawr yn Tsiena mae'r rhai sydd yn addoli yn gorfod gwneud hyn yn gyfrinachol. Er hyn, tra dwi wedi dweud hyn, fel y rhai sydd yn eithafol mewn crefydd, mae'r rhai sydd yn eithafol mewn anffyddiaeth yn brin, gyda'r mwyafrif yn heddychol.
Ond, mae anffyddiaeth wedi agor y drws i air rhydd, trafodaeth a dadl; dwi'n croesawu hyn yn gyfan gwbl a dyma, yn ddadleuol, ydy act gorau anffyddwyr hyd yn hyn, yn agor y drws sydd wedi bod ar gau am filoedd o flynyddoedd, ac yn sialensio pobl mewn ffordd nad ydynt o'r blaen. Pam ddaw at grefydd, mae cymaint o wirionedd ag y mae pobl; pwy ydw i i farnu, ac yn fwy pwysig, pwy ydw i i fod yn ffroenuchel yn foesol?
Fel cymdeithas, rydym mewn dyled i grefydd. Cyn i grefydd drefnus ddod i Brydain, roeddem yn byw mewn sustem o ryfeloedd llwythol Celtaidd ble roedd lladd a thrais rhywiol yn ddigwyddiadau arferol. Mae nifer rhan o'r Beibl wedi cael eu hysgrifennu yn benodol i mewn i gyfraith, a heb y cwmpas moesol hwn, ni fyddem wedi symud ymlaen mor sydyn ag yr ydym dros y ddau fil flynedd diwethaf. Wrth gwrs, mae'n gywilydd fod dynoliaeth angen eu bygwth gyda damnedigaeth er mwyn peidio treisio neu ladd ei gilydd, ond, er hyn, rydym wedi buddio ohono mewn miloedd, os nad mwy, o ffyrdd.
Ym Medowin Saudi Arabia, rhoddodd cychwyniad Islam statws i ferched mewn cymdeithas na fyddai ganddynt gynt; mae hyn yn cynnwys yr hawliau i etifeddiaeth (rhywbeth roedd pobl Prydain yn unig yn ei gael dros y ddau gan mlynedd diwethaf) ac yr hawl i ferch fod yn berchen ar arian ei hun. Islam hefyd gyflwynodd meddygaeth fodern, a tra bod Ewrop yn disgyn i mewn i anrhefn wedi cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig, roedd Baghdad a Alexandria yn ganolfannau byd eang ar gyfer meddygaeth ac ysgoloriaethau. Mae hefyd wedi cael ei gwymp mewn cymdeithas, ond mae holl sustemau crefyddol (ac anghrefyddol) wedi; gwthiodd y sustem Gomiwnyddol yn Rwsia canodd o filoedd o Iddewon oedd yn dianc o erledigaeth, a'r pererinion Piwritanaidd yn yr Unol Daleithiau yn lladd merched oedd yn ymddangos i fod yn wrachod yn greulon. Yn cael eu llosgi gan bobl oedd efo neges wyrgam a chlir, yn arwain at y Treialon Gwrachod Salem gwarthus bellach.
Yn fyr, mae gen i lawer o amser am gredwyr crefydd sydd yn chwilio i ail ddehongli eu testun gyda barn wahanol, i anffyddwyr, agnostig. Ond nid oes gen i amser o gwbl i anffyddwyr milwriaethus sydd efallai yn chwilio i frandio fi fel un hurt, anneallus ac eisiau difa crefydd yn ei holl ffurf, Mae'n dda ailystyried safle'r person arall i uchafu dy ddadl, i’w ledu ac i fod yn fwy ystyriol. Nid oes gen i amser i eithafwr o unrhyw fath. Mae'r mwyafrif o'r erchyllter sydd yn cael ei wneud yn enw crefydd yn cael ei ddefnyddio fel bwch dihangol ar gyfer cynnydd ariannol; er esiampl, y gaethfasnach arweiniodd at bobl yn cael eu dwyn o Affrica a'u gorfodi i weithio ar y tir yn yr UDA, neu wladychiaeth; sydd yn gwneud i ti feddwl, pam nad ydym yn rhoi cymaint o ymdrech, ystyriaeth a thrafodaeth a hyn mewn cyfalafiaeth?
Nodyn Is-Olygydd: Mae'r farn yn yr erthygl hon yn rai'r awdur, a ddim o reidrwydd yn farn theSprout. Anghytuno gyda'r erthygl hon? Gad sylwad isod neu cyflwyna erthygl dy hun.
Gwybodaeth » Y
Byd, Ewrop, y Du a Chymru » Crefydd
Gwybodaeth » Y
Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Dioddefwyr
Trosedd » Trais Rhywiol
Gwybodaeth » Teulu
a Pherthnasau » Bod
yn rhiant » Babanod
Sefydliadau » Loud
and Proud: Cardiff LGBT Youth Provision
DELWEDD: Sistine Chapel gan Rob Sheridan







