Welcome to The Sprout! Please sign up or login

AR-OLWG - Y Cychwyniad!

Posted by claireCLIC from Blaenau Gwent - Published on 16/08/2010 at 16:45
0 comments » - Tagged as Education, People, School Holiday Activities, Technology, Travel, Work & Training, Volunteering, Yn Gymraeg

  • arm wrestle
  • aqua
  • role play
  • sheet
  • feedback
  • isp
  • arlwg

English version

Fel mae’r rhai ohonoch oedd yn y Preswyl Cynllunio yn fis Mai yn gwybod, mae CLIC yn cychwyn Arolygiaeth Gwybodaeth Ieuenctid!

Felly beth ydy Arolygiaeth Gwybodaeth Ieuenctid?

Y syniad yw gwneud yn siŵr fod y wybodaeth ti’n ei gael ar-lein, yn y siop wybodaeth leol ac o nifer o lefydd eraill, yn gyfoes, yn gywir ac o ddefnydd. Rydym wedi recriwtio grŵp o Arolygwyr Ieuenctid rhwng 11 a 25 oed i wneud hynny.

Cawsom ein Preswyl dros nos AR-OLWG/I-SPECT cyntaf yn Nantyr ar ddydd Gwener 30 a dydd Sadwrn 31 Gorffennaf. Dyma le cawsom yr enw AR-OLWG/I-SPECT. Yn y preswyl cawsom efelychiadau canu tafarn gwych (mewn ffashiwn Shooting Stars); gweithdai a chynllunio sut oeddem yn mynd i symud ymlaen efo pethau; taith gerdded dros draphont dŵr yn Llangollen a llwyth o fwyd! Diolch pawb am y gwaith caled y penwythnos hwnnw.

Rydym yn mynd i roi pecyn hyfforddiant at ei gilydd i’n Harolygwyr Ieuenctid; ymweld ag a marcio Gwasanaethau Gwybodaeth i bobl ifanc ar sut maent yn gweithio; rhoi cyfle i bobl ifanc dros Gymru i gymryd rhan mewn datblygiad cenedlaethol fydd yn dda i dy CV a dysgu, yn ogystal â bod yn gymdeithasol a hwyl! Mae llawer o fuddion eraill mewn bod yn rhan… i ddarganfod mwy rho gyfle arni.

Bydd preswyl arall tuag at ddiwedd y flwyddyn… felly byddaf yn gadael i ti wybod y diweddaraf.

Os hoffet wybod mwy neu bod yn ran ohono, e-bostia Claire@cliconline.org.uk

Delwedd: Arpingstone

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.